Angela Burns
| Angela Burns | |
|---|---|
| Ysgrifennydd Cysgodol dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. | |
Deiliad | |
| Cychwyn y swydd 2016 | |
| Arweinydd | Andrew R. T. Davies Paul Davies |
| Gweinidog Cysgodol dros Addysg | |
| Yn ei swydd 2010–2016 | |
| Arweinydd | Andrew R. T. Davies |
| Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro | |
| Yn ei swydd 3 Mai 2007 – 29 Ebrill 2021 | |
| Rhagflaenwyd gan | Christine Gwyther |
| Dilynwyd gan | Sam Kurtz |
| Mwyafrif | 1,504 (5.3%) |
| Manylion personol | |
| Plaid wleidyddol | Ceidwadwyr |
| Priod | Andrew Burns |
| Cartref | Sir Benfro & Caerdydd |
| Pwyllgorau | Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid 2008-2011, Aelod o Bwyllgor Cydraddoldeb. Ar hyn o bryd yn aelod o Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
| Portffolio | Comisiynydd Senedd Cymru |
Gwleidydd o Gymru yw Angela Burns. Bu'n Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rhwng 2007 a 2021.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Burns i deulu Seisnig ac fe'i magwyd mewn sawl gwlad dramor. Fe aeth i fyd busnes ar ôl gadael ysgol, yn gweithio i gwmnïau fel Waitrose, Thorn EMI a Asda gan ddod yn gyfarwyddwr ei chwmni ei hun. Yn ddiweddarach, symudodd i Sir Benfro gyda'i gŵr a daeth yn weithgar mewn gwleidyddiaeth.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Yn etholiad y Cynulliad yn 2007 enillodd y sedd gan guro'r aelod blaenorol, Christine Gwyther (Plaid Lafur) o ddim ond 98 pleidlais a John Dixon (Plaid Cymru) o 250 pleidlais mewn gorest agos iawn.
Roedd hi'n Weinidog Cysgodol dros Gyllid a Chyflenwi Sector Gyhoeddus rhwng 11 Gorffennaf 2007 a 16 Mehefin 2008 ac yna daeth yn Weinidog Cysgodol dros Drafnidiaeth ac Adfywio ar 22 Hydref 2008.[1]
Yng Ngorffennaf 2020 dywedodd na fyddai yn cystadlu ei sedd yn etholiad Senedd Cymru yn 2021.[2]
| Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|---|---|---|
| Rhagflaenydd: Christine Gwyther |
Aelod o'r Senedd dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro 2007 – 2021 |
Olynydd: Sam Kurtz |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Greasy wops slur Tory is general election candidate" (yn Saesneg). Wales Online. 2008-10-22. Cyrchwyd 2008-11-07.
- ↑ Llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn gadael Senedd Cymru , BBC Cymru Fyw, 15 Gorffennaf 2020.