Sgwrs Defnyddiwr:Aurelio de Sandoval

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
Shwmae, Aurelio de Sandoval! Croeso mawr i Wicipedia — y gwyddoniadur rhydd. Welcome message in English
Diolch am ymuno â Wicipedia ac am eich cyfraniadau diweddaraf — fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma.
Prosiect amlieithog i greu gwyddoniadur rhydd yw Wicipedia. Fe sefydlwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg yn 2001, a'r fersiwn Cymraeg yn 2003, a bellach mae 280,446 erthygl gennym. Rhowch gynnig ar y dolenni defnyddiol isod, a dysgu sut gallwch chi olygu unrhyw erthygl o ganlyniad. A chofiwch — dyfal donc a dyr y garreg.
Y Caffi
Tudalen i ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia.
Cymorth
Cymorth ynglŷn â defnyddio Wicipedia.
Porth y Gymuned
Gwelwch beth sy'n mynd ymlaen a beth
sydd angen gwneud yma.
Golygu ac Arddull
Sut i olygu erthygl ac arddull erthyglau.
Hawlfraint
Y rheolau hawlfraint yma.
Cymorth iaith
Cymorth gyda'r iaith Gymraeg.
Polisïau a Chanllawiau
Rheolau a safonau a dderbynnir gan y gymuned.
Cwestiynau Cyffredin
Y cwestiynau cyffredin a ofynnir gan ddefnyddwyr.
Tiwtorial a'r Ddesg Gyfeirio
Dysgu sut i olygu cam wrth gam gyda'r Tiwtorial,
a chyflwynwch eich cwestiynau wrth y Ddesg Gyfeirio.
Y Pum Colofn
Egwyddorion sylfaenol y prosiect.

Dyma eich tudalen sgwrs lle gallwch dderbyn negeseuon gan Wicipedwyr eraill. I adael neges i Wicipedwr arall, dylech ysgrifennu ar dudalen sgwrs y defnyddiwr gan glicio ar y cysylltiad iddi, ac wedyn clicio ar y tab "sgwrs".

Ar ddiwedd y neges mewn tudalennau sgwrs (fel yr un yma), gadewch ~~~~, a bydd y cod yma yn gadael stamp eich enw ac amser gadael y neges. Os ydych am gael cymorth gan weinyddwyr, rhowch y nodyn {{Atsylwgweinyddwr}} ar eich tudalen sgwrs.

Fe obeithiwn y byddwch yn mwynhau cyfrannu yma,
Y Wicipedia Cymraeg


Cofion cynnes, Deb (sgwrs) 08:05, 13 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

Nid yw'ch erthyglau yn cyrraedd y safon ofynnol. Os gwelwch yn dda eu gwella cyn gynted â phosibl.Deb (sgwrs) 08:05, 13 Chwefror 2020 (UTC)[ateb]

Eich erthyglau[golygu cod]

Rwy'n hapus i weld eich bod yn gwneud ymdrech i droi Valentín Elizalde yn erthygl iawn. Ond mae'n bell o'r safon sydd ei hangen arnom. Ydych chi'n deall y broblem? Efallai eich bod chi'n hollol gywir wrth feddwl bod Sr Elizalde yn gerddor pwysig iawn a bod angen i'r byd wybod amdano. Ond yn anffodus nid yw'r erthygl yn gwneud llawer i adrodd ei hanes.

Gadawodd Deb nodyn yma i chi ym mis Chwefror. Gofynnodd hi i chi wella'r erthyglau roeddech chi wedi'u creu. Ni wnaethoch chi hynny, ond aethoch chi ymlaen i greu mwy. Roedd yn rhaid i olygyddion eraill dreulio amser yn eu trwsio.

