Stwffwl

Oddi ar Wicipedia
Styffylau cyn ac wedi eu defnyddio
Rhesiad o styffylau cyn cael eu defnyddio
Styffylwr gyffredin gydag einion deu-ddefnydd ar gyfer plygu 'coesau' y stwffwl am fewn ac allan

Mae'r stwffwl (ar lafar, hefyd stêpl neu steplyn) yn darn metel lled-symudadwy a ddefnyddir i osod elfennau tenau. Caiff styffylau eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd:

  • i ddal dalennau o bapur: mae pen y stwffwl yn mynd drwy'r dail ac yn plygu ar yr ochr arall i ddal y dail at ei gilydd;
  • fel dull a chymorth i ddal at ei gilydd wal, pared neu fwrdd bwletin;
  • defnyddir styffylau ar gyfer gwneud blychau mewn cardbord neu bren;
  • caiff styffylau eu defnyddio er mwyn amgau deunydd ar gyfer adeiladu, inswleiddio, selio anwedd
  • ar gyfer gwaith meddygol a llawdriniaethol i gau neu uno gwahano organnau e.e. croen wedi ei rwygo

Efallai, bellach, mai yng nghyd-destun styffylu papur gyda styffylwr y caiff y gair stwffwl ei chysylltu gyntaf ym meddyliau'r cyhoedd. Datodir y stwffwl gan declyn dadstyffylu.

Stwffwl Hanesyddol[golygu | golygu cod]

Stwffl hanesyddol 'cynffon gwennol' o Pasargadae, Ymerodraeth Persia, 6g CC

Defnyddiwyd styffylau ers canrifoedd ym maes pensaerïaeth wrth adeiladu tai ac adeiladau sylweddol. Defnyddiwyd styffylau er mwyn uno a chryfhau'r seilwaith meini wedi eu naddu.

Defnyddiwyd styffylau yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Byddai rhai ohonynt wedi'u gwneud o bren ar ffurf cynffon ddwbl, ond y rhai a ddefnyddiwyd fwyaf oedd rhai o efydd. Dewisiwyd efydd oherwydd, yn ogystal â bod yn fwy gwydn, nid yw'n ocsideiddio wrth i'r haearn gynyddu mewn cyfaint a rhannu'r cerrig. Yn anffodus i haneswyr y presenol, mae'r arfer o ddefnyddio'r metel hwn, neu'n hytrach arfer lladron a'r cyhoedd wedi hynny, i ddwyn y metal, wedi cyfrannu'n fawr at ddinistrio henebion.

Yn yr Oesoedd Canol, defnyddiwyd styffylau haearn i glymu'r meini nadd ("ashlar" yn Saesneg) yn yr un rhes. Byddent yn gosod y meini'n ddyblau yn bleth gan ffurfio cadwyn gerrig. Y ffordd fwyaf solet o uno 'boncyff' y garreg nadd oed eu llithro yn nhrwch y cerrig a'u gosod gyda phlwm os fyddai'r math o garreg a ddefnyddiwyd yn gallu gwrthsefyll gwres heb hollti. Pan nad oedd yn bosib defnyddio plwm defnyddiwyd swlffwr yn lle.

Defnyddiwyd copr yn ogystal ag efydd wrth ddefnyddio'r styffylau ar waith marmor , neu fe'u gofalwyd gyda cîn i osgoi ocsideiddio. Mabwysiadwyd gwahanol ffurfiau yn ôl eu bwriad i sicrhau a dal simneiau'r neu gysylltu darnau a oedd wedi'u gwahanu:

  • Yn yr achos cyntaf, defnyddiwyd 'sawdl' sydd wedi'u gwneud o haearn neu gopr
  • Yn yr ail achos, defnyddiwyd styffylau siâp T

Mae'r 'pawen' yn ddyfais gymharol ddatblygedig ar gyfer Louis XV, brenin Ffrainc,[1] ac ers hynny maent wedi cael esblygiad mawr o ran maint yn ogystal ag mewn cymwysiadau.

