Wicipedia:Y Caffi/archif/6
Bargod nid Bargoed
[golygu cod]Mae'n bosib bod hyn wedi ei drafod yn barod a bod penderfyniad wedi ei wneud, ond 'Bargod' yw sillafiad swyddogol Cymraeg tref Bargoed. Dwi'n digwydd gweithio yn y pentref nesaf iddo, ac yn gweld yr arwydd yn rheolaidd. Ceir ychydig o gefndir ar wefan y Fenter Iaith lleol. Dwi heb wneud dim newidiadau gan fod cymaint o erthyglau eraill gyda dolen at yr erthygl am y dref a rhag ofn bod penderfyniad blaenorol wedi bod ar y mater (e.e. mae tudalen ail-gyfeirio ar gyfer 'Bargod'). Ben Bore 17:20, 18 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Croeso i Wicipedia. Bargod yw'r enw yn Atlas Cymru (Prifysgol Cymru). Croeso iti fentro newid Bargoed i Bargod. Byddai'n dda cynnwys Bargoed mewn teip trwm ym mrawddeg gyntaf yr erthygl hefyd, gan fod yr enw Bargoed yn fwy cyfarwydd i lawer na Bargod. Os ydy'r meddalwedd yn gwrthod symud y dudalen i Bargod oherwydd bod tudalen ail-gyfeirio yno'n barod rho wybod ac fe ddylwn i allu dod i ben ag ef ffordd arall. Byddai'n dda cael gwybodaeth am hanes yr enw yn ran o'r erthygl ac hefyd cynnwys y cyswllt allanol y soniaist amdano, os oes amser gennych. Os bydd rhywun yn gwrthwynebu'r newid fe ddylent rhoi gwybod yn ddigon cloi ar dudalen sgwrs Bargod. Croeso ichi fwrw ati i newid yr enw ar draws Wicipedia gyfan ond does dim rhaid ei newid ymhobman. Lloffiwr 22:34, 19 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Dwi a wneud y newidiadau, yn dileu'r dudalen ail-gyferio, ac wedyn creu un sy'n cyfeirio y ffordd arall 'Bargoed>Bargod'
- Iawn - byddai'n syniad da i gopïo'r sgwrs hwn i dudalen Sgwrs Bargod hefyd. Lloffiwr 18:57, 21 Rhagfyr 2006 (UTC)
Annibynnwyr = Anabaptists?
[golygu cod]Dwi ddim yn arbennigwr ar y pwnc, ond dwi ddim yn meddwl bod Annibynnwyr yn Gymraeg yr un peth ag Anabaptist yn Saesneg. Mae dolen yn ôl o'r erthygl Saeseg am Anabaptist yn ôl i'r erthygl am Annibynnwyr yn Gymraeg hefyd. Ben Bore 12:20, 18 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Yn cytuno bod angen dileu'r cysylltiadau rhyngwici - mae'n edrych yn debyg eu bod i gyd yn cysylltu ag erthyglau am yr ailfedyddwyr. Annibynwyr yw'r sillafiad cyfarwydd i mi gyda llaw (unigol: Annibynnwr). Er bod yr eginyn erthygl yn trafod yr Annibynwyr yng Nghymru'n unig falle y gallech fentro rhoi cyswllt i'r erthygl ar Congregational Church, gan obeithio y bydd yr erthygl ehangach yn trafod yr annibynwyr byd-eang? Lloffiwr 22:58, 19 Rhagfyr 2006 (UTC)
Isbenawd pob erthygl
[golygu cod]Fel y mae, mae'r isbenawd yn deud: "Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd."
Mae'r saesneg (y gwreiddiol) yn deud: "From Wikipedia, the free encyclopedia"
na ddylsai's fersiwn gymraeg ddeud
- "Allan o Wicipedia..."
- "Yn Wicipedia"
neu hyd yn oed
- "Gan Wicipedia..."
- (gan bod yr erthyglau'n cael eu ysgrifennu gan gymuned y wefan?)
Mae "Oddi wrth" yn cynnig syniad o symudiad ffisegol i ffwrdd o endid, syniad sy'n estron i'r ystyr yn y iaith wreidiol.
Hefyd, ydi "y gwyddoniadur" yn ramadegol gywir? A fyddai "y wyddoniadur" neu "yr wyddoniadur" (cf. "y/yr wyddor") yn fwy cywir? Emyr42 00:14, 8 Mai 2006 (UTC)
- Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig 'o' (before nouns and pronouns denoting inanimate objects) neu 'oddi ar' (after take) wrth gyfieithu 'from' (clamp o draethawd sydd i balu drwyddo ar 'from' yn y geiriadur gyda llaw - doedd dim syniad gen i bod cymaint o wahanol ystyron i 'from').
- Enw gwrywaidd yw gwyddoniadur felly nid yw'n treiglo wedi 'y'. Lloffiwr 20:38, 8 Mai 2006 (UTC)
Translations from the English Wikipedia?
[golygu cod]I've just signed up and was wondering if not one simple and quick way to increase the size and usefulness of the Wicipedia Cymraeg would be to translate pages from the English Wikipedia (actually any language Wikipedia but English is by far the largest and probably most refined wiki and would be the main language we're more than used to translating on a regular basis)? It doesn't have to be a direct word-for-word translation exactly but it seems odd when there's an entire free English encyclopedia that we don't read it whilst writing a free Welsh encyclopedia. It'll also mean that the Welsh version can be greatly expanded quickly by translation even when you're not an expert in those specific topics, as long as you're good at translation. PetrochemicalPete 05:36, 23 Hydref 2005 (UTC)
- I have no objection to translations from the English but there is a danger that contributers iver reach their lingustic skills ending up with articles that are difficult to understand and also difficult to correct unless one has good knowledge of the subject. Dyfrig
- I partly suggest the translation also because of my personal situation. I'm not actually a learner but a re-learner. I had Welsh medium education but have since not used Welsh for quite a long while that it requires conscious effort to remember everything again. Very rusty indeed. I read and hear Welsh just fine (as the act of reading itself unlocks those dormant memories) but I just keep hitting a mental block trying to speak or write. It's the skill of thinking in Welsh that's gone rusty. The information is in there but it's just not flowing out. Translation seemed to me to be a nice "baby steps" approach to get back into the habit of using Welsh again, which could also prove useful to the Wicipedia while I re-unlock the language. As written language for an article, I can take my time and check things up in a dictionary. In fact, I'm actually probably being more over-cautious from lack of confidence in using Welsh than over-reaching. Practically, articles might need to be checked over for correct mutations and minor points like that but I don't think comprehensibility should be any problem. Especially with basic translation. I'm delibrately being cautious so as not to make any promises I can't keep, if you know what I mean. PetrochemicalPete 23:06, 23 Hydref 2005 (UTC)
- Translating from en: is a pretty good idea (though it's nice if you can add a Welsh angle to the article!). You might be interested in MetaWikipedia's Translation of the Week, which is where we got our articles on Kasimov and Oradea from! Don't forget to put InterWiki links to the other language versions, and to put links back to cy: from the other languages. -- Arwel 23:26, 23 Hydref 2005 (UTC)
- Wrth gwrs, where there's a Welsh angle that will be added. Although, from attempting a start on the article about computers (I know enough on the topic to be sure of what I'm translating that it seems a good place to start), it can also work the other way around that an English angle in an article has to be removed from the Welsh. It says something like "originally, the word computer meant a person who..." at one point but I don't think that applies in reverse to the Welsh word "cyfrifiadur", does it? References to etymology is something which doesn't translate. So, yes, it should be an intelligent rather than automatic translation, of course. PetrochemicalPete 00:15, 24 Hydref 2005 (UTC)
- Well, cyfri does of course mean to count... I was just amusing myself with translating the article on the Pengő - now there's an article where you need to be able to count! -- Arwel 00:48, 24 Hydref 2005 (UTC)
- By translating some of the English articles, we will be including topics in Welsh for possibly the first time, and this might make some content difficult to understand. However, I think it is important that we make this breakthrough. SouthernWelshman 11:22, 5 Medi 2006 (UTC).
- Wrth gwrs, where there's a Welsh angle that will be added.
- In theory, all the wikipedias should be from a neutral global point of view, so that the only difference between them should be the language they are written in, though this isn't true even on some of the bigger wikipedias. It's good that we're now writing more about other countries. Paul-L
Statws Wikisource, Wiktionary, Wikibooks, ayyb yn y Gymraeg
[golygu cod]Wikisource: There are loads of texts by 18th, 19th and early 20th century poets that can be added to a Welsh Wikisource, plus Gerallt Gymro, Y Mabinogion, legends i.e. Branwen, Y Ferch o Gefn Ydfa and Cantre'r Gwaelod.
