Sgwrs Defnyddiwr:Anatiomaros/Archif 1

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Tudalen archif yw hon. Peidiwch ag ychwanegu ati, os gwelwch yn dda.

Annwyl Anatimaros,

Rwy'n awyddus i gael yr hawl i ychwanegu lluniau i erthyglau. Oes modd trefnu hyn o. g. y. dd?

Diolch Golygydd


Diolch[golygu cod]

Diolch am gynnig help imi, rwy'n siwr y byddaf i'n cysylltu'n fynych i ofyn sut i osod tudalennau ac ati.

Ieithgi

Diolch am y cymorth[golygu cod]

Dwi wrthi'n gweithio ar yr erthyglau cloeon. Ydw i'n iawn i rhoi dolen at wefan allanol (fy wefan i) lle mae gwybodaeth manylach am y pwnc mewn cwestiwn. Fel yr wyf i wedi neud gyda'r cyfraniad clo 5 lever?

Hefyd, ar ol i mi newid cofnod, ar y tudalen newidiadau diweddar, beth yw'r rhifau gwyrdd a coch mewn bracedi? nifer y llythrennau yr ychwangwyd neu a thynnwyd? Dewi


S'mai[golygu cod]

Newydd sylwi dy fod wedi newid Bargod i Bargoed, a Bargoed i Bargod ar dudalen Bargoed. Bargod yw enw Cymraeg swyddogol y dref (dylwn wybod, dwi'n gweithio yn y dref i Fenter Iaith y sir!). Oes gwahaniaeth gyda ti os dwi'n ei newid yn ôl? --Ben Bore 16:07, 22 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Croeso! Deb 17:46, 14 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Could you put a translation of your message on my talk page, I'm having difficulties translating it. Paul-L 18:19, 16 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Most of the help pages are copied/translated from the English language Wikipedia (en:) help, and that is the best place to look for help. Although we are more relaxed than the have rules you'll find in the en: wikipedia. For pictures that are free of copyright, they'll likely be on Wikimedia Commons, and so don't need to upload them to this wikipedia. For semi-complicated code, try to find a similiar page on any wikipedia, and copy the code, and then adapt/translate in the new article. Paul-L 20:32, 16 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Cynlluniau[golygu cod]

Diolch, Fôn. Dim cynlluniau pendant i sgwennu rhywbeth am lenyddiaeth Rwsieg. Dwi'n cymryd pethau fel maen nhw'n dod ar hyn o bryd - yn trio gorffen rhai erthyglau am tsariaid Rwsia, ond dwi'n licio Wici am bo' fi'n gallu neud beth bynnag dwi am ei neud heddiw. Ô'n i'n meddwl y leiciwn i gario ymlaen gyda'r dudalen ar Safleoedd Treftadaeth y Byd drwy neud un ar Dyfrbotn Pont-cysyllte nesaf, yn cario ymlaen gyda'r tsariaid, mwy am hanes Rwsia a dwyrain Ewrop, ac efallai ieithyddiaeth nawr bod pynciau ieithyddol wedi dechrau codi yma. Mae yna dudalennau'n barod am ychydig awduron Rwsieg (ond heb fod yn or-lawn!). Swn i'n leicio gweld rhai ar Pushkin, Lermontov a Dostoevsky, ond byddai'n orchwyl gymhleth eu paratoi. Oes na gynlluniau da ti? Daffy 20:08, 21 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Y Gwrthddiwigwyr Cymreig[golygu cod]

I made the lower case page into a redirect to your prefered page. To do this put this

#redirect [[page name goes here]]

or this

#AIL-CYFEIRIO[[page name goes here]]

on the page to be redirected. I can't delete pages, as I'm not an sysop of cy:, but if you need pages deleted, you will need to ask Deb. You mention another person has written this article - if they haven't released it under the GFDL, the text will have to be deleted, and article re-written. Paul-L 11:55, 22 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Sieffre o Drefynwy[golygu cod]

Diolch am y cywiriad. Deb 18:24, 29 Awst 2006 (UTC)[ateb]

I vaguely remember having a problem something like that when I first started editing on the English wikipedia (which is a few years ago now), but I don't really remember what I had to do to put it right. Let's hope it stays working for you. Deb 18:49, 29 Awst 2006 (UTC)[ateb]

Rhyngwici/Interwiki[golygu cod]

Hi Fôn, when you create new pages, can you add interwiki links to them. Just go to the equivalent page in a larger Wikipedia, usually en:, and just copy the interwiki links to the page here on cy:, and add an interwiki back to the page you copied them from. Paul-L 17:29, 2 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Dda weld dy erthyglau yn ymddangos mor aml! Fe fyddai dolenni i'r ieithoedd eraill yn ddefnyddiol i'r sawl sy' darllen. Weithiau tydi'r teitl cyfatebol ddim yn amlwg, ac mae'r wicis eraill yn lefydd da i ganfod mwy o wybodaeth. Pan dwi'n teimlo'n ddiog, dwi'n ychwanegu dim ond un neu ddau o'r dolenni - fel arfer mae un o'r bots yn ychwanegu'r lleill yn y pen draw. Hwyl, a nadolig llawen --Llygad Ebrill 16:59, 21 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Deddfau Mudiant Newton[golygu cod]

Diolch am gwella iaith a sillafu yn yr erthygl. SouthernWelshman 18:01, 6 Medi 2006 (UTC).[ateb]

Diolch[golygu cod]

Diolch am dy waith yn golygu'r Gymraeg ar rai o'r erthyglau ar Wicipedia. Mae'n braf iawn gweld nifer y golygwyr yn cynyddu gan fod y gwaith golygu'n ddi-ddiwedd! Lloffiwr 19:30, 17 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Wedi ymateb ar fy nhudalen sgwrs. Lloffiwr 11:34, 1 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth[golygu cod]

Diolch am y neges. It's easy to find out a user's contributions; you just go to their user page and click on Cyfraniadau'r defnyddiwr. The trouble is, a lot of this bloke's contributions look okay to me - but I freely admit I could be missing things. For that reason, I wouldn't want to block him, at least not without a warning or two. Deb 22:01, 20 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

