Wiliam Owen Roberts
Wiliam Owen Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 1960 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor |
Llenor o Gymru yw Wiliam Owen Roberts neu Wil Garn[1] (ganed 1960, Bangor).[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed Wiliam Owen Roberts ym Mangor a chafodd ei fagu yng Ngarndolbenmaen[1]; fe'i addysgwyd yn Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Aeth ymlaen i Brifysgol Cymru, Aberystwyth lle graddiodd yn 1981 gyda gradd mewn llenyddiaeth ac astudiaethau theatr. Astudiodd gwrs MA ar ddramâu teledu, gan ganolbwyntio ar weithiau Dennis Potter. Gweithiodd gyda chwmni theatr Cyfri Tri ac yna fel golygydd sgript gyda HTV cyn dod yn llenor llawn-amser ym 1989.[2]
Ei waith enwocaf efallai yw ei ail nofel Y Pla, sy'n seiliedig ar effaith y Pla Du yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Enillodd y nofel iddo wobr Llyfr y Flwyddyn 1988. Cyfieithwyd i'r Saesneg gan Elisabeth Roberts o dan y teitl Pestilence ym 1991,[3] ac mae hefyd wedi cael ei chyfieithu i'r Almaeneg ac Iseldireg.
Mae wedi sgriptio nifer o raglenni teledu Cymraeg yn cynnwys y ffilmiau Cymru Fach (2009) a Provence (1998) a'r cyfresi Teulu'r Mans (1987-90); Pris y Farchnad (1991-93); Yr Asembli (2000-01); ac yn gyd-awdur drama 35 Diwrnod.[4]
Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn unwaith eto yn 2009 am ei nofel Petrograd.
Mae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i wraig[1] a'u tair merch.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Bingo!, 1985 (Gwasg Dwyfor)
- Y Pla, 1987 (Annwn)
- Hunangofiant (1973-1987): 1. Y Blynyddoedd Glas, Ionawr 1990 (Annwn)
- Pestilence, 1991 (Hamish Hamilton) – Cyfieithiad i'r Saesneg o'r nofel]] Y Pla (Ail-gyoeddwyd Rhagfyr 1997 gan Seren)
- Paradwys, Rhagfyr 2001 (Cyhoeddiadau Barddas)
- Cyfres i'r Golau: Peenemünde - Drama Mewn Dwy Act, Ebrill 2004 (Gwasg Carreg Gwalch)
- Cymru Fach, Ebrill 2006 (Sherman Cymru)
- Petrograd, Rhagfyr 2008 (Cyhoeddiadau Barddas)
- Paris, Mawrth 2013 (Cyhoeddiadau Barddas)
- Cymru Fydd, Tachwedd 2022, O’r Pedwar Gwynt
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Beti a'i Phobol - William Owen Roberts - Wil Garn - BBC Sounds". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2023-04-28.
- ↑ 2.0 2.1 WILLIAM OWEN ROBERTS. British Council; Contemporary Writers.
- ↑ Gwybodaeth Lyfryddol: Pestilence. Gwales.
- ↑ 35 Diwrnod - Awduron