Wiktionary: I've recently been editing Wiciadur a lot (trying to set up example entries, pronunciation keys, structures for the entries and so on). I'd like to encourage all Wicipedwyr to contribute to Wiciadur in order to help it grow as Wicipedia's sister project.
Wikinews: There are definitely not enough users to starts a Welsh Wikinews. But if one is started in future, I suggest that it include country profiles, in depth reports, photo galleries etc. (like on the BBC News site) - something I haven't seen on a Wikinews yet.
Wikibooks & Wikiquote: I've just found a Wikibooks in Welsh - but it's completely empty. The same goes for the Welsh Wikiquote.
Wikimedia Commons: There's a Welsh page for Wikimedia Commons, but like most other languages all the files are in English.
I'm enjoying my time here! —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:48, 26 Hydref 2005 (UTC)
Tudalennau help
[golygu cod]Ar y dudalen Help mae sôn bod gwaith paratoi a chyfieithu callawiau a thudalennau cymorth ar y gweill. Cyn fy mod yn mynd ati i weithio ar yr adran gymorth rhowch wybod os ydy rhai o’r cynigion isod ar y gweill gan rywun arall yn barod gan nad wyf am ddamsgen ar draed neb na gwastraffu fy amser fy hunan! Yr hyn sydd gennyf mewn golwg (ac y bydd yn cymryd amser maith i dim ond un person ei gyflawni) yw:
- Ehangu’r dudalen ‘Sut i olygu tudalen’ i gynnwys y wybodaeth sydd ar [[1]].
- Cyfieithu’r dudalen Wikipedia:Glossary (beth am Geirfa Wicipedia yn Gymraeg?) o’r Saesneg - [[2]]. Gweler [[sgwrs:Wikipedia:Glossary]]
- Cynnwys y wiki:Lecsicon cyfrifiadurol Saesneg-Cymraeg yn syth wedi’r 'Geirfa Wicipedia' a chynnwys termau Wicipedia yn ogystal a thermau cyfrifiadurol cyffredinol. Gweler sgwrs:Lecsicon cyfrifiadurol Saesneg-Cymraeg.
- tudalen newydd yn yr adran ‘Gwybodaeth ac adnoddau i gyfranwyr’ o’r enw Canllawiau Iaith. Canllawiau ar ysgrifennu yn a chyfieithu i’r Gymraeg sydd gennyf mewn golwg ac nid polisïau gorfodol. Posibiliadau o adrannau defnyddiol i ddefnyddwyr Wicipedia yw:
- Nodiadau gramadegol a fyddai’n gyfle i gasglu ac i drefnu’r cynghorion sydd eisioes ar y Caffi Iaith yn hytrach na’u bod yn cael eu symud i archif y Caffi Iaith yn ôl trefn dyddiad eu creu. Byddai hwn hefyd yn gyfle i’r rhai hynny sydd wedi astudio’r Gymraeg rannu eu gwybodaeth â’r rhai ohonom sydd heb.
- Termau amgen. Canllawiau ar gyfer pynciau lle mae dau derm amdano yn Gymraeg gan gynnwys enwau llefydd (e.e. China/Tseina), termau gwahanol yn y de a’r gogledd (e.e. afu/iau) ac achosion lle mae term Saesneg wedi ei Gymreigeiddio a therm Cymraeg eisioes yn bodoli (e.e. comed/seren gynffon).
- Adnoddau iaith ar gyfer cyfieithwyr a chyfranwyr, sef cyfeirnodion i eiriaduron ag ati ar y we ac ar bapur.
Byddai cyswllt rhwng ‘Canllawiau iaith’ a’r dudalen drafod ‘Y Caffi Iaith’.
Mae’r tudalennau help i gyd ar y bwlchenw ‘Wicipedia’ yn hytrach nag ar y bwlchenw ‘Help’ yn y Wicipedia Cymraeg. Yn y Wikipedia Saesneg mae rhai o’r tudalennau help ar ‘Wikipedia’ a rhai ar ‘Help’. Pa reswm sydd dros hyn? Oes gwell eu gadael ar ‘Wicipedia’ neu eu symud i ‘Help’?
Hefyd oes modd newid y bwlchenw o ‘Help’ i ‘Cymorth’?
Yn disgwyl yn eiddgar am sylwadau!
(I propose:
- To expand and translate ‘How to edit a page’
- Add and translate a glossary page (see [[sgwrs:Wikipedia:Glossary]])
- Expand the wiki:Lecsicon cyfrifiadurol Saesneg-Cymraeg to correspond to the glossary
- Add a new ‘Language Guidelines’ page to the ‘info and resources for contributors’ section. Guidelines rather than compulsory policies are in mind. Ideas for useful sections are:
- ‘Grammar notes’, collecting and sorting the advice already on the caffi iaith and giving those who have studied Welsh the chance to share their knowledge with those of us who haven’t.
- ‘Alternative terms’ giving advice on situations where more than one Welsh term exists for something.
- ‘Language resources’ for translators and contributors, dictionaries, etc both paper and internet.
The caffi iaith and the canllawiau iaith pages would be linked.
All the help pages are on the wikipedia namespace rather than the help namespace on the Welsh wicipedia. In the English Wikipedia some help pages are on Wikipedia namespace, others are on Help. Why is this? Had we better move all help pages to the help namespace?
Also is it possible to change the Help namespace to ‘Cymorth’?)
Lloffiwr 23:07, 5 Tachwedd 2005 (UTC)
Syniad da! Yn enwedig y canllawiau ar enwau lleoedd - mae pa fersiwn i'w ddefnyddio yn medru bod yn broblem. Rhion 10:31, 8 Tachwedd 2005 (UTC)
- Tudalen Wicipedia:Canllawiau iaith wedi ei chreu ac yn disgwyl cyfraniadau! Sylwadau ar enwau lleoedd wedi eu rhoi ar y dudalen Wicipedia:Arddull Lloffiwr 17:01, 6 Mehefin 2006 (UTC)
Could anyone translate Nodyn:User cy-0 into Welsh? It would be very nice. I apologize for using English language. :o) Hégésippe | ±Θ± 17:35, 3 Rhagfyr 2005 (UTC)
- It's done. Many thanks to Marnanel. :o) Hégésippe | ±Θ± 08:44, 4 Rhagfyr 2005 (UTC)
Wicitestun hefyd
[golygu cod]Creodd y rheolwyr Wicitestun heno— http://cy.wikisource.org !! Hwre! Mae angen mawr i'r safle o cyfranwr, felly cyfranwch eich hoff barddoniaeth ayyb os gwelwch yn dda. Diolch a chariad, Marnanel 00:47, 10 Rhagfyr 2005 (UTC)
Hafan
[golygu cod]Os ga' i ddweud, mae'r tudalen Hafan yn edrcyh tipyn yn dodgy ar hyn o bryd. Mae'n rhy fawr i sgrîn cyfrifiadur 800 gan 600 picsel ac mae'r bocs Cymuned yn cynnwys nifer o dudalennau hen neu cysylltiadau i'r Wikipedia Saesneg. Hefyd, dwi'n credu mae'r cysylltiadau i ieithoedd a phrosiectau eraill yn edrych yn anniben. Rydw i wedi creu dau tudalen Nodyn: i rhoi ar Hafan os ydynt yn addas: ieithoedd Wicipedia a rhestr o prosiectau chwiorol Wicipedia. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 12:09, 10 Rhagfyr 2005 (UTC)
- Rwy'n credu y byddai'n well galw'r rhestr uchod yn 'rhestr o chwaer brosiectau Wicipedia'. Lloffiwr 15:40, 11 Rhagfyr 2005 (UTC)
Wicipedia yn y newyddion
[golygu cod]Oes rhywun yn gweled yr erthygl 'ma? Campus! Marnanel 17:18, 11 Rhagfyr 2005 (UTC)
2 gwestiwn syml
[golygu cod]1. Rwyf wedi ceisio danfon postiad newydd i'r wicipedia y bore 'ma ar Brad y Llyfrau Gleision (o dan 'Llyfrau Gleision, Brad y) ond dydy ddim yn edrych fel fod y postiad ar y wefan. Oes rheswm dros yr oedi - ai dyma'r drefn neu a ydw i wedi methu ei ddanfon yn iawn?
- sut mae danfon postiad ai gwasgu botwm 'cadw'r dudalen' neu oes rhywbeth arall? Os felly, oni fyddai'n werth ei newid o 'cadw'r dudalen' i 'postio' neu rhywbeth tebyg.