OK, I've blocked 218.186.8.13 for a fortnight. But he seems to be a sporadic user, so he may not even notice. If you see him again, let me know! Deb 16:28, 27 Hydref 2006 (UTC)[ateb]

Categori:Mynyddoedd Cymru[golygu cod]

OK, wedi dileu. Deb 18:34, 8 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Help with Translation[golygu cod]

Hi Fôn, can you help to translate this for me:
Here's another nice mess you've gotten me into!
It was Oliver Hardy's catchphase in the Laurel and Hardy films.
Be aware that the 3rd word is mess, not fine as many people believe.
Diolch yn Fawr, Paul-L 14:18, 23 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Hi Paul, diolch am y neges. That's another nice mess you've gotten me into stumped me for a while. As usual it's a case of trying to convey both sense and feeling; always a problem with idiomatic expressions in any language. How about, "Dyna stomp bach arall ti 'di gadael fi y'no fo!"? (More formally ".. rwyt ti wedi fy ngadael i ynddo fo", but that wouldn't be used ar lafar). Depends on the tafodiaith as well. As a "Gog" I'm wary o attempting Southern dialect so I won't! Hope that helps. If I can think of something else I'll get back to you. Hwyl, Fôn. Anatiomaros 19:07, 23 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]
I'll use Dyna stomp bach arall ti 'di gadael fi y'no fo!, although though the first word is Here's, so I'll just change it to Dyma. Diolch, Paul-L 22:16, 25 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Groeg hynafol[golygu cod]

Byddwn yn falch o gael eich barn ar y cynnig i newid teitl yr erthygl ar Roeg hynafol. Lloffiwr 19:15, 25 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

I've blocked him. We can't afford to let vandals off lightly unless they have some potential for becoming useful contributors. This one's obviously doing the rounds of all the wikipedias (probably already been blocked from the English one). Deb 17:16, 29 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Llygaid[golygu cod]

Pa liw yw dy lygaid? Mh96 09:55, 30 Tachwedd 2006 (UTC)[ateb]

Your help on the Llaswyr article is most appreciated. It certainly made the article both longer, and more grammatic, but I'd still like to work on it. So can you keep an eye out for any future mistakes? Thanks, Alexanderr 16:45, 6 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Ail-gyfeirio[golygu cod]

Hi, I just thought I'd mention that re-direct pages don't work if you write AIL-GYFEIRIO. You have to write REDIRECT or AIL-CYFEIRIO. It's something that needs to be fixed by an administrator. Hwyl. Tigershrike 13:45, 14 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]


Diolch[golygu cod]

Diolch yn fawr, llawer help ydych chi. :) Amlder20 23:35, 14 Rhagfyr 2006 (UTC) Nadolig Llawen, Blwyddin newydd dda a Lwcus da yn 2007! (I'm always nice to those who help) Amlder20 13:27, 15 Rhagfyr 2006 (UTC)[ateb]

Taliesin[golygu cod]

Dwi wedi dileu Taliesin (Y Bardd). —Adam (sgwrscyfraniadau) 14:40, 7 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Fandaliaeth[golygu cod]

Oh, dear! It's happened before, of course. That's why I always ban vandals on wicipedia for a good long time, eg. a year, because we just can't cope with it. The trouble is that we haven't got enough admins, simply because we haven't got that many users. I reiterate my offer to make anyone an admin as long as they can get someone else to nominate them. (I don't think I should nominate people myself - a bit too incestuous.) If you don't want greatness thrust upon you, then I think the only alternative is to go over to the English wikipedia and leave messages for me and User:Arwel Parry in the hope that we might be logged on and can come over and assist. I'm not sure if there's anyone else who's an admin on both the English and Welsh sites. Deb 17:53, 24 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Well, there really isn't very much for admins to do here, other than look out for vandalism, delete articles and ban people. So it would be very rarely that you would need to exercise your powers. Think about it, anyhow! Deb 19:00, 24 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Gweinyddwr[golygu cod]

Hwyl. I've done the deed now, with support from Marnanel. If you have any trouble exercising your new "powers", let me know. Deb 11:41, 27 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Llongyfarchiadau ar gael eich dyrchafu'n weinyddwr. Lloffiwr 17:23, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Diolch[golygu cod]

am gywiro fy Nghymraeg! Yn anffodus dydy hi ddim mor dda, felly wna i gamgymeriadau weithiau. Edricson 13:13, 30 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Blociwch defnyddiwr[golygu cod]

I forgot to mention that this utility doesn't work as it should. The Welsh settings are wrongly set up - you have to select "arall" and then type in the time limit in English, eg. "1 year" or whatever. Otherwise nothing happens. I'm not technically competent to put it right. Deb 22:37, 2 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Cysawd yr Haul[golygu cod]

Diolch. Dw'i wedi newid y categoriau i gyd i Gysawd yr Haul. Mae gen i erthyglau ar gyfer bob lloeren Sadwrn, Wranws a Neifion (ac eithrio y rhai newydd sbon) a byddaf yn eu rhoi ar Wici nes ymlaen. Sanddef 18:11, 3 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Diolch[golygu cod]

Diolch am y gwybodaeth ynglyn a delweddau Sanddef 02:13, 5 Chwefror 2007 (UTC)Sanddef[ateb]

Blocio[golygu cod]

How did it feel? Deb 18:51, 5 Chwefror 2007 (UTC) ...or a very short Corsican corporal! Deb 19:06, 5 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Mallwyd image[golygu cod]

I see you've copied my Mallwyd waterfalls photo for use on Welsh Wicipedia. I've added a statement to this releasing copyright to the same level as the original on En-Wiki.Tivedshambo 07:32, 15 Chwefror 2007 (UTC)[ateb]

Thomas Richards[golygu cod]

Dwi wedi ysgrifennu erthygl weddol hirfaith ar Thomas Richards (yr hanesydd) ond mae Thomas Richards wedi ei gynnwys eisioes felly rwyf wedi rhoi fy Thomas Richards i dan Thomas Richards Hanesydd am y tro.

