Archif Menywod Cymru

Oddi ar Wicipedia
Archif Menywod Cymru
Enghraifft o'r canlynolarchif Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1997 Edit this on Wikidata

Mae Archif Menywod Cymru (Saesneg: Women's Archive Wales (AMC/WAW) yn elusen sy'n gweithio i ganfod a chadw adnoddau ar gyfer astudio menywod yn hanes Cymru. Sefydlwyd yn 1997.

Amcanion[golygu | golygu cod]

Ursula Masson, cyd-sylfaenydd AMC mewn digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol y Merched a drefnwyd gan AMC yn 2003

Diffinnir ei amcanion fel: "Adnabod ac achub deunyddiau sy'n ymwneud â bywydau menywod yng Nghymru yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ac annog eu hadneuo mewn cadwrfeydd cyhoeddus priodol" a "Hybu dealltwriaeth o rolau menywod yn hanes Cymru, a'r cynhwysiant o fenywod mewn hanes a addysgir mewn ysgolion ac addysg uwch.”[1]

Mae AMC/WAW yn cefnogi ymchwil ac astudiaeth i hanes merched yng Nghymru, gan gynnwys merched Cymreig a merched eraill sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru neu sydd wedi cyfrannu at hanes Cymru.[1]

Fe'i cyd-sefydlwyd gan Ursula Masson, a oedd wedi sicrhau cyllid ymchwil ym 1995 i ddogfennu hanes mudiad rhyddhau menywod yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 1997 trefnodd hi a’i chynorthwyydd ymchwil Avril Rolph gyfarfod o lyfrgellwyr, archifwyr, haneswyr a phartïon eraill â diddordeb, a arweiniodd at ffurfio AMC/WAW. Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinnol gyntaf yn 1998 ac etholwyd yr hanesydd Deirdre Beddoe yn gadeirydd.[2][3]

Casgliadau[golygu | golygu cod]

Cedwir casgliadau AMC/WAW mewn archifau sirol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a llyfrgelloedd prifysgolion a llyfrgelloedd eraill.[4]

Gweithgaredd[golygu | golygu cod]

Mae'r Archif yn cynnal darlithoedd a chynhadleddau, yn aml ar-lein er mwyn hwylustod i aelodau a'r cyhoedd. Mae'r nifer o'r rhain yn y Gymraeg a'r prosiectau mawrion yn ddwyieithog.

Teithiau Treftadaeth[golygu | golygu cod]

Mae'r Archif yn trefnu Teithiau Treftadaeth mewn gwahanol ardaloedd o Gymru er mwyn cyflwyno hanes menywod y fro. Fel enghraifft, trefnwyd 'Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru' yn y Gogledd yn Oriel Môn yn 2009 gyda Nia Powell o Adran Hanes Cymru Prifysgol Bangor, ac Annie Williams o Goleg Harlech yn traddodi darlithoedd.[5]

Cyhoeddwyd adnodd Teithiau Treftadaeth Menywod Cymru sy'n cynnig llwybrau cerdded yn dangos hanes a phrif nodweddion hanes menywod ar draws Cymru ar gyfer trefi: Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Y Barri, Caerdydd, Caerfyrddin, Casnewydd, Y Fenni, Llandudno, Merthyr Tudful, Narberth, Penarth, Y Fenni, Pontypridd, a Wrecsam.[6] Mae AMC yn rhedeg amryw o brosiectau gan gynnwys:[7]

  • Gwir Gofnod o Gyfnod - Setting the Record Straight (2019-2021)

Arddangosfeydd[golygu | golygu cod]

Cynhelir arddangosfeydd ar themâu arbennig a nifer ohonynt wedi ei digido ac ar wefan yr Archif:

  • Sioeau ar Daith Hanes Menywod yng Nghymru (2007-2010)
  • Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – y Profiad Cymreig (2015-16) Ceir gwefan benodol i'r Prosiect

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "About us". AMF/WAW. Cyrchwyd 1 November 2019.
  2. "History". AMC/WAW. Cyrchwyd 1 November 2019.
  3. "Ursula Masson". 100+ Welsh Women. WEN Wales. Cyrchwyd 1 November 2019.
  4. "Our collections". AMC/WAW. Cyrchwyd 1 November 2019.
  5. "Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru". =BBC Cymru Fyw. 2009. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
  6. "Teithiau Treftadaeth Menywod". Gwefan Archif Menywod Cymru. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
  7. "Amdanom". Gwefan Archif Menywod Cymru. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]