Siân Rhiannon Williams

Oddi ar Wicipedia
Siân Rhiannon Williams
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdarlithydd, hanesydd Edit this on Wikidata

Hanesydd ac addysgydd yw Siân Rhiannon Williams sydd yn arbenigo ar hanes menywod Cymru gan ysgrifennu a chyfrannu i sawl llyfr a rhaglen deledu a radio.[1]

Bywyd[golygu | golygu cod]

Magwyd Siân yn Rhymni gan astudio doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu'n athraws ac yn gynhyrchydd radio cyn treulio’r rhan fwyaf o’i gyrfa yn gweithio gyda chyw-athrawon hanes a myfyrwyr ymchwil ac yn Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (hen Athrofa Addysg Prifysgol Cymru). Mae hi bellach yn byw yn y Barri.[1]

Arbenigedd[golygu | golygu cod]

Ei phrif diddordeb ymchwil yw hanes menywod ond mae hefyd wedi ymchwilio i hanes yr iaith Gymraeg ac addysg.

Mae'n ymwneud â nifer o sefydliadau, byrddau golygyddol a mentrau sy’n hybu hanes Cymru a hanes menywod, gan gynnwys Llafur (y cyfnodolyn hanes llafur Cymru), y Placiau Porffor Menywod Cymru a’r gyfres Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor Archif Menywod Cymru sy'n ymchwilio i ddarganfod a deall hanes menywod yng Nghymru.[1]

Bu iddi awduro llyfrau a hefyd cyfrannu penodau i eraill gan gynnwys Yr Apêl: Hanes Rhyfeddol Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923-24 (Y Lolfa) llyfr ddwyieithog ar Apêl Heddwch Menywod Cymru.[2]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Mae Williams wedi awrdura sawl llyfr a chyfrannu erthyglau at nifer di-dri o gyhoeddiadau a chylchgronnau. Ymysg ei llyfryddiaeth mae:

  • Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg - Gwasg Prifysgol Cymru, 1992, ISBN: 9780708311578 (0708311571) Cyfrol yn dadansoddi safle'r iaith Gymraeg yng nghymdeithas ardal ddiwydiannol yr hen Sir Fynwy yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn olrhain y rhesymau dros enciliad yr iaith.[3]
  • Struggle or Starve: Women's Lives in the South Wales Valleys Between the Two World Wars - gol. Siân Rhiannon Williams a Carol White, Gwasg Honno, 1998, ISBN 10: 1870206258ISBN 13: 9781870206259[4]
  • The Gwent County History, Volume 4: Industrial Monmouthshire, 1780 - 1914 (Volume 4) - gol. Siân Rhiannon Williams,Ralph A. Griffiths, a Chris Williams, Gwasg Prifysgol Cymru, 2011, ISBN-10: ‎ 0708323650, ISBN-13: ‎ 978-0708323656[5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Sian Rhiannon Williams". Gwefan Archif Menywod Cymru. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
  2. "Llyfr newydd i nodi canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru". Prifysgol Cymru. 17 Hydref 2023.
  3. "Oes y Byd i'r Iaith Gymraeg". Gwales. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
  4. "Struggle or Starve". Gwales. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
  5. "The Gwent County History, Volume 4: Industrial Monmouthshire, 1780 - 1914 (Volume 4)". Gwefan Gwasg Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]