Wal yr Anifeiliaid
Math | mur, cyfres o gerfluniau |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 9 metr |
Cyfesurynnau | 51.4811°N 3.18302°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Adeilad rhestredig Gradd I yng Nghaerdydd yw Wal yr Anifeiliad. Wal ydyw â phymtheg ceflun o anifeiliad a saif ar Stryd y Castell, rhwng canol y ddinas a Parc Bute. Safai yn wreiddiol o flaen Castell Caerdydd, ond fe'i symudwyd pan oedd rhaid lledaenu'r ffordd, ac ar yr adeg yma ychwanegwyd mwy o gerfluniau.
Hanes
[golygu | golygu cod]Cafodd William Burges, y pensaer a fu'n atgyweirio'r castell ar gyfer Ardalydd Bute, y syniad gyfer y wal ym 1866,[1] ar ôl gweld darluniadau canoloesol gan Villard de Honnecourt.[2] Mae'r fath fanylion chwareus yn nodweddiadol iawn o waith Burges. Bu farw Burges ym 1881 cyn i'w syniad gael ei wireddu, ac o ganlyniad pan y trodd sylw Arglwydd Bute at adeiladu wal derfyn ddeheuol y castell ym 1883[3] y pensaer a fu'n gyfrifol oedd olynydd Burges, William Frame.[1] Cerfiwyd y chwe anifail cyntaf allan o garreg lleol, yn bennaf gan Thomas Nicholls a'i fab; gellir gweld y modelau plastr ar eu cyfer yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Fe'u gosodwyd yn eu lle ym mis Medi 1888 yn barod ar gyfer ymweliad gan Ardalydd Bute; nid oedd ef yn ystyried y llewod yn ddigon ffyrnig a bu'n rhaid eu hael-gerfio. Gosodwyd gweddill y cerfluniau yn eu lle ym 1890.[3]
Symudwyd y wal i'w safle bresennol a'i hymhelaethu tua 1930.[2] Ychwanegwyd chwe cherflun newydd a'u cerfiwyd gan Alexander Carrick o Gaeredin.[2] Gellir gwahaniaethu rhwng y cerfluniau Fictoraidd a'r rheiny o'r 20g yn hawdd am nad oes gan y rhai diweddarach llygaid gwydr.[4] Yn y 1970au roedd cynllunwyr y ddinas yn ystyried dymchwel y wal er mwyn lledaenu'r ffordd ymhellach, ond bu banllef o brotest gan y cyhoedd ac fe'i chadwyd.[5] Atgyweiriwyd y wal yn 2010 fel rhan o brosiect cyffredinol i adfer Parc Bute.[6]
Cerfluniau
[golygu | golygu cod]Thomas Nicholls, ei fab ac eraill, 1887–1890
[golygu | golygu cod]Alexander Carrick, tua 1930
[golygu | golygu cod]-
Morgrugysor
(Atgyweiriwyd yn 2010)[7] -
Dau racŵn
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Crook, J. Mordaunt (2013). William Burges and the High Victorian Dream. Llundain: Frances Lincoln. t. 262
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 200
- ↑ 3.0 3.1 Hilling, John, gol. (1975). Plans & Prospects: Architecture in Wales 1780–1914. Caerdydd: Cyngor Celfyddydau Cymru. t. 20
- ↑ (Saesneg) Banerjee, Jacqueline (26 Tachwedd 2011). The Animal Wall, Cardiff Castle. The Victorian Web. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) James, David (24 Mehefin 2009). Do you nose how castle sculpture used to look?. WalesOnline. Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ Project Adfywio Parc Bute. Cyngor Caerdydd (11 Ionawr 2012). Adalwyd ar 18 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) Williams, Sally (9 Hydref 2010). Animal wall’s anteater gets a new nose. WalesOnline. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2013.