Samuel Baldwin Rogers

Oddi ar Wicipedia
Samuel Baldwin Rogers
Ganwyd1778 Edit this on Wikidata
Llwydlo Edit this on Wikidata
Bu farw6 Medi 1863 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcemegydd, metelegwr, dyfeisiwr, cyhoeddwr, llyfrwerthwr Edit this on Wikidata

Roedd Samuel Baldwin Rogers (tua 17786 Medi 1863)[1] yn werthwr llyfrau, cyhoeddwr, cemegydd metelegwr a dyfeisiwr Cymreig.

Ymysg y syniadau iddo awgrymu bu

  • Adeiladu rhwydwaith o reilffyrdd cysylltiol trwy Gymru a Lloegr
  • Rheilffordd draws gyfandirol yn cysylltu Llundain a Guangzhou (Canton) yn Tsieina, er budd masnachol ac er mwyn lledaenu gwareiddiad.
  • Adeiladu pont dros Afon Hafren i wella cysylltiadau rhwng Cymru a Lloegr.

Er bod llawer o'i syniadau wedi eu gwireddu yn y pendraw, ac eraill wedi gwneud ffortiwn ohonynt, roedd pobl a oedd yn ymwneud a'r diwydiannau ar y pryd yn ei gyfrif ef a'i syniadau yn od ar y naw, os nad yn wallgof[2]. Ond y gwir amdano, yn ôl ei gyfaill y metelegwr John Percy, oedd ei fod yn ŵr brwdfrydig, dawnus gwreiddiol a mwyn galon[3], a gan hynny yn un hawdd manteisio arno.

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Yn ôl cyfrifiad 1851 ganwyd Rogers yn Llwydlo, Swydd Amwythig tua 1778[4]. Erbyn dechrau'r 19g roedd wedi sefydlu argraffwasg yn Stryd Mary Cas-gwent. Fel un a oedd yn frwdfrydig am y datblygiadau technegol diweddaraf, bu Rogers yn cyhoeddi nifer o bamffledi ar y pwnc, gan lwyddo i berswadio The Mining, Railway and Commercial Gazette i ail gyhoeddi rhai ohonynt.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Hysbyseb am Westphalian essence (1816)

Tua 1808 symudodd Rogers i Bont-y-pŵl lle fu'n gweithio yn yr hyn mae'n ei alw yn Labordy Hydrogen. Yn y labordy dyfeisiodd hylif i gyffeithio bwydydd; roedd yr hylif wedi ei wneud allan o dar glo, finegr a phort. Galwodd yr hylif yn Westphalian essence[5], ond yn hytrach na chreu a gwerthu'r hylif rhoddodd y rysáit i eraill cael ei gynhyrchu.

Gwnaeth welliannau i weithgynhyrchu golosg ac asid sylffwrig, ac ym 1810 dyfeisiodd pympiau hydro-niwmatig i gymryd nwy allan o ffwrneisi golosg Nant-y-glo gan ei ddefnyddio i gynhyrchu golau. Erbyn 1838 defnyddiwyd darganfyddiad Rogers i dynnu 5000 troedfedd giwbig (tua 140 metr ciwbig) o nwy allan o ffwrneisi golosg Nant-y-glo, gan ei ddefnyddio i gynhyrchu golau i'r gweithfeydd haearn[6].

Ym 1816 dechreuodd Rogers weithio fel metalegwr yng ngwaith haearn Pontymeistr ac wrth weithio yno gwnaeth ei gyfraniad mwyaf i'r diwydiant haearn lleol a rhyngwladol[7].

Llwyddodd i greu 'gwaelod haearn' i'w defnyddio mewn ffwrnesi pwdlo. Doedd y syniad o waelod haearn ddim yn un newydd. Cafodd y syniad ei arbrofi'n aflwyddiannus yng Nghyfarthfa ym 1789, ac roedd un a gafodd ei oeri gan aer ym 1793 hefyd yn fethiant. Ond fe fu gwaelod haearn Rogers, wedi ei oeri gan ddŵr, yn llwyddiant ysgubol. Llwyddodd sustem Rogers i ddyblu allbwn haearn y ffwrnais ac i leihau'r amser cymerodd i bwdlo gwres o tua thair awr i lai na dwy awr. Rhwng 1816 a 1818 treuliodd Rogers gryn dipyn o arian wrth berffeithio ei ddyfais ac wrth chwilio am feistri haearn i'w brofi. Yn 1819 gwahoddwyd William Crawshay I, ynghyd â rheolwr a pheiriannydd ffwrnais Cyfarthfa i drio'r gwaelod haearn. Gan gyhoeddi bod y syniad yn un hurt, gwrthodwyd y gwahoddiad gan Crawshay. Cynigiwyd y system yn gwbl ddiamodol i Anthony Hill o Waith Plymouth, William Forman o Benydarran, Benjamin Hall o'r Rhymni, a Samuel Homfray o Dredegar. Cafodd ei wrthod gan bob un ohonynt. Wedi ei siomi gan wrthodiad y gwaelod haearn, gadawodd Sir Fynwy ar gyfer Llundain ym 1820 a bu yno am ddeuddeng mlynedd. Ym 1825 dechreuodd gwaith Glyn Ebwy ddefnyddio gwaelodion haearn Rogers ac yna, cyn pen y flwyddyn fe'i defnyddiwyd yn Nant y glo. Erbyn y 1850 roedd pob ffwrnais yn defnyddio gwaelod haearn[6].