2. Mae'r dolenni ar waelod dde y dudalen braidd yn fyr. Mae 2 neu 3 dolen hefyd i wefannau dysgu Cymraeg sy'n bwysig ond hefyd yn rhoi'r argraff nad iaith fyw yw'r Gymraeg. A fyddai'n well ychwanegu un neu ddau dolen newydd i gwefannau difyr sy'n Gymraeg ac o ddenfydd:
[3] - y blogiadur porth blogiau Cymraeg [4] - tudalen casgliadau digidol y Llyfrgell Genedlaethol [5] - Amgueddfa Cymru
Siôn Aberystwyth
193.61.220.3 13:39, 22 Rhagfyr 2005 (UTC)
- 'Cadw'r dudalen' yw'r botwm cywir i'w bwyso i roi'r tudalen ar gadw ar Wicipedia. Yngly^n â'r term am 'save' rwyf wedi gweld 'cadw' ac 'arbed' ar wefannau eraill Cymraeg. Hyd a welaf nid oes eto digon o gyfrannwyr rhugl eu Cymraeg ar y wefan hon i ddatblygu termau'r wefan cyn gyflymed ac mae angen termau newydd! Da felly dy weld yn ymddiddori ac yn barod i wneud cyfraniad. Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod 'arbed', 'cadw' na 'postio' yn well na 'cadw'r dudalen'. Fy hunan byddwn yn hoffi gweld newid y defnydd o'r ferfenw, 'cadw', 'golygu' ayb i'r ffurf 'cadwer', 'golyger' ayb pan yn gorchymyn y cyfrifiadur i weithredu. Fe fyddai hynny yn cael gwared ar yr amwyster ystyr wrth ddefnyddio'r ferfenw. Ond hyd a welaf, y ferfenw a ddefnyddir gan wefannau eraill Cymraeg ac felly o ddefnyddio ____(i)er byddem yn ymadael â'r arfer cyffredinol.
- Yngly^n â'r dolenni fe fyddwn i yn dadlau bod gormod ohonynt yn hytrach na rhy ychydig. Rwyf wedi cynnig ein bod yn datblygu tudalen gymorth 'Canllawiau Cymraeg' a fyddai'n cynnwys adran ar adnoddau ysgrifennu Cymraeg. Byddai'n well gennyf i weld y rhan fwyaf o'r dolenni yn cael eu symud i'r fan honno. Y dolenni i'r Llyfrgell Genedlaethol, y Bywgraffiadur a Chasgliad y Tlysau yw'r pethau sy'n werth eu cadw ar y dudalen flaen am y rheswm eu bod yn gwneud gwaith tebyg i'r Wicipedia ac yn rhad ac am ddim. Nid yw blogiadur yn gasgliad o ffeithiau diduedd ac felly ni welaf bod lle iddo ar dudalen flaen y wefan (ond os ydych am ysgrifennu erthygl ar 'blogiau' yna byddai'r cyswllt yn addas fan honno). Lloffiwr 10:00, 29 Rhagfyr 2005 (UTC)
Interwiki Bot Status
[golygu cod]Hi. I would like to get my interwiki bot YurikBot marked as a bot in your language. The bot is already operating in almost 50 languages, and it would lower the server load and improve the quality of articles if all interwikies are updated at the same time. You can read more or ask questions here. I always run the latest version of the Pywikipediabot (i am also one of the developers of this project). The request for the bot status is here. Please support. Thank you. --Yurik (en) 03:13, 24 Rhagfyr 2005 (UTC)
- It sounds fine to me, if all it's doing is updating interwiki. How does it differ from Zwobot, btw? Also, you're just asking for consensus here, not actually asking us to set a flag anywhere, right? Marnanel 03:34, 24 Rhagfyr 2005 (UTC)
Cyfrannu Ffotograffau
[golygu cod]Helo Wicipedwyr! Hoffwn gyfrannu rhai o'r ffotograffau sydd gennyf, hynny yw y rhai rwyf wedi tynnu ac yn piau'r hawliau. Hoffwn gwneud hyn gan ryddhau'r ffotograffau o dan trwydded 'rhydd' ac 'agored' megis trwydded CC neu GNU. Fedra rhywun egluro'r proses yn syml ? Pwy sy'n gyfrifol am Olygu'r ffotograffau a chyfrannir tuag at Wicipedia ? Pwy sy'n penderfynu ai yw ffotograff o werth i'r Prosiect ? --Darren Wyn Rees 20:53, 10 Ionawr 2006 (UTC)
- Os nad wyt wedi cael help ar y pwnc hwn hyd yn hyn gellet treio holi i Marnanel, Arwel Parry neu Tigershrike (rhai ohonynt yn ddysgwyr) - y tudalennau help ar Mediawiki yw'r ffynhonell go iawn. Mae pawb ar Wicipedia yn gyfrifol am olygu gwaith ei gilydd, a bo'n destun neu'n ddelwedd. Y rhai sy'n ysgrifennu neu yn ehangu erthygl gan gynnwys chi eich hunain sy'n penderfynnu a yw llun yn addas at yr erthygl. Petai rhywun yn anghytuno â'r defnydd o ryw lun arbennig gellid trafod hynny ar dudalen sgwrs yr erthygl. Fe fyddwn i yn ychwanegu'r llun at yr erthygl perthnasol ar yr un pryd a'i lwytho i wikimedia. Yn edrych ymlaen at gael gweld dy luniau. Pob lwc. Lloffiwr 15:48, 19 Ionawr 2006 (UTC)
Why is the article about Greenland at Grønland? Do Welsh speakers really call it that, with the "ø" and everything? If not, shouldn't the article be at what people really do call it? Marnanel 21:04, 28 Ionawr 2006 (UTC)
- See note on 'Gwledydd y byd' for a discussion of the alternative spellings of countries (and also sporadically in the caffi iaith archives). Further discussions of alternative spellings in general are due to be included in the proposed help page 'Canllawiau Iaith'. Redirects exist from the alternatives y Lasynys and Yr Ynys Las. I remember suggesting that redirects from the English terms would also be useful, which again could go on a help page regarding redirects in due course, if the suggestion is acceptable. Lloffiwr 23:31, 28 Ionawr 2006 (UTC)
- I'm just puzzled as to why the canonical name of this article is Grønland but the canonical name of Llundain isn't "London". Marnanel 23:36, 28 Ionawr 2006 (UTC)
- The 'rule' is that if a common Welsh name exists, we use it; if not, use the native name. After I finish going through the system messages and the help pages, I'll probably turn to all the country pages because they seem to be in a mess at the moment. Gareth 20:48, 30 Ionawr 2006 (UTC)
IRC am Wicipedia?
[golygu cod]Oes yna sianel IRC amdanom? Pe nad oes 'na un, pam nad oes? Dim digon o ddiddordeb? Vashti 00:23, 10 Mawrth 2006 (UTC)
- Syniad da (though I would probably mostly listen rather than talk, at least until my Welsh is a little better. Still, I can usually more or less hold my own on #gnome-cy.) Marnanel 04:04, 10 Mawrth 2006 (UTC)
Question
[golygu cod]Do you know the translation of 'Dyfrig' into English? 194.70.74.210 14:44, 23 Mawrth 2006 (UTC)
- Dont know the English but the Latin equivalent is 'Dubricius' I believe. Dyfrig 14:27, 7 Mai 2006 (UTC)
- An English version is Dubric, but the saint is far more often referred to in English texts as either Dyfrig or Dubricius. -- Jac-y-do 15:39, 25 Gorffennaf 2006 (UTC)
Wicipedia:Jôcs gwael a dwli arall sy wedi dileu
[golygu cod]What would be a good translation of "bad jokes and other deleted nonsense"? I thought we could use a version of en:Wikipedia:Bad Jokes and Other Deleted Nonsense for keeping copies of things like this. Marnanel 14:13, 29 Mawrth 2006 (UTC)
- Something alliterative?
- Diddymu'r dwli?
- Dwli digri?
- Dwli doniol?
