Ursula Masson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ysgolhaig ac awdur o Gymru oedd Ursula Masson (née O'Connor, 19457 Ebrill 2008).[1]

Ursula Masson, Diwrnod Rhyngwladol Menywod, 8 Mawrth 2003, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd

Ganwyd Ursula Masson i'r gymuned Wyddelig ym Merthyr Tudful ac aeth i Ysgol Ramadeg Castell Cyfarthfa.[2] Astudiodd hanes y gymuned Wyddelig ym Merthyr fel rhan o'i gradd Meistr ym Mhrifysgol Keele, wedi iddi raddio o Brifysgol Caerdydd. Wedi iddi gwblhau ei hastudiaethau academaidd, bu'n gweithio fel newyddiadurwraig, adref yn ne Cymru ac i'r Sydney Morning Herald yn Awstralia rhwng 1969 a 1972, cyn dychwelyd i addysgu oedolion yn Abertawe. Daeth yn ddarlithydd hanes ym Mhrifysgol Morgannwg yn 1994, gan ddod yn ffigwr amlwg ym maes astudiaethau hanes menywod.

Bu Ursula Masson, ynghyd â'r Athro Deirdre Beddoe, yn allweddol yn sefydlu Archif Menywod Cymru / Women's Archive of Wales yn 1998. Roedd hefyd yn aelod o bwyllgor Grŵp y De-Orllewin o Rwydwaith Hanes Menywod (a enwyd wedi hynny yn Grŵp a De Orllewin a Chymru), ac yn cyd-olygu Llafur, cylchrawn Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru.

Yn ystod ei chyfnod fel Cadeirydd Archif Menywod Cymru, cynigiodd y syniad o gynnal cyfres o Sioeau ar Daith Hanes Menywod Cymru. Byddai pobl yn gael eu gwahodd i ddod â deunydd yn ymwneud â hanes cymdeithasol bywydau menywod i gael eu ffotograffu a'u sganio i'w harddangos ar wefan Casgliad y Werin Cymru, ac mewn nifer o achosion yn cael eu cyflwyno ar adnau i archifau cyhoeddus yng Nghymru. Ym Mhrifysgol Morgannwg, sefydlodd Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Parhaodd ei gwaith hymchwil ynghyd â'i haddysgu, gan olygu papurau Cymdeithasol Ryddfrydol Menywod Aberdar 1891–1910, a chwblhau doethuriaeth ar y testun For Women, for Wales and for Liberalism: Women in Liberal Politics in Wales, 1880–1914, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru ar ôl ei marwolaeth.[3]

Bu'n cydweithio yn agos â Jane Aaron a Gwasg Honno, Gwasg Menywod Cymru, ar yr imprint Clasuron Honno – er mwyn adfer i brint weithiau menywod o Gymru a oedd yn ysgrifennu yn ystod y 19g a'r 20g.[4] Golygodd ddau o lyfrau'r gyfres, sef: Elizabeth Andrews, A Woman's Work is Never Done[5] (2006) a The Very Salt of Life: Welsh Women's Political Writings from Chartism to Suffrage[6] (2007).

Bu farw yn 2008 a chynhelir Darlith Goffa Ursula Masson gan y Ganolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru yn flynyddol ar 8 Mawrth, sef Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Dadorchuddwyd Plac Porffor er cof amdani a osodwyd ar Lyfrgell Ganolog ym Merthyr Tudful ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, 8 Mawrth 2019.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • A Woman's Work is Never Done gan Elizabeth Andrews, golygwyd a chyflwynwyd gan Ursula Masson, Gwasg Honno, 2006
  • The Very Salt of Life: Welsh Women's Political Writings from Chartism to Suffrage, golygwyd a chyflwynwyd gan Jane Aaron a Ursula Masson, Gwasg Honno, 2007
  • For Women, for Wales and for Liberalism: Women in Liberal Politics in Wales, 1800-1914, Ursula Masson, Gwasg Prifysgol Cymru, 2010

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "Ursula Masson Memorial Prize". http://history.research.southwales.ac.uk/UrsulaMasson/MemorialPrize/. (Saesneg)
  2. "Ail blac porffor Cymru i'w ddadorchuddio". https://chwaraeteg.com/newyddion/plac-porffor-ursula-masson/.
  3. "Bywgraffiad Ursula Masson ar wefan Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru". http://genderstudies.research.southwales.ac.uk/memorial-lecture/ursula-biog/index.html.
  4. "Gwefan Gwasg Honno". 9 Mawrth 2019. https://www.honno.co.uk/about/?lang=cy.
  5. "A Woman's Work is Never Done by Elizabeth Andrews, published by Honno". http://www.honno.co.uk/dangos.php?ISBN=9781870206785.
  6. "The Very Salt of Life: Welsh Women's Political Writings from Chartism to Suffrage, published by Honno". http://www.honno.co.uk/dangos.php?ISBN=9781870206907.