A fydde ti'n medri rhoi trefn ar hyn? Creu tudalen ddewis i Thomas Richards a labelu fy erthygl i yn iawn?

Diolch

Diolch am yr hysbysrwydd

Afon Cefni[golygu cod]

Sorry to speak in English on a Welsh Wikipedia. You seem to have contributed to the Afon Cefni page here. I have made an article about it on the English language Wikipedia and I was wondering if you could add a little to it as I do not live in Anglesey and got most of the information on it from a map. You possibly know a lot more about it than me so could you help? Thanks! Cls14 08:36 14/03/2007

I'd be happy to help but there's no article about the river on the English wikipedia. Am I missing something? Anatiomaros 14:49, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Found it: en:Afon Cefni Paul-L 15:34, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]
Thanks Paul, I didn't think of looking up the Welsh name! Anatiomaros 15:36, 14 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Arwel Parry[golygu cod]

Diolch. Rwyf wedi mynd i'r Aifft. Arwel's had similar problems on his English user page in the past. Deb 14:22, 20 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Diolch am y croeso, ond pwy/beth yw Bo? 8->

(Dwy'n gobeithio fod hyn yn gywir - dwy ddim yn siwr sut i esbonio i neges ar yn nhudalen sgwrs.)

-- 09:19, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mae'n wir mai 'Bó' yw'r cymeriad yn y Tsieineg, ond enw ysgrifenedig yw, heb gynaniad. -- 15:26, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

A, dwi'n gweld rwan. Dwi'n gwybod ei fod yn cael ei ddefnyddio gyda chymeriadau eraill fel 'bó'ài' (brawdgarwch) ond roedd fy ngeiriadur yn rhoi'r ynganiad 'Bó' ar gyfer y cymeriad ei hun. Dwi'n deall rhywfaint o Siapaneg ond dim llawer iawn o Tsieinëeg, felly maddeuwch fy anwybodaeth! Anatiomaros 15:42, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mo broblem. 博愛 (= ハクアイ) yn y Siapaneg. Wyt ti'n adnabod y gair 博士 (= ハクシ neu はかせ) = 'athro'? -- 16:26, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Mae 博士 (ハクシ / はかせ) yn air newydd imi. Kyóshi neu, yn amlach, sensei yw'r geiriau dwi'n nabod (mae'r kanji'n wahanol i hakase hefyd). Rhaid imi chwilio o i fyny pan gaf amser (ac mae chwilio gair mewn geiriaduron kanji yn gymhleth weithiau!). Does dim furigana gennyf ar y cyfrifiadur felly dwi'n gorfod defnyddio ffurfiau romaji (llythrennau gorllewinol), yn anffodus. Anatiomaros 16:37, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Ah! 'Athro' fel 'Yr Athro Rhywun' ('Doctor Somebody', 'だれか博士') - rhywun â Ph.D. -- 17:24, 28 Mawrth 2007 (UTC)[ateb]

Theocrataeth[golygu cod]

Hmm, cwestiwn anodd i'w ateb. Yn bersonol byddai'n dweud taw ffurf o lywodraeth (ynghŷd ag ideolegau ffwndamentalaidd ar sail crefydd) yw theocrataeth yn hytrach nag ideoleg wleidyddol. Mwy fel "anarchy" nag "anarchism" (gyda llaw, dwi 'di creu tudalen ar anarchiaeth (-ism), ond sut byddwn yn gwahaniaethu ag "anarchy"? Mae'r geiriaduron i gyd yn rhoi'r un air am y ddau). Gobeithio mae hyn yn helpu. —Adam (sgwrscyfraniadau) 22:45, 2 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Diolch am "anllywodraeth". Wrth chwilio'r we nes i ddarganfod "aflywodraeth" hefyd. Siwr o fod bydd hi'n orau i ddefnyddio "anarchiaeth" i ddisgrifio'r ideoleg ac hefyd y math o lywodraeth sy'n dilyn yr ideoleg, ac "anllywodraeth" i ddisgrifio anarchy yn ystyr anhrefn mewn cymdeithas. Dwi 'di ymateb i'ch sylwad ar Sgwrs:Ynysoedd Solomon ac wedi symud y dudalen. Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 20:08, 4 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

谢谢[golygu cod]

Thank you! Nice to meet you!--Apengu 10:48, 5 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Diolch[golygu cod]

Diolch yn fawr iawn. Deb 21:23, 17 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Benthyg geiriau i'r Gymraeg[golygu cod]

Diolch i chi am gymeni ac ehangu ar yr erthygl ar Fenthyg geiriau i'r Gymraeg. Lloffiwr 12:54, 28 Ebrill 2007 (UTC)[ateb]

Noswaith dda. Mae'n ddrwg gen i, Dw I ddim yn siarad Cymraeg.

On the English Wikipedia, someone has uploaded a copy of Delwedd:Saunders Lewis 1936.JPG as en:Image:Saunders Lewis 1936.jpg. I notice you uploaded to cy: first and would like to keep the image, but there is a problem with the copyright status. Do you know what the copyright status is? If you can help, you can contact me at the English wikipedia or by email to sam.blacketer@gmail.com. Sam Blacketer 18:13, 5 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr.
I have put the image as a 'publicity photo' which makes it acceptable. I agree that it would be a pity to lose it, not just because of Saunders Lewis' impact on politics but on his literary work. Sam Blacketer 16:44, 6 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Hwyl. Sorry, I can't work out what to do, so I've done what I normally do in these cases and referred the question to Arwel. Hopefully he may have some idea! Deb 15:59, 7 Mai 2007 (UTC)[ateb]

Penmon[golygu cod]