- Gareth 21:33, 30 Mawrth 2006 (UTC)
- Beth am: dwli dwl, chwilibawan a ffwlbri, ffwlbri a rwdl, Lloffiwr 23:19, 30 Mawrth 2006 (UTC)
- Enghreifftiau arall: [6] [7] [8] [9] —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:17, 16 Ebrill 2006 (UTC)
- Also this Rory Bremner Joke Paul-L 16:40, 20 Mai 2006 (UTC)
- This was added to Sgwrs:McDonald's Paul-L 07:41, 26 Mai 2006 (UTC)
Asking a favour
[golygu cod]I wonder if someone living in or near Cardiff can recommend to me something to do between about 8am and 12noon this coming Saturday (20 Mai, 2006). My wife and I will be in Cardiff (our employer is celebrating 21 years in business by taking us to see Tosca) and we will have some free time on the Saturday morning. Somewhere to have a nice cup of tea would be nice; a stroll round some of the places where they filmed Doctor Who would suit me (although my wife is not so big a fan :-) ). I will try to keep an eye on this page; alternatively email would be fine. Thanks in advance. —Phil Boswell 13:15, 17 Mai 2006 (UTC)
- You could try the Welsh Folk Museum. Have a look at their web site and see how it grabs you. http://www.museumwales.ac.uk/en/stfagans/ Dyfrig 22:47, 17 Mai 2006 (UTC)
- Thanks, I'll take a look. Anyone else? —Phil Boswell 10:39, 18 Mai 2006 (UTC)
- You could try the Welsh Folk Museum. Have a look at their web site and see how it grabs you. http://www.museumwales.ac.uk/en/stfagans/ Dyfrig 22:47, 17 Mai 2006 (UTC)
Tudalennau gwledydd
[golygu cod]Sylwais yn y tabl ar ochr dde y rhan helaeth o dudalennau gwledydd, y defnydd o'r gair 'Rhenc' pan yn cyfeirio at maint neu boblogaeth.
Credaf mai ceisio cyfieithu'r gair 'Rank' o'r Saesneg oedd y bwriad. Rwyf o'r farn nad yw 'Rhenc' yn gyfieithiad priodol yn y cyd-destun hwn. Onid 'rank' yn yr ystyr milwrol (neu'r heddlu) yw 'rhenc'?
Pan yn cymharu maint neu boblogaeth gwledydd, efallai y buasai 'Safle' yn air gwell?
82.20.41.180 19:33, 20 Mai 2006 (UTC)
- Yn cytuno. Lloffiwr 11:17, 21 Mai 2006 (UTC)
- Cytuno'n llwyr. Oes ffordd i'w newid heb orfod newid pob un yn unigol? Dyfrig 11:23, 21 Mai 2006 (UTC)
- Chwiliais am nodyn o'r tabl hwn ond yn ofer. Byddai'n rhaid cadarnhau gyda'r un wnaeth y tabl ai ei gopïo o un erthygl i'r llall a wnaeth; a bwrw mae dyna a wnaeth yna newid bob yn un ag un fyddai'r unig ffordd 'annhechnegol' o gyflawni'r dasg. Lloffiwr 11:45, 21 Mai 2006 (UTC)
- Hefyd, byddwn i'n awgrymu fod angen newid "maint"[=size] i "arwynebedd" mewn pob un o'r bocsys.--Llygad Ebrill 22:37, 25 Mai 2006 (UTC)
- Rydw i wedi dechrau ar nodyn gwybodaeth gwledydd gall cael ei ychwanegu i dudalennau'r gwledydd yn y dyfodol. Nid yw'r cyfieithiadau i gyd wedi'u gwneud a byddai'n gwerthfawrogi unrhyw newidiadau. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 14:34, 30 Mai 2006 (UTC)
- Mae'r gwybodlen wedi cwblhau nawr, ac bydd angen cymorth i ei hychwanegu i bob tudalen gwlad. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 21:55, 28 Mehefin 2006 (UTC)
Welsh knot
[golygu cod]Llydawur ydw i, yn dod o'r wiki ffrangeg. Es i i greu erthygl am y Welsh knot yn y wici saesneg. Ons eisio help ydw: fel dwy ddim yn Gymro rwy'n nabod bron dim am hynny. Diolch. Shelley Konk (yn y wici ffranggeg).
Infobox
[golygu cod]Mae rhai tudalennau Nodyn: gennym ni sydd yn cael eu galw'n "infoboxes" ar y Wikipedia Saesneg (e.e. Talaith neu diriogaeth Canada). Ga' i awgrymu gwybodlen fel gair newydd i eirfa Wicipedia, fel enw Cymraeg am y math hwn o nodyn? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:47, 24 Mai 2006 (UTC)
- Mae tinc pert i 'gwybodlen' i'm clust i. Lloffiwr 16:37, 3 Mehefin 2006 (UTC)
A translation request for Commons
[golygu cod]Good evening,
As part of the updating of the project pages on Wikimedia Commons in every language, I need a translator to translateCommons:Commons:Welcome into Welsh.
After this is done, it will be possible to make Commons:Hafan shorter, while including the "media of the day" into it, as is already done on Commons:Main page and several other languages.
Thanks for your help.
Teofilo 19:26, 1 Mehefin 2006 (UTC)
- Unless someone has already started this translation will start to tackle it before long. Lloffiwr 21:00, 10 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Wedi gorffen y cyfieithiad. Lloffiwr 22:20, 30 Medi 2006 (UTC)
Creu erthygl newydd
[golygu cod]Rwyf wedi ceisio creu tudalen ar Gwilym R. Jones. Yn anffodus am ryw reswm wrth chwilio ei enw nid yw'r fersiwn sy'n galluogi rhywun i greu erthygl yn dod lan. All rhywun help. Diolch Dyfrig 14:54, 2 Mehefin 2006 (UTC)
Cymreigio enwau mewn gwyddorion eraill
[golygu cod]A ddylen ni Cymreigio enwau pobl sydd yn wreiddiol mewn gwyddorion ar wahân i'r un Rhufeinig, h.y. enwau Arabeg, Rwsieg, Tsieinëeg ac ati, gan nid yw'r fersiynau Saesneg yn "swyddogol". Er enghraifft, bydd Abu Musab al-Zarqawi yn troi'n Abw Mwsab al-Sarcawi, a Mao Zedong yn Mao Tsedong (neu rhywbeth tebyg). —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:26, 10 Mehefin 2006 (UTC)
- Ceir enghreifftiau o sillafu enwau estron, sy'n deillio o ieithoedd sy'n defnyddio gwyddor heblaw'r wyddor Rufeinig, ar wefan y BBC fel a ganlyn: Saddam, al-Zarqawi, Putin, Ahmadinejad.
- Mae'r Termiadur yn trafod termau addysg grefyddol o ieithoedd estron fel a ganlyn: 'Ni cheir y llythrennau 'k', 'q', 'v' a 'x' yn y wyddor Gymraeg, ond mae'r Gymraeg yn dilyn y dull rhyngwladol o Rufeineiddio ysgrifau eraill (er enghraifft ISO 233 ar drawslythrennu llythrennau Arabaidd i lythrennau Rhufeinig).' Ceir rhestr o'r rhestri ISO ar Wikipedia.
- Mae rhai enwau tramor (enwau Beiblaidd gan fwyaf) a ffurf Gymraeg wedi hen ymgartrefu yn Gymraeg ganddynt. Pan bod ffurf Gymraeg yn bod eisoes yna gellir ystyried defnyddio hwnnw.
- Beth am gymryd yn ganiataol ar y cyfan bod y ffurfiau a ddefnyddir yn y wasg Saesneg yn rhai derbyniol a defnyddio rheiny os nad oes rheswm arbennig dros newid y ffurf?
- Gallem ychwanegu canllaw ar enwau tramor i'r dudalen Wicipedia:Arddull pan y down i gytundeb ar y mater. Lloffiwr 18:22, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Cytuno efo awgrym synhwyrol Lloffiwr 82.20.35.228 18:39, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Pwynt da. Anghofiais fod ieithoedd eraill yn defnyddio llythrennau anfrodorol wrth gyfieithu enwau o wyddorion eraill. Dwi'n cytuno felly. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 20:51, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
Cyfieithu enwau llefydd i'r Gymraeg
[golygu cod]Fel defnyddiwr newydd o Wicipedia, mae yna un agwedd sydd yn fy mhoeni a hynny yw'r tueddiad sydd gan cyfranwyr i fathu enwau Cymraeg newydd ar drefi, dinasoedd a gwledydd ayb lle nad oes enw Cymraeg mewn defnydd eang.
Weithiau bydd hyn ar ffurf trosiad syml i'r Gymraeg, neu yn waeth, rhyw sillafiad ffonetig od fel ymgais i 'Gymreigio'r enw.
Er enghraifft, gweler.
Roeddwn o'r farn mai polisi Wicipedia oedd i ddefnyddio'r enw lleol os nad oedd defnydd eang o enw cyfatebol yn y Gymraeg. Ydw i wedi deall hyn yn gywir?
