Traws Link Cymru

Oddi ar Wicipedia
Traws Link Cymru
Math
cymdeithas
SefydlwydHydref 2013
Cefnogir gan
Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Wrecsam, Prifysgol Bangor, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Gaerfyrddin, Mark Isherwood, Mike Hedges, Elin Jones, Rebecca Evans, Byron Davies, Carwyn Jones, Angela Burns, William Graham, Bethan Jenkins
Gwefanhttp://trawslinkcymru.org.uk/language/index.html Edit this on Wikidata


Mae Traws Link Cymru a elwir hefyd yn Ymgrch Rheilffordd Gorllewin Cymru yn fudiad sy'n ymgyrchu dros ail sefydlu’r rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin ac Afon Wen a Bangor.

Caewyd y lein rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn y 1960au gan ynysu ardaloedd helaeth o Gymru. Mae'n bosib i hyn gael ei wneud yn fwriadol, yn benderfyniad gwleidyddol, wrth gwrs. Nod Traws Link Cymru yw ailagor y lein, a'r gorsafoedd er mwyn ailfywiogi'r ardaloedd maent yn rhedeg trwodd. Byddai eu hailagor yn helpu pobl leol i gymudo, yn hwyluso mynediad i wasanaethau iechyd, siopa ayyb, ac yn helpu myfyrwyr i fynychu prifysgolion yng Nghaerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Aberystwyth a Bangor. Yn ôl y mudiad, fe fyddai’n hwb i dwristiaeth yn yr ardal, ac yn lleihau'r nifer o gerbydau nwyddau trymion (megis pren, cynnyrch archfarchnad ayyb) o’r ffyrdd cul i’r rheilffordd, sy’n fwy diogel a chynaliadwy.

Yn Awst 2016 galwodd Jeremy Corbyn, arweinydd y blaid Lafur am ailagor lein Caerfyrddin – Aberystwyth. ac yn Hydref 2016 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb lawn gwerth £300k i ailagor y rheilffordd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]