Mae'n ddrwg calon gen i - dysgwr Cymraeg ydw i, a dw i ddim yn siarad yn dda iawn! Mae popl yn gweithio ar Penmon, Anglesey ac dan ni'n ceisio i ennill "Good article status". Welais i bod chi wedi ysgrifennu Penmon yma, a bod chi wedi ffotograffio Penmon (Delwedd:Aberlleiniog Penmon.JPG). Os mae gynnoch chi amser, edrychwch ar y tudalen yn Saesneg, os gwelwch yn dda, a helpiwch os dych chi'n gallu. Fasai fo syniad da i cynnwys eich ffotograff chi? Beth dych chi'n meddwl? Diolch yn fawr, a gobeithio bod chi'n deall fy neges! Bencherlite 13:53, 31 Mai 2007 (UTC) Fy Sgwrs Defnyddiwr yn Saesneg[ateb]

Fy Nghyfraniadau[golygu cod]

Dwi'n sylweddoli fy mod yn cychwyn dwad yn weithredol iawn yn hwyr iawn hefyd!

Bosib bod rhai ohonach yn blino ar dacluso fy nghyfraniadau. Mi wnewch chi sylweddoli bod pob tudalen yr ydwyf wedi ei greu o dan fy rhestr gwylio. Be dwi'n ei wneud yw nodi'r prif ffeithiau, a mi wnai fynd yn ôl atynt i'w gosod mewn trefn gyda atalnodi llawn.


Sut mae creu ffeiliau lluniau ar gyfer hafaliadau mathemategol a gwyddonol? Os pecyn meddalwedd arbennig ar gael fel bod pob llun yn dilyn yr un ffont a maint? Diolch.


Hwyl

Huw

Richard FitzGilbert de Clare[golygu cod]

Fyddai wahaniaeth gen ti petawn i'n symud yr erthygl yma i "Richard FitzGilbert de Clare, Iarll 1af Hertford" a chreu tudalen wahaniaethu ar gyfer "Richard FitzGilbert de Clare"? Y broblem yw bod Richard FitzGilbert de Clare, 2il Iarll Penfro lawn mor adnabyddus, ac rwy'n bwriadu creu erthygl arno yng nghyswllt Hanes Iwerddon. Rhion 17:40, 11 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Diolch (eto)[golygu cod]

Hi there Anatiomaros, Thanks for cleaning up the mess I left on the Melbourne article - I know you've also had to do similar work on other articles I've created and added to in the past. I didn't expect to be so far off the mark this time, but I suppose it's good to know what I need to work on.

I'm wanting to save work for other users, and not create more work to do - but anyway, there's plenty of work that can be done around here without a perfect knowledge of Welsh! Anyway, thanks again.

Cofion, Rob Lindsey 22:05, 12 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Ta for the encouragement Fôn. :) Yes, there are definitely some articles I can create with a Welsh-Australian connection. Mainly public and/or historical figures, but I’m sure there are significant locations/places I’m not yet aware of. I’m hoping to write a PhD on the Welsh community in Australia in a couple of years, so it’s in my own interest to be aware of as many of these connections as humanly possible! Hwyl, Rob Lindsey 01:18, 13 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Damia! :D I always just assumed there were no mutations when 'a' means 'and' - but nope, aspirate mutation it is. And I'd been so careful with all the other mutations yesterday! Diolch, definitely won't forget that one.Rob Lindsey 05:18, 15 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Cenedligrwydd[golygu cod]

Y rheswm ro'n i'n ei wneud e oedd i beidio â dyblu'r categoreiddio (os yw "Dyneiddwyr yn ôl cenedligrwydd" > "Dyneiddwyr Prydeinig" > "Dyneiddwyr Cymreig", does dim angen "Dyneiddwyr yn ôl cenedligrwydd" > "Dyneiddwyr Cymreig"). Ond 'dach chi'n iawn: mae Cymry yn genedligrwydd, felly byddai'n rhoi categorïau "_ Cymreig" yn y ddau gategori o hyn ymlaen. Hwyl, —Adam (sgwrscyfraniadau) 21:34, 17 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Borth beach photo[golygu cod]

Hi - sorry this is in English! I see you've copied one of my photographs for use in Welsh Wicipedia. This is fine, but as the image is on Wikipedia:Wikimedia Commons, there is no need to do this. Simply link to the photo in the usual way, and the photo will load automatically.

Secondly, if you do copy photos from other Wikis, could you please ensure you reproduce the copyright information. This is a condition of the GFDL licence. I've added this to the Borth photo, and tagged this (and the Mallwyd photo you copied earlier) for deletion. This won't affect the articles, as the page will simply load the Commons images instead.

Many thanks. – Tivedshambo (talk) 06:52, 27 Mehefin 2007 (UTC)[ateb]

Can you help me?[golygu cod]

Hello! I'm sorry to write in english, but I need a translation of this anthem to welsh. Can you make it to me, when you get free time, please? Thank you very much! --vonusovef (wha?) 19:17, 4 Gorffennaf 2007 (UTC)[ateb]

llythyren fawr yn Brenin[golygu cod]

Newydd weld eich bod wedi symud macbeth Brenin yr Alban i macbeth, brenin yr Alban. Yn anffodus, llythyren fawr sydd yn cael ei argymell ar gyfer 'Brenin' yn y canllaw ar Wicipedia:Arddull. Mae'r drafodaeth ar Wicipedia:Cymorth iaith. Roeddwn wedi dechrau newid y teitlau cyn bod y canllaw yn cael ei sefydlu - dyna sut mae rhai o'r teitlau yn rhoi llythyren fach. Ymddiheuriaf am fod cyhyd yn safoni'r cwbl - gormod o bethau ar y gweill a dweud y gwir. Cofion, Lloffiwr 21:40, 22 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Trefnant (in English Wikipedia)[golygu cod]

The article on Trefnant in the English wikipedia needs expanding. Perhaps you could add to it? Thanks! -- Bookgrrl (English Wikipedia)

Images on Commons[golygu cod]

Sorry for not replying to your message earlier - to be honest I missed seeing it until today, probably as another user left a message shortly afterwards and I didn't realise there were two!