82.20.34.17 22:13, 19 Mehefin 2006 (UTC)
- Rwyn cytuno. Bu tipyn o drafod tebyg ar enwau'r gwledydd. Does dim on gobeithio y bydd y sefyllfa yn gwella fel y ceir mwy o gyfraniadau gan gyfranwyr sicr eu Cymraeg. Dyfrig 23:53, 19 Mehefin 2006 (UTC)
- Yn cytuno hefyd! Rydych yn siwr o fod wedi gweld y canllaw ar enwau lleoedd ar Wicipedia:Arddull. Mae llawer o waith i'w wneud eto yn datblygu canllawiau a chroesawir unrhyw gyfraniad at eu datblygu. Ynglŷn â'r trefi yng ngwlad Pwyl croeso i chi fwrw mlaen â'r gwaith o'u cywiro os yw'r Atlas Cymraeg ganddoch. Lloffiwr 18:40, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
Pigion
[golygu cod]Mae Lloffiwr wedi nodi ar dudalen sgwrs Marnanel bod y rhan fwyaf o'r Pigion wedi'u hysgrifennu mewn iaith sydd o safon isel. Maen nhw hefyd yn byr iawn. Dwi'n awgrymu cael cydweithrediad (pob pythefnos, efallai) i ddatblygu erthygl i statws erthygl dewis. Gallen ni rhoi nodyn ar yr Hafan yn argymell newydd-ddyfodiaid i gymryd rhan. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 16:52, 27 Mehefin 2006 (UTC)
- Rwy'n cytuno a'r syniad hyn. Mae angen gwelliant ar nifer o'r pigion. Efallai byddai lle i awgrymu rhai pigion i wella yn syniad er mwyn gwella'r rhai sydd eu hangen.---Myrddin1977 20:44, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Dwi'n credu bydd hi'n addas iawn os Cymraeg bu'r featured article cyntaf. Da iawn Lloffiwr ar ysgrifennu'r erthygl wych 'ma, a'r is-erthyglau. Cwpl o bethau arall i benderfynu: yr enw "pigion" – beth yw un ohonynt, a beth byddem yn gwneud pryd ehangir Wicipedia i gynnwys featured pictures ac ati? Beth am "erthyglau dewis", "erthyglau arbennig", neu oes gan unrhywun awgrymiadau eraill? A ba arwydd i ddefnyddio am ein erthyglau gorau: y seren // ynteu'r "Wikimedal" ? Pryd cytunwn ar hyn i gyd, byddai'n mynd ati i greu'r tudalennau perthnasol ar gyfer enwebu erthyglau, ayyb. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:26, 28 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Dwi ddim yn siwr a oes ffurf unigol i ‘pigion’. Oes modd geirio fel nad oes rhaid defnyddio’r ffurf unigol? (un ohonynt, yr un ohonynt, etc?)
- Rwyn gweld bod cynnig i ddechrau tudalen waith ar gyfer enwebu pigion arfaethedig. Unwaith y caiff erthygl ei henwebu oes modd i ni aros tan bod o leiaf dyweder 4 yn nodi eu bod yn barod i weithio ar yr erthygl cyn mynd ati o ddifri? A fyddai hynny’n help i sicrhau nad oes gormod o faich ar rhyw un neu ddau?
- Os ydw i wedi deall yn iawn y ffordd y gwneir y gwaith o adolygu featured articles ar Wikipedia yna mae angen gwneud gwaith golygu'r testun (i sicrhau cywirdeb ac eglurder y Gymraeg) a golygu'r cynnwys (gan gynnwys gwirio'r ffynonellau). Os yw erthygl Cymraeg yn gyfieithiad o erthygl mewn iaith arall sydd eisoes yn featured article yn yr iaith honno, yna dylai gwaith golygu'r testun yn unig fod yn ddigon i sicrhau safon yr erthygl. Os mai cyfieithiad o erthygl na sy'n featured article sydd dan sylw, neu erthygl wreiddiol, yna bydd llawer yn rhagor o waith i'w wneud arno'n gwirio'r ffeithiau. Nid oes llawer o erthyglau Cymraeg â chyfeirnodion at ffynonellau arnynt chwaith. Rwyf hefyd yn meddwl y byddwn weithiau'n gweithio ar erthygl a ysgrifennwyd gan ddefnyddiwr na sy'n dal i gyfrannu i Wicipedia ac felly y bydd y golygyddion yn gwneud llawer o'r gwaith ehangu ac ail-ysgrifennu yn hytrach nag awdur gwreiddiol yr erthygl. Maddeuwch imi os yw llawer o hyn eisoes yn amlwg – mae'n debyg y ffeindiwn ni sut mae orau mynd ati i wella'r pigion wrth fwrw ati.
- Diolch am y ganmoliaeth ar yr erthygl ar y Gymraeg. Byddwn yn dra diolchgar bod rhywrai yn golygu'r Gymraeg ynddi ac yn bwrw golwg manwl drosti. Rwyn teimlo ei bod yn erthygl dra phwysig ar gyfer Wicipedia. Lloffiwr 22:55, 13 Awst 2006 (UTC)
- Dwi wir yn meddwl dylen ni defnyddio term arall i "pigion" – rhywbeth megis "erthyglau arbennig" – er mwyn cael term unigol, ac hefyd i ddilyn patrwm pryd down i gael "featured pictures", "featured lists", "good articles" ac ati (e.e. "delweddau arbennig", "rhestri arbennig", "erthyglau da").
- Cytuno bod 4 yn nifer digon da i benderfynu i weithio ar erthygl. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 12:39, 14 Awst 2006 (UTC)
- Beth am 'erthygl ddethol/erthyglau dethol' yn lle 'pigion'? Neu 'erthygl deilwng/erthyglau teilwng'? Neu 'erthygl gymeradwy/erthyglau cymeradwy'? Lloffiwr 15:48, 1 Hydref 2006 (UTC)
- Dwi'n hoff o "erthygl deilwng/erthyglau teilwng". —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:53, 1 Hydref 2006 (UTC)
- Beth am 'erthygl ddethol/erthyglau dethol' yn lle 'pigion'? Neu 'erthygl deilwng/erthyglau teilwng'? Neu 'erthygl gymeradwy/erthyglau cymeradwy'? Lloffiwr 15:48, 1 Hydref 2006 (UTC)
Gwaith sydd angen ei wneud
[golygu cod]Ynglŷn â’r cynnig i roi nodyn ar y dudalen hafan yn gwahodd newydd-ddyfodiaid i helpu gyda’r gwaith ar y pigion, ydy hi’n bryd i ni ddechrau tudalen arbennig yn nodi'r pethau sydd angen gwaith arnynt, tebyg i'r dudalen en:Wikipedia:Community Portal ar Wikipedia? Byddai'r gwaith ar y pigion yn un o'r pethau sydd eu hangen, yn ogystal â gwaith ar yr erthyglau yn y Wicipedia:rhestr erthyglau sy'n angenrheidiol ym mhob iaith, gwaith ar y tudalennau help, ayb. Lloffiwr 22:55, 13 Awst 2006 (UTC)
- Cytuno. Beth am "Porth y Gymuned" fel enw? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 11:20, 14 Awst 2006 (UTC)
- Dwi wedi creu drafft o'r porth. Os oes unrhyw eisiau ei wella wedyn Yw/Porth_y_Gymuned&action=edit gwnewch hynny. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 17:13, 10 Medi 2006 (UTC)
- Dwi wedi tacluso dipyn bach. Mae'n edrych yn neis. Daffy 17:47, 10 Medi 2006 (UTC)
- Yn cytuno bod 'Porth y Gymuned' yn enw addas i'r dudalen. Lloffiwr 22:39, 11 Medi 2006 (UTC)
- Dwi wedi tacluso dipyn bach. Mae'n edrych yn neis. Daffy 17:47, 10 Medi 2006 (UTC)
Rhestr holl dyddiau
[golygu cod]Mae angen ail-enwi'r dudalen Rhestr holl dyddiau. Sut mae Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn yn taro'r glust? Neu beth am Rhestr yr holl ddyddiau? Oes cynnig arall i gael? Lloffiwr 20:46, 28 Mehefin 2006 (UTC)
- Yn ffafrio Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn, neu Rhestr dyddiau'r flwyddyn hyd yn oed. 82.20.46.90 09:28, 29 Mehefin 2006 (UTC)
- Diolch - yn mynd am rhestr dyddiau'r flwyddyn Lloffiwr 23:10, 30 Mehefin 2006 (UTC)
Mwy nag un moleciwl?
