William John Philpin Jones

Oddi ar Wicipedia
William John Philpin Jones
Ganwyd17 Awst 1913 Edit this on Wikidata
Llandrindod Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mehefin 1992 Edit this on Wikidata
Malpas, Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Birmingham School of Art Edit this on Wikidata
Galwedigaethcartwnydd, milwr Edit this on Wikidata

Roedd William John Philpin Jones (Jon) (17 Awst, 191328 Mehefin, 1992) yn gartwnydd Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jones yn Roseleigh, Llandrindod, Sir Faesyfed yn blentyn i John Jones, bwci, a'i wraig, Mary, née Johns (1881-1948). Ei enw bedydd oedd William John Jones, ychwanegodd y ‘Philpin’ pan yn oedolyn. Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Sir Llandrindod ac yn Ysgol Gelf Birmingham. Enillodd ysgoloriaeth i'r Coleg Celf Frenhinol, ond ni chyflawnodd y cwrs. Enillodd wobr am ddarlunio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pŵl 1924, pan nad oedd ond 10 mlwydd oed.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Ar ôl gorffen ei addysg dychwelodd Jones i Gymru i weithio fel cartwnydd i bapurau'r Western Mail a'r South Wales News. Ym 1937 aeth i Lundain i fod yn rheolwr stiwdio asiantaeth hysbysebu E. H. Godbold. Caeodd yr asiantaeth ar doriad yr Ail Ryfel Byd a dychwelodd Jones i Landrindod.[1]

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Two Types gan Jon

Ym 1940 ymunodd Jones a'r fyddin gan ddod yn aelod o Warchodlu Coldstream. Yn ddiweddarach trosglwyddodd i 19eg Bataliwn y Gwarchodlu Cymreig gyda rheng is-gapten, a phan gafodd ei fataliwn ei ddiddymu fe'i trosglwyddwyd i Droedfilwyr Canada. Chwaraeodd ran yng nglaniadau Sisili ym 1943 gan wasanaethu fel swyddog glanio milwrol cynorthwyol yn Salerno ac Anzio.

Yn ystod ei gyfnod yn Anzio dechreuodd Jones gyfrannu cartwnau i'r papurau newyddion milwrol. Wedi llwyddiant ei gartwnau cafodd gwahoddiad i ymuno ag Uned Papur Newydd Byddin Prydain oedd wedi ei leoli yn Napoli. Ym 1944 dechreuodd Jon darlunio cymeriadau cartŵn mwyaf poblogaidd diwedd cyfnod y Rhyfel The Two Types.[3] Roedd y Two Types yn ddau gnaf oedd yn swyddogion yng Nghatrawd y Desert Rats. Cyhoeddwyd dwy flodeugerdd o'r cartwnau:

  • The Two Types (1960) [4]
  • JON’s Complete Two Types (1991, gyda rhagair gan yr Arglwydd Cudlipp).[5]

Am ei gyfraniad fel cartwnydd yn ystod y Rhyfel derbyniodd Jon yr MBE Milwrol.

Gyrfa ddiweddarach[golygu | golygu cod]

Ar ôl y rhyfel ymunodd Jones â grŵp y Mirror o bapurau newydd, gan weithio ar y Sunday Pictorial yn cynhyrchu cartwnau stribed chwaraeon, rhwng 1946 a 1952. Ym 1952 symudodd i Kemsley Newspapers, lle ymddangosodd ei luniau yn The Daily Graphic, The Sunday Graphic, The Empire News , a The Sunday Times. Ym 1955 gadawodd i ymuno â The News Chronicle, a pharhaodd i greu cartwnau ar gyfer y papur pan gafodd ei huno efo The Daily Mail. Ymddeolodd o The Daily Mail ym 1981 ond parhaodd i dynnu cartŵn poced wleidyddol wythnosol a chartŵn chwaraeon ar gyfer The Mail on Sunday hyd 1988. Yna, pan ddechreuodd dreulio mwy o amser yn ei fwthyn yn Rhiwlas, ger Rhaglan cynhyrchodd a chartwnau newyddion a chwaraeon ar gyfer The South Wales Argus a The Abergavenny Chronicle tan 1990.

Roedd Jones yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Cartwnyddion Prydain. Ym 1966, pleidleisiwyd Jones yn Gartwnydd Materion Cyfoes a Chwaraeon y Flwyddyn ac yn Gartwnydd Poced y Flwyddyn ym 1981 gan y Cartoonists' Club of Great Britain.[6]

Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru (Caerdydd), Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Aberystwyth), Amgueddfa Sir Faesyfed (Llandrindod), Amgueddfa'r Gatrawd Gymreig (Caerdydd), yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol (Llundain), ac Archif Cartwnau Prydain ym Mhrifysgol Caint.

Cyhoeddwyd tair blodeugerdd bellach o'i waith:

  • Wilson in Wonderland: A Chronicle (1968, am y prif weinidog Harold Wilson),
  • JON Cartoons (1978),
  • Maggie: The First Woman Prime Minister of the Western World (1979 am Margaret Thatcher)

Teulu[golygu | golygu cod]

Bu Jones yn briod tair gwaith. Ei wraig gyntaf oedd Edith Rose Spencer. Wedi priodi ym 1938 bu iddynt un ferch. Priododd ei ail wraig Margaret June Price, bu iddynt dwy ferch cyn ysgaru ym 1969. Ym 1978 priododd Jones â Sylvia Hull, née Smith, ni fu iddynt blant.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Ysbyty St Joseph, Malpas, Gwent yn 78 mlwydd oed o ganser yr ysgyfaint a methiant y galon, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys St Cadog, Rhaglan.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Jones, William John Philpin (pen name JON) (1913–1992), cartoonist". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/odnb/9780198614128.013.57156. Cyrchwyd 2020-03-24.
  2. "William John Philpin Jones [Jon] - British Cartoon Archive - University of Kent". www.cartoons.ac.uk. Cyrchwyd 2020-03-24.
  3. "Obituary: William John Philpin Jones". The Independent. 1992-07-15. Cyrchwyd 2020-03-24.
  4. Jones, William John Philpin; Blair-Fish, John Christopher; Great Britain; Army; British Army Newspaper Unit (1943). The two types: being the saga of the two jaunty heroes who have given us the best laugh since the campaign began. OCLC 1113320730.
  5. "Jon's Complete Two Types (Cartoon library)". Amazon. Cyrchwyd 24 Mawrth 2020.
  6. "Jones, William John Philpin 'Jon' (1913 - 1992) - Raglan Wales UK Domesday Site". rlhg.wikifoundry.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-31. Cyrchwyd 2020-03-24.
  7. Thomson, Betty (2009-08-25). "Obituary | Sylvia Philpin Jones | journalist and author". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-03-24.