Mae hwn yn Wici bach. Nid oes gennym ni gannoedd o olygyddion a all dreulio amser yn trwsio erthyglau. Os gwelwch yn dda, peidiwch â chreu mwy o erthyglau ar y wici hon nes eich bod wedi gwella'r rhai rydych chi wedi'u gwneud eisoes. --Craigysgafn (sgwrs) 22:08, 25 Awst 2020 (UTC)[ateb]

Ydwyf. Yn bendant. Mae eich erthyglau i gyd yn rhy fyr. Er enghraifft, edrychwch ar y gwahaniaeth rhwng y fersiwn wreiddiol o Manuel Turizo a ysgrifennoch chi a'r fersiwn daclus a wnaed gan Deb a Dafyddt. Mae'r erthygl yn dal yn eithaf byr, ond o leiaf mae'n daclus: mae'r dyddiadau yn y ffurf cywir; mae yna infobox ac mae categorïau ar y gwaelod.
Doeddwn i ddim yn gwybod am Valentín Elizalde cyn i chi greu'r erthygl, a dw i ddim yn gwybod llawer mwy amdano fe nawr. Pe gallech chi roi ychydig o frawddegau i ni a fyddai'n esbonio pam y dylai pobl y tu allan i Fecsico gymryd sylw ohono (a'r bobl eraill) yna byddai hynny'n wych! --Craigysgafn (sgwrs) 22:43, 25 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Diolch am eich ateb. (Gweler isod. Dw i wedi ei symud o'n nhudalen sgwrs i. Mae'n well cadw'r sgwrs gyda'i gilydd mewn un lle.) --Craigysgafn (sgwrs) 08:17, 26 Awst 2020 (UTC)[ateb]
Dywedasoch: "Pe gallech chi roi ychydig o frawddegau i ni a fyddai'n esbonio pam y dylai pobl y tu allan i Fecsico gymryd sylw ohono (a'r bobl eraill) yna byddai hynny'n wych!" Wel dylent gymryd sylw oherwydd ei fod yn un o brif arddangoswyr cerddoriaeth Mecsicanaidd, yn ychwanegol at hynny mae'n dechrau cymryd ffyniant eleni (er iddo farw 13 mlynedd yn ôl). Rwy'n gadael y ddolen i'r bywgraffiad gwreiddiol i'r Sbaeneg, mae'n fyr hefyd, dyna pam mai ychydig iawn o wybodaeth a roddais ar Wikipedia yn Gymraeg.https://es.wikipedia.org/wiki/Valent%C3%ADn_Elizalde
Mae cerddoriaeth Mecsicanaidd yn dechrau cymryd ffyniant ym mron y byd i gyd, er enghraifft Christian Nodal sef arddangoswr mwyaf cyfredol y gerddoriaeth hon.
Rwyf innau wedi bod yn edrych ar yr erthygl Valentín Elizalde. Rydych yn nodi iddo gael ei ladd gan comando. O daro golwg sydyn ar yr erthygl yn yr iaith Saesneg (tydw i ddim yn gallu siarad, darllen nac ysgrifennu yn yr iaith Sbaeneg), mae'n nodi iddo gael ei ladd o bosib gan aelodau o gangiau cyffuriau. Yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, diffiniad 'comando' yw "uned o filwyr neu fôr-filwyr". Dwi'n cymryd mai camgymeriad yn deillio o gyfieithu testun o'r Sbaeneg i'r Gymraeg yn defnyddio peiriant cyfieithu yw hyn yn hytrach nag ymgais gennych i fandaleiddio'r Wicipedia Cymraeg, ond fel y noda Defnyddiwr:Craigysgafn uchod "Mae hwn yn Wici bach. Nid oes gennym ni gannoedd o olygyddion a all dreulio amser yn trwsio erthyglau."
Mae'r canlynol o dudalen esːWikipedia:Traduccionesː
También puedes usar un traductor automático, pero ten en cuenta que es necesario revisar y corregir exhaustivamente el resultado de cualquier traductor automático, de forma que sea fiel al original y además se entienda perfectamente en español.
Mae'r un peth yn wir am gyfieithu i'r Gymraeg. Os yw erthygl am bwnc sy'n anghyfarwydd i ni a does dim ffynhonellau yn cael eu cynnwys yn yr erthygl na rhai eraill ar gael ar y we mewn iaith rydym yn ei ddeall, mae'n codi cwestiwn beth ydym am wneud gydag erthyglː a ddylem dreulio amser yn ceisio cadarnhau ei ddilysrwydd a'i gywiro neu ei ddileu? Efallai bod hyn yn swnio'n llym, ond tra rydych yn frwdfrydig i bawb wybod am gantorion arddull penodol o gerddoriaeth o Fecsico, dylid hefyd ystyried beth sy'n rhesymol gofyn i weinyddwyr wicis llai ei wneud.--Rhyswynne (sgwrs) 11:33, 26 Awst 2020 (UTC).[ateb]