[golygu cod]Mae'r geirfa ar gyfer moleciwl cemegol yn glir ar gyfer moleciwl unigol, ond nid yw'n glir ar gyfer y lluosog. Defnyddir 'Moleciwlau' a 'Molecylau' ar gyfer y lluosog ar dudalennau gwahanol. Mae'r ddau i'w weld yn yr iaith, gyda'r termiadur ysgol yn rhestri 'moleciwlau', CBAC yn defnyddio molecylau a'r BBC yn rhestri'r ddau (Geiriadur y BBC). Bydd angen cysondeb yma ymysg y tudalennau. --Myrddin1977 21:09, 8 Gorffennaf 2006 (UTC)
Codir pwnc astrus iawn yn fan hyn. Hyd a welaf y ddadl dros safoni'r term am molecule dros Wicipedia gyfan yw hyn:
- Mae'n haws i ddarllenwyr sy'n darllen rhagor nag un erthygl bod dim ond un ffurf ar derm arbennig.
- Os ydym am i'r Wicipedia fod o ddefnydd i fyfyrwyr sydd yn dilyn cyrsiau sydd yn defnyddio geirfa'r Termiadur yna gwell defnyddio geirfa'r Termiadur.
Ar y llaw arall:
- Y mae'n well gan rai weithiau y termau amgen a gynigir mewn geiriaduron eraill na'r un ffurf a gynigir yn y Termiadur ar gyfer unrhyw derm.
- Gwyddoniadur cyffredinol at ddefnydd pawb yw'r Wicipedia, nid gwyddoniadur academaidd dim ond ar gyfer myfyrwyr. Y mae cywair iaith erthyglau yn siwr o amrywio rhywfaint o bwnc i bwnc yn ogystal ag o gyfrannwr i gyfrannwr. At hynny nid yw'r Termiadur mor gynhwysfawr ei gyrraedd â geiriaduron eraill, sy'n arfer cynnig rhagor nac un ffurf ar derm. Mae'r Termiadur ei hunan yn trafod addasrwydd defnyddio geirfa technegol y Termiadur ei hunan tu allan i'r maes academaidd uwch a'r maes technegol broffesiynol (tudalen xi), gan argymell peidio â defnyddio geiriau technegol y tu allan i'r maes academaidd neu broffesiynol.
- Mae'n waith eithaf syml i sicrhau cysondeb defnydd o un ffurf ar derm mewn un erthygl drwyddi draw. Pa mor ymarferol yw hi i gytuno ar ffurf arbennig ar air ar draws Wicipedia gyfan ac yna newid y termau amgen sydd wedi eu defnyddio'n barod a sicrhau bod pob cyfranwr yn defnyddio'r ffurf a gymeradwyir yn y dyfodol?
Mae cynnig ar gyfer canllaw ar y mater hwn wedi ei roi ar dudalen sgwrs y canllaw ar arddull, i'w drafod.
Yn achos y gair molecule mae Geiriadur yr Academi a geiriadur y BBC ill dau yn cynnig molecwl (molecylau) neu moleciwl (moleciwlau). Cynigia'r Termiadur moleciwl (moleciwlau) yn unig. Gan bod yr erthyglau sy'n defnyddio'r term yn rai sy'n debygol o fod o ddefnydd i fyfyrwyr yn ogystal â'r darllenydd cyffredinol mae efallai lle i roi pwys arbennig ar gynnig y Termiadur yn yr achos hwn. Oes rhywrai sy'n fwy cyfarwydd â'r term molecwl na moleciwl i gael ymhlith y cyfrannwyr? Lloffiwr 11:04, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Pan astudiais Lefel A Cemeg trwy gyfrwng y Gymraeg, molecwl a molecylau oedd yn cael eu defnyddio. Ar ddiwedd y dydd, mae'n ymddangos bod defnydd eitha eang o'r ddwy ffurf ac felly mae'n debyg nad oes llawer o ots pa ffurf a ddefnyddir. Mae'n debyg fod moleciwl yn ffurf fwy tafodieithol/naturiol. Ychydig yn nawddoglyd dwi'n gweld awgrym Y Termiadur i beidio a defnyddio termau technegol y tu allan i faes academaidd/broffesiynol. Enghraifft arall o dumbing down efallai??? 82.20.35.228 15:50, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Os ydw i wedi cyfleu dadl y Termiadur mewn llais nawddoglyd yna fi sydd ar fai am hynny ac rwyn amlwg wedi methu ag egluro craidd y mater. Ceir esboniad byr o'r mater gan Ann Corkett ar archifau Welsh-Termau-Cymraeg Canolfan Bedwyr (darllenwyd 9 Gorffennaf 2006) http://www.jiscmail.ac.uk/cgi-bin/webadmin?A2=ind0307&L=WELSH-TERMAU-CYMRAEG&P=R44781&I=-3 a fydd efallai yn egluro pethau'n well nag wyf fi wedi gwneud. Lloffiwr 17:01, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Mae hynny'n ddifyr iawn. Ydw i'n deall yn iawn felly y buasai'r ieithegwyr yn defnyddio moleciwl a'r gwyddonwyr yn dweud molecwl? (Dim ond gofyn hyn yr wyf i weld a wyf wedi dehongli'r esboniad yn gywir). 82.20.35.228 18:29, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Dwi ddim yn ddigon o ieithegydd i wybod yn iawn. Mae 'microffon' yr addysgwyr yn dilyn 'meicroffon' yr ieithegwyr yng Ngeiriadur yr Academi. Os ydy trefn y geiriau yn y geiriadur yn golygu unrhywbeth yna 'molecwl', sy'n dod gyntaf, yw ffefryn yr ieithegwyr, ond dyfalu yr wyf fan hyn. Efallai ei fod yn fenthyciad hŷn? Lloffiwr 10:26, 12 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Roeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o drafod mor gyflym! Ceisiaf fod yn gyson yn y gwaith rwy'n rhoi yn yma, ac yn bersonol mae'n well gennyf ddefnyddio moleciwl/moleciwlau tu allan i Wicipedia. Dyma'r ffurfiau rwy'n gweld yn fwy aml yn y sector academaidd. Mae'r safon uwch cemeg ei hun yn defnyddio'r termau hyn yn awr (gweler http://www.cbac.co.uk/al-spec-chemistry-07-w.pdf ). Rwy'n ddigon parod i ddefnyddio molecylau os oes cytundeb ar hwn, ond mae'n amlwg nid yw hwn yn bodoli ar y foment. Os nad oes cytundeb yn datblygu, byddaf yn defnyddio moleciwl a moleciwlau, ond nid wyf am weld pob 'moleciwl' yn cael ei newid i 'molecwl' a 'moleciwlau' i 'molecylau' gan rai sy'n anghytuno. Gwell i mi ddechrau ychwanegu cyfraniadau, a gweld os oes unrhyw un yn gweld yr angen i newid y termau! ---Myrddin1977 20:38, 9 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Mae canllawiau Lloffwr yn y sgwrs arddull, yn gwbwl dderbyniol i mi fel canllawiau cyffredinol. Am y defnydd o eiriau unigol gadawaf y drafodaeth yn nwylo chi'r arbenigwyr gwyddonol a thechnegol. Dyfrig 09:06, 10 Gorffennaf 2006 (UTC)
Cyffredin Wicimedia
[golygu cod]Beth am ail-enwi Cyffredin Wicimedia yn Comin Wikimedia? Byddai hyn yn taro'n dda rwyn credu wrth bod Wicipedwyr o bob Wikipedia yn pori trwy'r deunydd ar Gomin Wikimedia fel ag y mae anifeiliaid o wahanol ffermydd yn pori ar dir comin. Mae cystrawen Comin Wikimedia yn gywir hefyd yn wahanol i Cyffredin Wicimedia. Rwyf wedi cynnig Comin Wikimedia gyda k gan mae yn Saesneg y cedwir ffeiliau Comin Wikimedia heblaw am ambell i dudalen gyflwyno. (Am suggesting renaming Cyffredin wicimedia to Comin Wikimedia, which is gramatically correct and also conveys the meaning better, I think.) Lloffiwr 21:00, 10 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Beth am Ffridd Wikimedia. Efallai fy mod yn ormod o burydd ac fod y cysylltiad yn rhy dennau i bobl weld y cysylltiad. Dyfrig 16:13, 11 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Rwy'n hoff o'r syniad o 'gomin' yn bersonol; fel plentyn o'r brifddinas roedd rhaid i fi edrych 'ffridd' i fyny mewn geiriadur, ond deallais i 'comin' yn syth bin! Rhywbeth i'w gymryd i mewn i ystyrieth, efallai, o feddwl pa mor gyflym mae pobl eisiau eu gwybodaeth o'r gwefannau yma. Ga i awgrymu y Wicifryngau am Wikimedia, neu ydy hynny'n merwino clustiau'r puryddion? (For Welsh learners, y Wicifryngau is a play on y cyfryngau, "the media".) Ham 19:30, 9 Awst 2006 (UTC)
- Cytunaf am "y Wicifryngau"; da iawn chi. :) Vashti 12:07, 19 Awst 2006 (UTC)
- Dwi'n cytuno gyda "Wicifryngau" a "Comin" hefyd. Ond "Comin Wicifryngau" neu "Comin y Wicifryngau"? Bydd dal angen cadw'r fannod os chwarae ar eiriau yw e? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 13:41, 19 Awst 2006 (UTC)
- Diolch am y cynigion. Rwyf wedi mentro defnyddio Comin Wicifryngau gan ddechrau ar y gwaith cyfieithu i'r Gymraeg sydd ei angen ar Gomin Wicifryngau ei hunan. Os na fydd yn plesio cawn ail-agor y drafodaeth yn ddigon cloi (cyflym)! Mae'n debyg bod angen newid y term ar wicipedia a wicifryngau eraill trwyddynt draw. Oes gan rywun yr amynedd i fynd ati i wneud hynny? Lloffiwr 22:38, 25 Medi 2006 (UTC)
I wouldn't go overboard with the translating. "Wikimedia" is a proper name; it's the name of the Wikimedia Foundation and shouldn't get translated. Angr 13:07, 30 Medi 2006 (UTC)
Byddai'n well gen innau beidio â chyfieithu Wikimedia ac yn cytuno â sylw Angr. Prin neb ar Gomin Wikimedia sydd wedi cyfieithu Wikimedia Commons o gwbl ond bod rhai wedi cyfieithu Commons. Newidiaf Wicifryngau nôl i Wikimedia am nawr tra'n disgwyl rhagor o drafod. Lloffiwr 19:02, 4 Hydref 2006 (UTC)
Edrych am Jiwlia - sut mae cyflwyno erthygl?!
