Sivapithecus

Oddi ar Wicipedia
Sivapithecus
Amrediad amseryddol: 12.5–8.5 Miliwn o fl. CP
Mïosen
Penglog S. indicus yn Amgueddfa Byd Natur, Llundain.
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Mammalia
Urdd: Primates
Is-urdd: Haplorhini
Inffra-urdd: Simiiformes
Teulu: Hominidae
Is-deulu: Ponginae
Genws: Sivapithecus
Rhywogaethau

S. brevirostris
S. punjabicus
S. parvada
S. sivalensis
S. indicus

Cyfystyron

Ramapithecus

Genws o brimatiaid yn nheulu'r hominidiaid oedd Sivapithecus a oedd yn byw yn ystod epoc y Mïosen. Aelod o'r is-deulu Ponginae ydyw, a chredir ei fod yn hynafiad uniongyrchol yr orangwtang. Cafwyd hyd i ffosiliau o'r epa diflanedig hwn ym Mhacistan, Twrci, Tsieina, Gwlad Groeg, a Chenia, yr olion hynaf yn dyddio o 17 miliwn o flynyddoedd yn ôl a'r diweddaraf o 8 miliwn o flynyddoedd yn ôl.[1]

Ym 1932 cafwyd hyd i ffosiliau o ên uchaf a dannedd ym Mryniau Siwālik, bellach yng ngogledd Pacistan, a alwyd yn Ramapithecus. Ym 1960 dechreuodd yr anthropolegydd Elwyn Simons o Brifysgol Yale astudio olion Ramapithecus, gan nodi bod siâp yr ên a morffoleg y dannedd yn ymddangos fel petai yn ffosil trawsnewidiol rhwng epaod a bodau dynol. Dadleuodd Simons taw Ramapithecus oedd y cam cyntaf wrth i esblygiad bodau dynol ymrannu oddi ar llinach gyffredin yr hominidiaid. Cafodd olion Ramapitechus eu dyddio i 14 miliwn o flynyddoedd yn ôl, a oedd yn cytgordio â'r dybiaeth ar y pryd i fodau dynol ymrannu oddi ar epaod eraill rhyw 15 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Cefnogwyd y ddamcaniaeth hon gan David Pilbeam, un o fyfyrwyr Simons, ac hyd at y 1980au bu nifer o anthropolegwyr yn ystyried Ramapithecus yn hynafiad uniongyrchol Homo sapiens.[2]

Yn niwedd y 1960au cafodd damcaniaeth Simons ei herio'n gyntaf, a hynny gan y biocemegydd Allan Wilson a'r anthropolegydd Vincent Sarich o Brifysgol Califfornia, Berkeley. O ganlyniad i arbrofion a oedd yn cymharu cemeg foleciwlaidd albwminau o wahanol rywogaethau o anifeiliaid, dadleuasant bod yn rhaid i ymraniad esblygiadol Homo sapiens ddigwydd yn hwyrach o lawer nac oes Ramapithecus. Cafodd gwaith Wilson a Sarich ei wfftio gan sawl anthropolegydd. Ym 1976, darganfu Pilbeam ên gyfan o Ramapithecus ym Mryniau Siwālik, a chanddi siâp-V a oedd yn gwbl wahanol i gromlin barabolig yr ên ddynol. Ymhen fawr o dro, ymwrthododd Pilbeam â'i gred taw Ramapithecus oedd hynafiad uniongyrchol bodau dynol. Yn sgil rhagor o ddarganfyddiadau o ffosiliau, ystyriwyd Ramapithecus yn gyfystyr â'r genws Sivapithecus.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Sivapithecus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Ramapithecus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ionawr 2021.