Stwffwl at Bapur, Cardffwrdd neu Bren[golygu | golygu cod]

Papurach wedi eu styffylu ar bolyn hysbysu, Toronto
Papurach wedi eu styffylu ar bolyn hysbysu, Toronto

I'r rhan fwyaf o bobl cysylltir stwffwl bellach gyda'i ddefnydd at cyfuno dalennau papur (at archifo gwaith papur mewn swyddfa), cardbord (ar gyfer pacio deunydd a boscys), neu bren (ar gyfer gwaith saer coed neu osod carpedi). Mae'r gair stwffwl felly yn cyfeirio at bin wedi'i wneud o wifren fetel wastad gyda dwy ongl 90 gradd, gan ei gwneud yn ochr hir ("bwa") gyda dwy goes fyrrach sydd (os yw'r stwffwl at ddefnydd caled fel pren neu gardfwrdd) wedi eu naddu rhywfaint ar y blaen. Defnyddir stwffwl hefyd fel y deunydd mowntio neu osod hysbysiadau ar hysbysfwrdd neu bared meddal.

Styffylu[golygu | golygu cod]

Styffylau'n cael eu defnyddio ar clin person

Mae stwffwl yn cael ei wasgu gyda chymorth styffylwr. Caiff y breichiau eu gwthio a thyllu'r deunydd er enghraifft, bâr o daflenni o bapur. Wedi tyllu bydd y 'breichiau' yn plygu tuag at ei gilydd (weithiau ar wahân i'w wneud yn haws datod), gan glampio'r dalennau gyda'i gilydd.

Caiff styffylau eu gludo'n ysgafn gyda'i gilydd mewn cyfres o tua 50 darn. Mae'n hawdd llwytho'r rhain i styffylwr. Mae styffylau ar gael mewn ychydig o ledoedd ac mewn gwahanol ddarnau. Rhaid i'r lled gydweddu â lled y styffylwr; mae hyd y breichiau yn pennu trwch mwyaf y pentwr papur sydd i'w styffylu gyda'i gilydd.

Mae 100 o ddalenni o 80 gram yn cyfateb i uchder o 10 mm. Mae angen 3mm yn ychwanegol ar y stwffwl i sicrhau bod y papur yn sownd. Yn yr achos hwn, mae'n golygu bod angen defnyddio styffylau 23/13 s.

Ar gyfer cylchgronau, mae'r taflenni fel arfer yn cael eu plygu yn eu hanner a rhoddir y styffylau yn y llinell blygu. Mae yna hefyd styffylau gyda bwa gwastad. Mae'r styffylau hyn yn addas ar gyfer pamffledi neu gylchgronau a gallant (o leiaf os yw'r styffylau wedi'u trefnu ar y pellter cywir oddi wrth ei gilydd) mewn ffeil ddogfen i'w stopio.

Anfantais Styffylau Metal[golygu | golygu cod]

Anfantais styffylau yw y byddant yn rhydu dros amser. Mae rhwd yn niweidiol iawn i'r papur. Felly, rhaid tynnu'r styffylau oddi ar ddogfennau sy'n cael eu harchifo. Mae hyn hefyd yn berthnasol i glipiau papur a rhwymwyr haearn eraill.

Cynhyrchir styffylau dur gwrthstaen ("stainless steel") â phlatiau copr er mwyn osgoi rhydu. Ond mae'r rhain yn ddrytach ac yn anghyffredin.

Stwffwl Tecstiliau[golygu | golygu cod]

Mae staplau hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer clustogi (yna'n cael eu tanio i bren dodrefn gyda gwn stwffwl) ac ar gyfer pwytho clwyfau mawr. Gellir ystyried stwffwl hefyd fel gair i ddisgrio 'tac' sy'n dal at ei gilydd deunydd tecstiliau megis mewn soffa neu hyd yn oed trwsus gwydn fel jîns - rivet yn Saesneg.

Etymoleg y gair Stwffwl[golygu | golygu cod]

Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru eir cofnod cynharaf o'r gair stwfflwr o'r 13g wedi ei sillafur fel ystifful (ystiffwl). Gall gyfeirio at "piler, post, cynhalbren, planc, tresl, trawst, cnocer (drws), cliced, bachyn a stapl.[2] Yn hynny o beth gall fod cyswllt gyda'r gair Saesneg, 'staple' a ddaw o'r un cyfnod ac a oedd, yn wreididol, yn cyfeirio at "stapol, meaning "post, pillar". [3] Nid yw'n glir pryd ddaeth y gair i gyfeirio at y defnydd cyfoes yng nghyd-destun peiriant styffylwr, gellid tybio iddo fod yn ystod tŵf addysg cyfrwng Cymraeg oddeutu yr 1960au.

Ceir 'Ogof Stwffwl Glas' ar Ynys Enlli.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]