[golygu cod]dwi'n cael y wici'n anodd iawn. dwi'n edrych am fotwm sy'n dweud yn syml 'sgwennu erthygl' neu 'cyfrannu cofnod' neu rhywbeth tebyg. Dwi'n dod o hyd i Flwch Tywod o hyd ac yn meddwl OK dria i hwn. Dwi wedi sgwennu erthygl am Edrych am Jiwlia ac yna meddwl ei fod wedi ei gyfrannu i'r wici ond i weld ei fod yn dal i fod yn rhan o'r Blwch Tywod. Dwi wedyn yn ceisio gludo'r erthygl wreiddiol (gan golli'r cysylltiadau) ond fod dolen ar y gwaelod yn dweud ei fod dod o'r Blwch Tywod.
Sut mae cyfrannu erthygl? A sut mae rhywun yn gwybod ei fod yn fyw go iawn ac nid jyst ar eu cyfrifiadur nhw? A beth yw'r bar 'crynodeb ar waelod y dudalen Blwch Tywod - crynodeb ar gfyer teitl i'r erthgl/cofnod?
- Rhaid ymuno er mwyn creu erthygl newydd. Ar ol ymuno, i greu erthygl teipiwch enw'r erthygl yn y blwch chwilio. Bydd wicipedia yn nodi nad oes erthygl o'r enw a bydd opsiwn yna i greu erthygl. Teipiwch yn y bocs, a wedyn dewis yr opsiwn i gadw'r dudalen Myrddin1977 21:08, 12 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Ychydig iawn o'r tudalennau cymorth sydd wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg hyd yn hyn. I bori drwy'r tudalennau help yn Gymraeg ac yn Saesneg ewch i'r dudalen Cymorth. Lloffiwr 21:28, 12 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Diolch gyfeillion. Llwyddais i sgwennu rhywbeth ac mae fel petai ar y system. Fy mai (a fy rhywstredigaeth hwyrnos i oedd lot o hyn). Serch hynny, a fyddai'n syniad rhoi botwm 'sgwennu cyfraniad' neu 'cyfrannu erthygl' ar yr och chwith yn y Blwch Offer neu Panel Llywio gan roi'n syml yr hyn ddywedodd Myrddin1977? Mae 3 llinell Myrddin1977 yn haws i'w ddeall na'r holl wybodaeth (gor-wybodaeth?) arall. Gellid wrth gwrs rhoi dolen neu gludo'r wybodaeth ychwnaegol mwy sylweddol am arddull etc oddi tano. Diolch am eich amynedd a chymorth.
Tudalen hafan
[golygu cod]A oes modd i weinyddwr fynd ati i wneud y gwelliannau sydd wedi eu hawgrymu ar dudalen sgwrs yr hafan yn yr adrannau 'Tanlinellu', 'enwau categorïau', 'Cyswllt Media wiki 1.4', 'Cywiriadau a gwelliannau', 'rhagor o welliannau', a 'Cwestiynnau'? Fe fyddwn yn falch o gael awgrymiadau'r gymuned Wicipedia ar yr adrannau 'rhagor o welliannau' a 'Cwestiynnau' hefyd gan fod y pwyntiau a godir yn fwy cymhleth na'r lleill. (Please could an administrator look at the points raised on the talk page of hafan, sections 'Tanlinellu', 'enwau categorïau', 'Cyswllt Media wiki 1.4', 'Cywiriadau a gwelliannau', 'rhagor o welliannau', and 'Cwestiynnau'? I think that the last two sections in particular need debating before being actioned.) Lloffiwr 19:57, 30 Gorffennaf 2006 (UTC)
- Rydw i wedi dylunio tudalen Hafan newydd, sydd yn "hybrid" o hafan presennol y Wicipedia Pwyleg ac hen un y Wicipedia Eidaleg, ac sy'n cynnwys yr holl gwelliannau ar sgwrs yr hafan. Os oes gan unrhyw awrymiadau i wella'r dyluniad mae croeso i chi ei olygu, ac os yw pawb yn cytuno gall un o'r gweinyddwyr diwygio'r hafan gyda'r fersiwn newydd yma. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 22:53, 29 Medi 2006 (UTC)
- Os ydyn ni'n barod, byddai'n rhoi'r hafan newydd lan. Oes rhagor o drafod neu unrhyw wrthwynebiadau?
- If we're ready, I'll put the new main page up. Is there more discussion or any objections? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:41, 23 Rhagfyr 2006 (UTC)
- Grêt. Mae'r hafan newydd yn edrych yn dda. --Llygad Ebrill 11:17, 27 Rhagfyr 2006 (UTC)
BRIWSIONYN / COOKIE! BE SY'N DIGWYDD?