I've only recently started moving images from en-wiki to Commons, so the images you copied wouldn't have been on Commons at the time. I've now moved all the Welsh photos, and I've created a gallery for them in my user page. Feel free to use these as you see fit! – Tivedshambo (talk) 18:43, 29 Awst 2007 (UTC)[ateb]

Laissez-faire[golygu cod]

Wyddost ti bod erthygl am Laissez-faire yn bodoli'n barod?--Ben Bore 15:23, 3 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Admin request[golygu cod]

Hi - could you copy the text from here to replace the text in MediaWici:Sharedupload/en please? This will allow users like myself who use the English interface to have a direct link to images in Commons. Diolch/Thanks. – Tivedshambo (talk) 18:48, 3 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Babel / Hafan[golygu cod]

Noswaith dda Anatiomaros! Sut dach chi? Mae´r eich newyd Babel box yn prydferth? :) --Ice201 19:06, 7 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Excuse me for writing in english, but my welsh isnt as complex yet and I want you to understand what I write. :) (only on day 6 of cymraeg). So, I noticed on Hafan, the links arent in categorïau. In most developed wiki´s, the front pages are composed of categories rather than direct links to the articles it so represents. I dont have sysop, maybe if I can get temp sysop status to change it to show you what I mean? Or maybe you can easily adjust the main page to make categories? :) Just looks then more like an encyclopedia. --Ice201 04:07, 11 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Sveitarfélagið Hornafjörður‎[golygu cod]

Prynhawn da Anatiomaros. Sut mae? Check Sveitarfélagið Hornafjörður‎. Can you go over my grammar please? I know, it must be horrible, and I am sorri if it insults you, I am only still beginner but I want to use this basis as a template before I start making more articles. Diolch yn fawr! --Girdi 16:24, 15 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Cymraeg[golygu cod]

Mae Llygad Ebrill ar dudalen sgwrs y Gymraeg yn codi pwnc y defnydd o'r termau Celteg/Celtaidd a Indo-Ewropeg/Indo-Ewropeaidd yn yr erthygl. Pan fydd amser gennych a allech chi roi sylwadau ar y pwnc yma? Dwi ddim yn siwr o gwbl beth sydd orau wneud yn yr erthygl ar y Gymraeg nac mewn erthyglau eraill o ran hynny. Lloffiwr 19:42, 17 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Diolch am tacluso fy erthygl Llanrhymni mor gyflym. Dydy fy Nghymraeg ysgrifenedig fi ddim mor dda ag y hoffwn e fod. :)

Un cwestiwn sydd gyda fi - rydych chi wedi newydd "Sir [x] hanesyddol" i "yr hen Sir [x]". Mae hwn wir yn teimlo'n cywirach a chlirach, ond fe ddeallais i (yn ôl Sir Fynwy) mai term technegol oedd sir hanesyddol, am yr hen sir oedd cyn 1974. Â fydd hi'n bosib i chi egluro hwn i mi? Vashti 19:27, 18 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Eginyn Cymru‎/Cymry[golygu cod]

From looking at it, it seems to be the asterix that was there [[Categori:Egin Cymru|*]], which was not making the articles be categorising alphabetically; I'll to fix that tomorrow. As for your previous message, I managed to translate what you wrote on Y Caffi a few weeks ago, but I've been very busy since, so haven't been able to reply to it yet, which I'll also try to do soon. Paul-L 23:35, 18 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Nodyn:Eginyn Cymru now works; so does Nodyn:Eginyn Cymry, but I think it wait for the database to update before it will automatically recategorise the 4 still under the asterix. Paul-L 14:56, 19 Medi 2007 (UTC)[ateb]
Hello again. I haven't been able to get onto cy: for the past week due to a family emergency, but I can respond now. To fix Nodyn:Eginyn Cymru I compared it the version on en: and realised [[Categori:Egin Cymru]] (or whatever the catergori will be) should be the last thing on the page, after </div> (excluding the <noincludes>).
I agree with many more stub categories, which should be easy to adapt from Nodyn:Eginyn Cymru and Nodyn:Eginyn Cymry, just changing a few words. You should be aware not to put a "|" or "*" in the categori (e.g. [[Categori:Egin Gwlad Belg|*]]), as that's what caused the original categorisation problems. Also only use one category - you had [[Categori:Cymru]] in Nodyn:Eginyn Cymru, which would have unnecassarily clogged up the Cymru categori. Paul-L 16:36, 27 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Puw pwy?[golygu cod]

Thanks, I just deleted the article, and will look at that user on en. Deb 20:56, 19 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Gwrach[golygu cod]

The Swedish term is sv:Häxa. That's the list in the German Wikipedia de:Hexe,you may consider using it for the Welsh article. af:Heks bn:ডাইনীবিদ্যা ca:Bruixeria cs:Čarodějnice da:Heks en:Witchcraft es:Bruja et:Nõid eu:Sorgin fr:Sorcière gd:Buidseachd he:מכשפה hi:चुड़ैल is:Norn it:Stregoneria ja:魔女 la:malefica lt:Ragana lv:Ragana nl:Heks (persoon) nn:Heks pl:Czarownica pt:Bruxaria ru:Ведьма fi:Noituus sr:Вештица sv:Häxa tr:Cadı uk:Відьма

en:User:Kgfleischmann

Kenji Nagai[golygu cod]

Dydy "ieithoedd eraill" yr erthygl ar Kenji Nagai ddim yn ymddangos, er bod rhestr wedi cael ei gynnwys yn y sgript. Pam? Sanddef

