Thomas Frankland Lewis

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Thomas Frankland Lewis
Thomas Frankland Lewis.jpg
Ganwyd 14 Mai 1780 Edit this on Wikidata
Bu farw 22 Ionawr 1855 Edit this on Wikidata (74 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plant George Cornewall Lewis Edit this on Wikidata
Gwobr/au Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd Syr Thomas Frankland Lewis (14 Mai, 1780 - 22 Ionawr, 1855) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Biwmares, etholaeth Ennis yng Ngogledd yr Iwerddon, Sir Faesyfed a Bwrdeistref Maesyfed[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Lewis yn Great Ormond Street, Llundain yn unig fab John Lewis, bargyfreithiwr a thirfeddiannwr o ystâd Harpton Court, Sir Faesyfed ac Ann ei ail wraig, roedd hi'n ferch i Syr Thomas Frankland o Thirkleby Park, Swydd Efrog.

Cafodd Lewis ei addysgu yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen; ymadawodd o'r brifysgol heb dderbyn gradd, gan fod ei dad wedi marw ym 1797 a bu'n rhaid i Lewis gymryd cyfrifoldeb am yr ystâd sylweddol bu iddo etifeddu yn Sir Faesyfed.

Priododd Harriett Cornewall ym 1805, bu iddynt dau fab, y mab hynaf oedd George Cornewall Lewis a'i olynodd fel AS Bwrdeistref Maesyfed.

Ym 1839 priododd ei ail wraig Marianne merch y Capten John Asheton.[2]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Aelod Biwmares[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu nifer o gyndeidiau Lewis yn cynrychioli, Maesyfed yn y Senedd, gan gynnwys Thomas Lewis, ei hen, hen, hen, daid ac AS cyntaf etholaeth y Bwrdeistref, Thomas Lewis ei daid, a John Lewis ei dad[3]. Roedd Frankland Lewis yn awyddus iawn i ddilyn eu trywydd, ond gan nad oedd gwagle ar ei gyfer derbyniodd gwahoddiad yr Arglwydd Bulkeley i gynrychioli Bwrdeistref Biwmares (sedd oedd ym mhoced teulu Bulckley) gan gynrychioli'r etholaeth o 1812 i 1826. Yn ystod y cyfnod hwn o'i yrfa Seneddol fe fu'n dilyn ei noddwr, Thomas Bulkeley trwy gefnogi Chwigiaid yr Arglwydd Grenville ac yn ymddiddori'n fawr ar bolisïau a oedd yn ymwneud a thlodi ac yn ymwneud a materion ariannol. Un o'i weithgareddau mwyaf nodedig oedd sicrhau bod ymchwiliad i'r cysyniad o Wledydd Prydain yn mabwysiadu system ariannol ddegol yn cael ei ohirio ym 1824 (gohiriwyd y cysyniad am 150 mlynedd!).[4]

Aelod Ennis[golygu | golygu cod y dudalen]

Er mwyn ryddhau ei hun oddi wrth ddylanwad Bulkeley a Greneville derbyniodd Lewis wahoddiad gan Syr Edward O'Brian i gynrychioli etholaeth Bwrdeistref Ennis yn Swydd Clare, bu newid etholaeth yn rhoi iddo'r rhyddid i gefnogi llywodraethau Torïaidd Iarll Lerpwl a George Canning. Ym mis Medi 1827 cafodd ei benodi yn Is ysgrifennydd y Trysorlys ac ym 1828 cafodd ei benodi yn Is Lywydd y Bwrdd Masnach a'i godi'n aelod o'r Cyfrin Gyngor.

Aelod Sir Faesyfed[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym mis Mawrth 1828 bu farw Walter Wilkins, Aelod Seneddol Sir Faesyfed, er ei fod yn awchu i gynrychioli'r Bwrdeistref, fel ei gyndadau, roedd swydd wag yn y Sir yn creu cyfle ail orau rhy dda i'w gwrthod, ymddiswyddodd fel AS Ennis a chafodd ei ethol fel AS Sir Faesyfed.

Ym 1828 fe ymddiswyddodd William Huskinsson, Llywydd y Bwrdd Masnach o Gabinet yr Arglwydd Wellington wedi anghytundeb parthed y Ddeddfau Ŷd, er iddo gael cynnig i aros yn y Llywodraeth fel Brif Ysgrifennydd yr Iwerddon, penderfynodd Lewis i ymddiswyddo gyda Huskinsson.