[golygu cod]Why can't I log in? Is the site experiencing a technical problem? It tells me to enable cookies but no natter what I do nothing works! Oes unrhyw un arall yn cael problem efo'r busnes 'cookies' ma? Dwi wedi trio logio i mewn sawl gwaith, gyda IE a Firefox, ond dydi'r seit ddim yn derbyn fi - caf y neges fod wikipedia yn defnyddio cookies a bod rhaid imi newid gosodiadau fy mhorwr i'w derbyn. Doeddwn i heb newid fy ngosodiadau ers y tro dwetha a dydwi erioed wedi cael problem o'r blaen. Wnes i drio logio i mewn ar ol newid IE a Firefox (Mozilla) fel ei gilydd i dderbyn POB cookie (mae hyn yn beth eitha anniogel i wneud!) a hefyd gosod cy.wikipedia.org fel seit i ganiatau cookies ganddo bob tro, waeth be di'r gosodiad cyffredinol, ond dwi'n cael yr un neges bob tro dwi'n trio menwgofnodi, gyda'r ddau borydd (felly dydi'r bai ddim ar y 'broswers'). Be sy'n digwydd? Pam fod pethau wedi newid? Fedra'i ddim logio i mewn o gwbl! (Mae seits eraill sy'n iwsio cookies yn gweithio'n iawn heno gyda'r gosodiad arferol o 'derbyn cookies ac eithrio rhai 3ydd barti', sef polisi diofyn IE a Firefox). Dwi am gyfrannu pethau heno heb logio i mewn ond dwi'n methu deall be sy'n mynd ymlaen - oes problem dechnegol ar y seit? ANATIOMAROS --88.111.208.75 21:08, 28 Awst 2006 (UTC)
- Dw i ddim wedi cael unrhyw drafferth i logio fewn. Yn defnyddio Firefox. Dyfrig 21:13, 28 Awst 2006 (UTC)
Surzhyk Wikipedia
[golygu cod]Please, help us to open Wikipedia on Surzhyk language! We need just your support vote here http://meta.wikimedia.org/wiki/Requests_for_new_languages#Surzhyk_.2819_Support.2C_11_Oppose.29 Thank you so much! --Dmitry Nikitin
Adminship on cy-wikisource
[golygu cod]Hi, I've made a request at s:Wicitestun:Y Sgriptoriwm to have adminship rights granted at the Welsh Wikisource. I'm the only active user there at the moment, which means no one is available to do anything that requires adminship rights. If you'd like to support or oppose my request, please do so there. Thanks! Angr 10:44, 30 Medi 2006 (UTC)
Panel llywio
[golygu cod]Wnes i newid y cysylltiadau "Portal cymunedol" i "Porth y Gymuned" a "Digwyddiadau presennol" i "Materion cyfoes" ar y panel llywio. Ydy hi'n iawn gyda phawb os dwi'n rhoi cysylltiad i'r Caffi rhwng y cysylltiadau yna, fel hyn:
- Porth y Gymuned
- Y Caffi
- Materion cyfoes
Mae gan nifer o wicïau eraill cysylltiad i'r dudalen drafodaeth yn eu paneli llywio. Hefyd, ydy e'n iawn os dwi'n newid "Tudalen ar hap" i "Erthygl ar hap", sydd yn swnio'n mwy 'gwyddoniadurol'? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 19:04, 22 Hydref 2006 (UTC)
- Mae 'erthygl ar hap' yn taro'r glust yn iawn. Does dim meddwl gen i un ffordd na'r llall am ychwanegu 'Y Caffi' at y panel llywio. Lloffiwr 10:56, 29 Hydref 2006 (UTC)
- Dwi 'di newid "tudalen" i "erthygl" a rhoi cyswllt i'r Caffi. Os oes unrhyw wrthwynebiadau postiwch nhw fan hyn. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 10:27, 30 Hydref 2006 (UTC)
Gweinyddwyr
[golygu cod]Sorry about using English again. The shortage of admins on this site led to my being made a biwrocrat (the honour was thrust upon me, rather than being requested), and I can now make new admins, of which we have two - Defnyddiwr:Adda'r Yw and Defnyddiwr:Lloffiwr. I'm very conscious that there are other regular contributors who could and should be trusted with the tools, such as they are. Please don't feel left out. I don't think we need a formal process for nominating admins like they do on the English wikipedia, but we should probably make some basic rules. My proposal is that prospective admins should simply be nominated by another regular contributor. Defnyddiwr:Arwel Parry and I are the only ones who can actually make admins at the moment, so a message on our talk pages ought to be enough. If there is any doubt, we can always have a vote. Would people be happy with this arrangement for the foreseeable future? Deb 16:15, 25 Hydref 2006 (UTC)
- Support. Lloffiwr 16:09, 3 Rhagfyr 2006 (UTC)
Wikimania 2007 Team Bulletin
[golygu cod]Published by the Wikimania 2007 Taipei Team, Wikimania 2007 Team Bulletin provides the latest news of the Team's organizing work to everyone who is interested in Wikimania; it also gives the Team chances to announce calls for help/participation, so assistance in human and other resources can be sought in a wider range. Team Bulletin is published at the official website of Wikimania 2007 and released to the public domain. Issue 1 and Issue 2 has already published.--218.166.212.246 01:50, 29 Hydref 2006 (UTC)
Stwbyn
[golygu cod]Rydw i eisiau dechrau trafodaeth ynglŷn â stubs ar Wicipedia. Cafodd y term "stwbyn" ei gyflwyno pan oedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr Wicipedia yn ddysgwyr. Dwi'n meddwl dylen ni cael gair mwy bur Gymraeg – awgrymodd rhywun "cnewyllyn" un tro. Oes unrhyw farnau am hyn, neu awgrymiadau eraill? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 11:46, 1 Tachwedd 2006 (UTC)
- Yn cytuno bod angen diwygio stwbyn. Wedi trafod y mater ar yr aelwyd rwyf am gynnig egin erthygl yn lle stwbyn. Mae'n cyfleu'r syniad bod yr erthygl yn mynd i dyfu. Lloffiwr 14:31, 1 Tachwedd 2006 (UTC)
- Mae'n ymddangos bod Mh96 wedi gwneud y gwaith i gyd o newid o "stwbyn" i "eginyn" yn barod. Os oes rhagor o sgwrs i gael gan unrhywun, postiwch fan hyn. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 23:00, 1 Tachwedd 2006 (UTC)
yr iaith
[golygu cod]beth syn digwydd ir iaith gymraeg
- pa fath o ateb faset tishe?
Sut i ddenu rhagor o gyfranwyr? Hysbyseb rad ac am ddim!
[golygu cod]Syniad bach i geisio denu rhagor o ymwelwyr a chyfranwyr i'r wicipedia. Gellwch greu mini-wefan (wel, tudalen o leiaf) yn rhad ac am ddim ar safle iTagz.com (cwmni o Sweden). Dyma un dwi wedi creu - [10]
Gwaith pum munud. Mae'n aros i fyny am dri mis (ond medrwch adnewyddu o cyn diwedd yr amser). Wn i ddim faint o bobl sy'n debyg o'i weld o ond pe na bai ond un cyfranwr cyson arall yn dod i lenwi'r adwy mae'n werth o.
You can create a page on the web free and "advertise" the Welsh wiki there. It costs nothing and takes just five minutes. If you're not certain about your Welsh just copy and paste the text from my page and add an image if you have one (could be anything!). (Maybe it won't get many direct "hits" in itself, but you can e-mail an invite to as many people as you like when you're creating the page).
Efallai fod hyn yn "ddesprat", ond da' ni wirioneddol angen gwneud rhywbeth i gael rhagor o gyfranwyr! Mae 'na fwy ar y wiki Lladin nac sydd 'na yn y Gymraeg ar hyn o bryd.
Syniadau eraill:
- Llythyr (e-bost?) i'ch papur bro / lleol
- Os oes gynnoch chi wefan yn barod beth am roi dolen i'r wiki Cymraeg arno?
- Nodyn a dolen yn eich blog / safle MySpace, ac ati?
Anatiomaros 17:25, 21 Tachwedd 2006 (UTC)
Cymreigio Enwau Priod
[golygu cod]Mae trafodaeth ar maes-e ynglŷn â'r tuedd ar Wicipedia i Gymreigio enwau ffigyrau hanesyddol. Yr enghraifft defnyddiwyd oedd Catrin Parr, un o wragedd Harri VIII. Fel dwedodd rhywun yn y drafodaeth yna, mae'n ddigon cyffredin i gyfieithu enwau brenhinau a brenhinesau Lloegr, ond mae'n gallu bod yn dryslyd os ydy'r cyfieithiadauyn estyn i gynnwys ffigyrau llai amlwg. Yn ôl Wicipedia, enw merch Catrin Parr oedd Mair Seymour - o edrych ar hynny a ddim yn gwybod llawer am uchelwyr Lloegr, fyddai dyn yn tybio taw Cymro oedd ei gŵr hi.
A pham cyfieithu Catrin Parr a Catrin o Aragon, ac nid Siân Seymour, er enghraifft?
Nic Dafis 11:04, 27 Tachwedd 2006 (UTC)
- Yn bersonol, mae'n well gen i'r fersiynau wedi eu cymreigio ar y cyfan, gan eu bod nhw'n swnion well ynghanol braweddegau Cymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'r ieithoedd eraill yn gwneud rhywbeth tebyg: e.e. gweler y dolenni rhyngwici o Catrin Parr - Katarzyna, Katharina... Ond dwi'n cytuno fod rhai o'r enghreifftiau uchod yn ddryslyd. Dylai fod pob ffurf perthnasol ar enw'r person yng nghychwyn yn yr erthygl (a thudalen ailgyfeirio o'r enwau amgen) --Llygad Ebrill 15:38, 27 Tachwedd 2006 (UTC)
Tim pel-droed Catalwnia
[golygu cod]Oni ddyliau'r dolenni yn y cyfraniad yma fod i wefannau gymdeithasau pel-droed Cymru, Ynysoedd y ffaroe, a'r Alban hefyd / ac nid i'r dudalen ar y wlad?
Credaf dyliem gynnwys y ddolen a sgwennauis yn wreiddiol i gymdeithasau Pel-droed Gwlad y Basg a Llydaw ar droed yr erthygl.
Bot-status
[golygu cod]Hello, My name is Thijs! and I run my bot called Thijs!bot on more than 100 wikipedia's, solely to edit and add interwiki links. I would like to request a bot flag for this wikipedia, since it will then not flood the recent changes anymore. I user the pywikipedia-platform. Thanks! Thijs! 11:32, 24 Rhagfyr 2006 (UTC)
Lefel AS Cemeg
[golygu cod]Beth yw dadfeiliad ymbelydrol?
Radioactive decay?