Roedd 'na gamgymeriad mewn un o'r cyfeiriadau:
<ref> = agor cyfeiriad
</ref> = cae cyfeiriad
<ref/> = agor a chae cyfeiriad ar yr un pryd (hynny yw, cyfeiriad gwag)
Roedd un o'r cyfeiriadau'n gorffen gyda <ref/> yn lle </ref> ac mae hyn yn peri i'r cyfrifiadur feddwl bod 'na gyfeiriad o fewn cyfeiriad arall a bod y cyfeiriad cyntaf ddim wedi gorffen eto. Felly... roedd y cyfrifiadur yn meddwl bod y rhestr o'r "ieithoedd eraill" (ynghyd â llawer o'r testun ei hun) yn rhan o'r cyfeiriad a agorwyd ond na chaewyd. Dwi wedi trwsio fe nawr. Daffy 13:42, 30 Medi 2007 (UTC)[ateb]

Jendouba[golygu cod]

Hello, I want to ask you a question of the lisensing's information of this image. If you are aggry to giving it into the public domain, it's will be perfect ! Also, if you can do it, give me a translation of this image and the place where do you taken this image. If you want, I upload this in Wikimedia Commons. If you can, answer me in my user page in French or if you prefer in my user page in Welsh. I'm sorry if I can't speak English very well, and now I translate my message in French :

  • Bonjour, je désire avoir plus d'informations sur la licence de cette image. Si vous êtes d'accord de la "donner" au domaine public, ce serait parfait ! Aussi, si vous le pouvez, merci de me donner une traduction de la description de cette image et la place d'où vous l'avez prise. Ainsi, si vous le voulez, je pourrais l'importer sur Wikimedia Commons. Désolé si mon anglais plus haut n'a pas été assez bon pour que vous me compreniez, mais en tout cas, je serait enchanté que vous me répondiez sur ma page utilisateur en français, ou si vous préférez sur ma page de discussion en gallois. Au revoir et bonne continuation. Cimoi 20:06, 12 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Thank you very much et merci beaucoup. Good luck ! Cimoi 22:49, 12 Hydref 2007 (UTC).[ateb]

Bys malet[golygu cod]

Dwi wedi anafu un o fysoedd fy llaw chwith ("anaf bys malet"). Mae mewn sblint ac yn debyg o aros felly am 6-8 wythnos ac dwi'n fod i'w gadw mor llonydd â phosibl. Mewn canlyniad dwi'n mynd i gyfyngu fy nghyfraniadau, dros dro, i bethau sydd ddim yn golygu gormod o deipio; eginau, categoreiddio etc. Gwasanaeth arferol cyn y Dolig, gobeithio! Anatiomaros 16:38, 15 Hydref 2007 (UTC)[ateb]


Arian Breiniol[golygu cod]

Dwi erioed wedi clywed am y term Arian 'Breiniol' o'r blaen. Roeddwn i'n meddwl mai Arian Cyfred oedd currency, ac o wneud ymchwiliad Google, mai'n ymddanhgos mai Arian Cyfred mae sawl adran o'r llywodraeth yn ddefnyddio, gan gynnwys Banc Lloegr! --Ben Bore 15:47, 24 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud (ac wedi newid gwybdolen gwledydd). Hynod o ddi-drafferth!--Ben Bore 13:19, 25 Hydref 2007 (UTC)[ateb]
Doh!, wedi siarad rhy fuan, newidiais i'r Nodyn:Gwybodlen Gwlad a meddwl byddai hynny ddigon, yn amlwg ddim. Mi wnai holi Paul-L.--Ben Bore 13:22, 25 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Nodyn (Saesneg)[golygu cod]

Helo Anatiomaros, diolch am ddad-wneud fy mlerwch yn rhoi eiconau (Saesneg) wrth enwau llyfrau! Jac y jwc 16:21, 28 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Diolch[golygu cod]

Diolch yn fawr am ehangu yr erthygl ar fy nhef (ac trefi eraill yng Ngogledd-ddwyrain Cymru) a few days ago. Good work! Paul-L 14:55, 30 Hydref 2007 (UTC)[ateb]

Y fandaliaeth ddiweddaraf[golygu cod]

Wnaeth Rhion gadael neges am hyn yn Y Caffi bore 'ma. Dwi 'di postio ymateb yn cynnig sut i ddileu'r tudalennau heb eu hagor. —Adam (sgwrscyfraniadau) 15:45, 1 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Elerydd[golygu cod]

Nawr wyt ti'n holi! Rwyn credu bod Elerydd yn cyrraedd hyd at gyffiniau Llyn Brianne, gogledd Sir Gâr fel y sonioch. Rwyn credu mai afon Dyfi yw ei therfyn yn y Gogledd, ac yn sicr mae Pumlumon yn Elerydd. Rwyf finnau hefyd wedi bod yn chwilio am ddiffiniad o'r ardal, ond heb gael hyd i un. Enw barddol WJ Gruffydd oedd Elerydd - fe'i aned yn Ffair-rhos. Gadwn i eraill ein cywiro os ydyn wedi mynd ar gyfeiliorn? Lloffiwr 23:19, 2 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Lewis Valentine[golygu cod]

Hi. I was wondering if you could mosey on over to the English wikipedia to help out Defnyddiwr:Drachenfyre (or you can probably make contact on this site). Drachenfyre has asked me a question on image copyright in this article and I have no idea of the answer. Deb 12:55, 3 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Penmaenmawr[golygu cod]

Rwyf wedi cymeni ychydig ar y gramadeg ac idiom yr erthygl. Os ydw i wedi 'cywiro' rhywbeth sydd yn idiom y gogledd ac yn anghyfarwydd i un o Geredigion yna maddau i mi am fentro gormod! Lloffiwr 19:49, 5 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Dwi yn yr un man â thi ynglŷn â gwybodaeth am Elerydd. Wedi ychwanegu ychydig bach am y Rhufeiniaid. Roeddwn wedi darllen yn rhywle mai'r mwynfeydd aur, plwm ac arian oedd y rheswm eu bod wedi trafferthu sefydlu caerau yn y gorllewin o gwbl ond dwi ddim yn ddigon o awdurdod ar y pwnc i fentro ysgrifennu hyn mewn erthygl. Lloffiwr 20:04, 6 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

DU/DG[golygu cod]