Gwnaed ffortiwn gan y meistri diwydiannol trwy'r cynnydd mewn cynhyrchiad a ddaeth trwy ddyfais Rogers. Yr unig beth i Rogers cael ohoni oedd cael ei watwar gan y meistr wrth iddynt gyfeirio ato fel Mr Ironbottom.

Agweddau gwleidyddol a chymdeithasol[golygu | golygu cod]

Hysbyseb sebon tar glo

Roedd Rogers yn credu bod gwastraff dianghenraid yn bechod, ac roedd yn ffieiddio at faint y sgil-gynhyrchion o lo a ddefnyddiwyd mewn ffwrneisi haearn a golosg oedd yn cael eu afradu.

Dechreuodd arbrofi gyda'r sgil-gynhyrch tar glo tua 1811, gan ei ddefnyddio yn gyntaf fel iraid ar gyfer olwynion tram, cyn canfod moddion i'w defnyddio fel gwrthseptig, perarogl a chynhwysyn mewn sebon. Mae sebon tar glo yn dal i gael ei gynhyrchu hyd heddiw.

Ym 1816 cyhoeddodd taflen wedi ei gyflwyno i holl feistri haearn de Cymru yn awgrymu sut byddai modd defnyddio nwyon glo o'r gweithfeydd ar gyfer cynhesu a goleuo cartrefi'r gweithwyr. Eglurodd sut y gellir, ac y dylid, defnyddio'r sylffad o amonia, oedd ar gael o wasarn y ffwrneisi i gynhyrchu gwrtaith, paent, farnais, olew, gwirodydd, mastig, sment asphalt, llifynnau, dinistrwyr pla ac ati.

Roedd Rogers yn sosialydd ac yn gefnogwr brwd i arbrofion cymdeithasol Robert Owen. Cyhoeddodd erthygl yn y Mining Journal o dan y teitl A New and Improved System of Managing Extensive Ironworks a oedd yn annog rhannu elwau a chyfranddaliadau mewn gweithfeydd rhwng yr holl weithwyr o'r meistr i'r prentis. Ysgrifennodd nifer helaeth o bamffledi, erthyglau a llythyrau i'r wasg yn condemnio cyfalafiaeth ac yn pledio achos y gweithwyr. Plediodd achos addysg i bawb heb wahaniaethu ar sail crefydd ac yn rhydd o ffioedd, addysgu athrawiaethol, a rheolaeth uniongyrchol gan y llywodraeth; ac am bedwar ar ddeg fel yr oedran gadael ysgol. Roedd o blaid cydraddoldeb menywod â dynion, yn foesol, yn gymdeithasol ac yn wleidyddol[6].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Eglwys Llan-ffwyst

Er gwaethaf honiad rai bod Rogers wedi byw yn ei henaint ar bensiwn hael a roddwyd gan ei gyfeillion cyfoethog yn y diwydiant haearn, megis Crawshay Baily[2], gwyngalch yw hyn. Bu diwedd Rogers yn un o dlodi aruthrol wedi ei anghofio neu ei anwybyddu gan y sawl a enillodd ffortiynau trwy ei ddyfeisgarwch. Yr unig beth a'i cadwodd rhag bedd cyffredinol y tlodion oedd apêl yn y Mining Journal a chododd digon o arian i roi cynhebrwng parchus iddo[8]. Bu farw yng Nghasnewydd yn 85 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Llan-ffwyst.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

  • The Advent of the Millenium (1841)
  • Samarias, or Working Benefit Societies (1842)[9]
  • A Serious Call to Prepare a New and Perfect Organisation of Human Society (1848)
  • Outline of a System of Commerce (1848)
  • An Improved Mode of Recruiting National Armies (1850)
  • An elementary treatise on iron metallurgy: up to the manufacture of puddled bars, with analytical tables of iron-making materials (Efrog Newydd, 1857)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "FamilyNotices - The Cardiff and Merthyr Guardian Glamorgan Monmouth and Brecon Gazette". Henry Webber. 1863-09-18. Cyrchwyd 2017-12-04.
  2. 2.0 2.1 Wilkins, Charles (1903). The history of the iron, steel, tinplate and ... other trades of Wales : with descriptive sketches of the land and the people during the great industrial era under review. Joseph Williams, Merthyr. tt. 213–216.
  3. John Percy, A Treatise on Metallurgy, 1866, tud. 654
  4. yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad 1851, King Street, Llanelli, Sir Faesyfed Cyfeirnod HO107/2490 Ffolio 555 tud 13
  5. "Advertising - The Cambrian". T. Jenkins. 1816-08-03. Cyrchwyd 2017-12-04.
  6. 6.0 6.1 6.2 Williams, Edward Ifor (1959). "Biographica Et Bibliographica - Samuel Baldwin Rogers". Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 11, rhif 1: 99-102 (tud 109 ar lein). https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1277425/1281140/108.
  7. Ebbw Vale Famous Persons - Samuel Baldwin Rogers Archifwyd 2017-10-14 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 5 Rhagfyr 2018
  8. Llythyr di-enw yn The Times, Llundain 16 Medi 1863:tud 7 Fate Of An Inventor adalwyd o The Times Digital Archive. Web. 4 Rhagfyr 2017
  9. Catalog Richard Ford Manuscripts, Llyfrwerthwyr