Ym 1830 cafodd ei adfer i Lywodraeth Wellington fel Trysorydd y Morlys, swydd segur, cafodd ei feirniadu'n hallt gan y Chwigiaid.

Wedi colli ei swydd pan gwympodd Llywodraeth Wellington ym 1830 bu Lewis yn gwrthwynebu polisïau Llywodraeth Chwig Iarll Grey ar ddiwygio'r bleidlais o feinciau cefn y Torïaid.

Comisiynydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Digriflun o'r London Illustrated News yn dangos Merched Beca yn ymosod ar dollborth

Ym mis Awst 1834 cafodd Lewis ei benodi fel Cadeirydd cyntaf Comisiwn Deddf y Tlodion dros Gymru a Lloegr[5]. Gan ei fod yn swydd all lywodraethol a oedd yn derbyn cyflog gan y llywodraeth bu'n rhaid i Lewis ildio ei sedd Seneddol. Yn ystod ei gyfnod ar y Comisiwn bu mewn anghydfod parhaus a Edwin Chadwick, Ysgrifennydd y Comisiwn. Ymddiswyddodd o'r corff, oherwydd resymau iechyd, ym 1839.

Ym 1841 cafodd ei benodi'n gadeirydd y comisiwn i ymchwilio i Helyntion Beca a'r comisiwn olynol a fu'n gyfrifol am ddiddymu'r ymddiriedolaethau tyrpeg.[6][7]

Ym 1846 fe'i crëwyd yn farwnig fel cydnabyddiaeth am waith gyhoeddus ef a'i etifedd[8].

Aelod Bwrdeistref Maesyfed[golygu | golygu cod y dudalen]

Ym 1847 ymneilltuodd Richard Price, AS Bwrdeistref Maesyfed ers bron i hanner canrif, o'r Senedd; gan gael gwared â rhwystr oes Lewis o gael gwireddu ei freuddwyd o gynrychioli sedd ei hynafiaid. Etholwyd Lewis yn ddiwrthwynebiad a llwyddodd i ddal ei afael ar y sedd am wyth mlynedd fel aelod Rhyddfrydol, mewn enw, ond heb gyfrannu lawer i waith y Senedd.[9]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn neuadd ei ystâd, Harpton Court[10] yn 74 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn Eglwys Maesyfed. Fe'i olynwyd yn y farwnigaeth ac fel AS Bwrdeistref Maesyfed gan George, ei fab hynaf.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Y Bywgraffiadur arlein LEWIS , Syr THOMAS FRANKLAND [1] adalwyd 4 Rhagfyr 20015
  2. Peter Mandler, ‘Lewis, Sir Thomas Frankland, first baronet (1780–1855)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 adalwyd 4 Rhagfyr, 2015
  3. "Parliamentary History of Radnor - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1893-12-30. Cyrchwyd 2015-12-04.
  4. The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009 LEWIS, Thomas Frankland (1780-1855), of Harpton Court, Rad. adalwyd 4 Rhagfyr 2015
  5. "FROM TUESDAY'S LONDON GAZETTE - The Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette and Merthyr Guardian". William Mallalieu. 1834-08-23. Cyrchwyd 2015-12-04.
  6. "COMMISSION FOR ENQUIRING INTO WELSH GRIEVANCES - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1843-11-04. Cyrchwyd 2015-12-04.
  7. "THE CHIEF MAGISTRACY OF LAUGHARNE - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1844-10-04. Cyrchwyd 2015-12-04.
  8. "Notitle - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1846-07-03. Cyrchwyd 2015-12-04.
  9. The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette adalwyd 4 Rhagfyr 2015
  10. "No title - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1855-02-02. Cyrchwyd 2015-12-04.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Edward Pryce Lloyd
Aelod Seneddol Biwmares
18121826
Olynydd:
Syr Robert Williams
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Wellesley
Aelod Seneddol Ennis
18261828
Olynydd:
William Smith O'Brian
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Walter Wilkins
Aelod Seneddol Sir Faesyfed
18281835
Olynydd:
Walter Wilkins
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Richard Price
Aelod Seneddol Bwrdeistref Maesyfed
18471855
Olynydd:
George Cornewall Lewis