O'r gorau, allai newid unrhyw gyfeiriaudau o fewn yr erthygl ond dwi ddim yn meddwl y gallai newid enw categori heb fod yn weinyddwr (ydw i'n gywir?)--Ben Bore 16:43, 14 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Hi Anatiomaros[golygu cod]

Dear Anatiomaros,

Hi! I write to ask you whether you could help me create a Welsh (.cy) stub-article of

This Is the Article I would really Love for you to help me create a short stub version

Merry Christmas :) All my best,

Reytah (Feminine Passion4 History) 22:59, 25 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Benazir[golygu cod]

And there was me in the middle of trying to create a pathetic little stub... Deb 14:57, 27 Rhagfyr 2007 (UTC) She was at Oxford at the same time as me - but I only recall speaking to her once. Can't claim I knew her or anything like that. Deb 15:20, 27 Rhagfyr 2007 (UTC)[ateb]

Blychau Eginyn[golygu cod]

Diolch yn fawr Anatiomaros, am egluro'r drefn ac am wneud y gwaith drosta i yn yr erthygl! Blwyddyn Newydd Dda i ti hefyd Jac y jwc 15:19, 1 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Hi - in the Bow Street article, if I've translated it correctly, it says that the road half a mile north of the village at Rhyd-y-pennau is the road to Clarach, on the road to Borth. I think you are getting muddled between Clarach and Llandre - the Clarach road leads from the centre of the village (see map). Also, is it worth adding a section about the 2006 tornado? I've put this on the English translation. – Tivedshambo (talk) 22:28, 7 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Just checked the map and you're right! Thanks for pointing it out. I'll amend the article - I've got my OS map out to check as well and it seems I must have been daydreaming when I wrote that. Diolch! Anatiomaros 22:38, 7 Ionawr 2008 (UTC)[ateb]

Categorïau egin[golygu cod]

I think it would be a good idea. We already have Categori:Egin ysgol Gymreig which I've put into Categori:Egin Cymru and which could go into "Categori:Egin ysgol" when it's created. Tigershrike 20:39, 6 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Iaith Gwael[golygu cod]

Sori fod fy'n iaith ddim o safon uchel, heb 'sgwennu fel hyn yn Gymraeg ers oes!!

yn ychwanegol....[golygu cod]

A dwi'n reit newydd i Wikipedia, so os mae yna unrhyw camgymeriad neu blerwch, teimla'n rydd i'w gywiro, os wyt ti isho llu' de!

Diolch[golygu cod]

O gret, Diolch! :)

Gwybodlen Golffiwr[golygu cod]

Hi Fôn, I created Nodyn:Gwybodlen Golffiwr, by translating fr:Modèle:Infobox Golfeur. Can you check Gwybodlen Golffiwr to correct any mistakes in my translations before I apply it en-masse to the Golfers here? Paul-L 16:35, 23 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr iawn. Paul-L 14:21, 25 Chwefror 2008 (UTC)[ateb]

Athenry[golygu cod]

I used "trawsgludiad" to mean (criminal) transportation i.e. to the 'colonies' and not emigration. Is this the correct word? Please keep checking!!! -- Maelor  14:44, 2 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Elane Paige[golygu cod]

Could you check the grammar on the Elaine Paige article for 84.69.192.91? I got this request to do so. Diolch on fawr, Paul-L 15:47, 7 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Cei dileu "Rhestr Cymry gyda gwallt melyn" os tishe

hwyl Mh96 17:26, 11 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

"banana" yw fy nghyfrinair. Rhaid blocio cyfrif hyn rwan achos bod pawb yn gwybod ei gyfrinair.

Hmm. Is it in character or could it be a case of someone else using his ID? I'd go for a limited period block and see if he comes back. Deb 22:07, 13 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Hi. I had to block him because of other things which you probably know about. I'm intrigued by all these mystery academics lurking around the place, including yourself... Deb 18:36, 14 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Mystery academics probably lurk the pages of wikipedia more than is realised, poor souls. The only answer to this disturbing trend is to make them all Heads of Department, then they won't have time for anything else. This particular one's in semi-retirement at the moment... Anatiomaros 19:09, 14 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]
Believe me, my main motivation is envy (or do I mean admiration?), because I was never good enough to be one myself! Deb 19:12, 14 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Drwg geni.Bianchi-Bihan 07:45, 30 Mawrth 2008 (UTC)[ateb]

Newid enw cyfrif[golygu cod]

Dwi newydd sylwi i mi wneud camsillafiad tra'n cofrestru cyfrif ar y wicipedia cymraeg. Roedd i fod yr un un a'r wicipedia Saesneg:

Cefais gipolwg am arweiniad ar sur i wneud hyn, ond mae'r tudalennau cymorth Gymraeg yn bychan eu nifer hyd yn hyn. Toeddwn i'n methu dod o hyd i dudalen gyfystur i http://en.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Changing_username, a felly'n gofyn i chi am gymorth/arweiniad.

Rhag fod amheuaeth, Ansbaradigeidfran yw'r sillafiad cywir. Diolch. Ansbaradigedfran 21:39, 8 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]


Diolch am yr ymateb, fe ofynnaf i Deb. Ansbaradigedfran 22:09, 8 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Just a question[golygu cod]

I'm sorry I don't speak Welsh but I'm Argentinian and the truth is that I don't even speak English very well. We're having a problem at Spanish Wikipedia with the etymology of the word "Dorset". The article says that it comes from two Welsh words: Dwrn, which means "fist", and gwarae, that means "play". We have no references for that information and naturally there're no many Welsh speakers at Spanish Wikipedia, that's why I ask you if "fist" and "play" are actually the real meanings of the words Dwrn and gwarae. As I don't have an account in Welsh Wikipedia, I'd be really pleased if you answered my question here below. Thank you very much :) --201.252.199.248 01:37, 12 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]

Please, write in English :) --201.252.199.248 01:38, 12 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]
That's an interesting query. I don't know of any Welsh name for Dorset (you can see we have Dorset here, not a Welsh form of the name). Dwrn does indeed mean "fist" and gwarae is a medieval Welsh form of chwarae "play", but dwrn+gwarae would give Dwrnwarae or something similar ("Fist-play") and I can not see how this could be the origin of the word 'Dorset' (-set is English anyway, cf. Somerset). It seems that someone has found that somewhere on the internet perhaps - there are many unreliable websites on Celtic subjects. To make sure, I have checked the University of Wales Dictionary under dwrn and there is no suggestion of an etymological link to the name 'Dorset' - if it existed I am sure it would be mentioned there. So, in my opinion, the etymology is false. Hope that helps you. Anatiomaros 21:54, 12 Ebrill 2008 (UTC)[ateb]


Enwau Cymraeg di-angen i bethau[golygu cod]

Sylwais ar dy sylw ar dudalen sgwrs "holion naw modfedd"(!). Ie, dylwn wedi nodi bod enw Cymraeg yn ddi-angen beth bynnag fyddai'r cyfieithiad cywir. Cefais ychydig o ddadl gyda Paul-L ynglyn â'r rhesymeg tros roi teitl Cymraeg i'r rhaglen deledu Match of the Day. Ei ddadl ef oedd na ddylid cymeryd yn ganiataol bod pawb sy'n darllen y Wicipedia yn deall Saesneg hefyd (gan ddefnyddio pobl o'r Wladfa fel engrhaifft). Gan ei fod yn weinyddwr defnyddiol/gweithgar--Ben Bore 09:27, 17 Ebrill 2008 (UTC) ac yn cyfrannu cymaint i'r Wicipedia, wnes i ddim ei wthio ar y peth, ond dwi ddim yn siwr o'r cansail mae'n osod, yn enwedig pan mae pobl wedyn yn ceisio cyfieithu pethau fel Nine Inch Nails heb wybod beth yw'r ysytyr Saesneg yn y lle cyntaf.[ateb]

Electoral Constituencies[golygu cod]

Please note my comments on Sgwrs Defnyddiwr:Paul-L -- Maelor  18:36, 5 Mai 2008 (UTC)[ateb]

Nodiadau llywio[golygu cod]

Dim problem. Nodyn:Blwch llywio generig sy'n cyfateb i en:Template:Navbox. —Adam (sgwrscyfraniadau) 19:46, 18 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Annette Strauch[golygu cod]

Dw i'n siwr mai Annette ei hun sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yma. Mae hi wedi cyflawni llawer mwy na fi yn ei bywyd, ond dwi ddim yn siwr os yw bod ag MA yn ddigon i fod ag erthygl amdani ar Wicipedia. Mae hi'n amlwg yn frwd iawn dros Gymru a'r Gymraeg a hoffwn i ddim ei phechu - dyna pam dwi'n pass the buck ac yn codi'r peth fan hyn! Yn amlwg does dim rhaid i ni gadw atyr un canllawiau notability â'r wici Saesneg, ond ble mae bennu llinell?--Ben Bore 10:12, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Ia, roeddwn i'n amau fod rhywbeth reit od am yr erthygl - llawer gormod o fanylion "personol" ac ati. Dwi'n cyfadde hefyd yr oeddwn, fel ti, yn amheus am "amlygrwydd" Annette (gyda phob parch iddi). Lle mae tynnu'r llinell, dyna'r cwestiwn. Ac os ydy'n wir mai hi ei hun a ysgrifenodd yr erthygl a ydy hynny'n dderbyniol? Go bron brin bod hi'n erthygl ddiduedd felly. Wnes i ddim gwneud llawer o ddiwygio ar yr erthyl ar y pryd, jest rhoi'r categoriau ac ambell beth arall, ond dydy'r arddull ddim yn wrthrychol, a deud y lleia. Wn i ddim be dy'r gorau i wneud, ei chadw neu ei dileu? Rydym ni angen erthyglau yn sicr, ond ydy hynny'n rheswm dros dderbyn safonau is na'r disgwyl? Mae'r un peth yn wir am rai o'r erthyglau am gerddorion a bandiau Cymraeg hefyd, ond o leia mae 'na siawns bydd rhywun wedi clywed amdanyn nhw yn y lle cyntaf. Hyd y gwelaf i dydy hi ddim wedi cyhoeddi llawer, jest gwneud gwaith ymchwil, ac mae 'na ddwsinau o bobl tebyg yn y wlad 'ma. Bw wnawn ni felly? Dwi mewn tipyn o benbleth am hyn ac felly dwi am "basio'r byc" fel ti a rhoi nodyn yn y Caffi yn cyfeirio at ein trafodaeth bach yma, yn y gobaith bydd gan rywun arall farn am hyn. Anatiomaros 18:55, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Oes gen ti chwant fynd ati i ehangu ar yr dudalen hon er mwyn cynnwys rhestr yr amrywiadau ar y nodyn sydd i gael erbyn hyn? Lloffiwr 12:41, 6 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Syniad da. Dwi wedi ychwanegu gwybodaeth gyffredinol am yr eginau newydd, ond mae 'na dros gant ohonyn nhw yn barod ac mae'r rhestr yn tyfu o hyd, felly dwi ddim yn siwr pa mor ymarferol fyddai rhestr lawn (ar en. buasai hynny'n llenwi rhai cannoedd o dudalennau, mae'n siwr!). Anatiomaros 20:40, 6 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r dudalen yn hen ddigon da fel ag y mae - diolch. Lloffiwr 20:25, 7 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Croeso. Cefais gipolwg ar y dudalen Saesneg hefyd, ond mae'n llawer rhy gymhleth a thechnegol i ni ar hyn o bryd. Cofion, Anatiomaros 20:31, 7 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

corn du[golygu cod]

Re: 'gobeithio fod "Powys" yn iawn' - mae streetmap.co.uk yn cytuno â chi am ei fod ym Mhowys. Alan012 05:11, 7 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Cymru Annibynnol[golygu cod]

Diolch yn fawr am eich gwaith gyda'r erthygl. Alan012 17:18, 11 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]