Rysáit

Oddi ar Wicipedia
Rysáit
Mathuser guide, gweithdrefn, rhestr, rhestr Edit this on Wikidata
Prif bwncsaig Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscommand, cynhwysyn bwyd Edit this on Wikidata
Cynnyrchsaig Edit this on Wikidata

Mae rysáit yn set o gyfarwyddiadau sy'n disgrifio'r cynhwysion a'r camau sy'n ofynnol i wneud pryd o fwyd. Esboniad Geiriadur Prifysgol Cymru o'r gair yw, "Rhestr o gynhwysion a chyfarwyddyd ynglŷn â pharatoi bwyd, meddygyniaeth &c., resipi hefyd, yn ffig. meddygyniaeth, moddion". Ceir hefyd rysêt, resêt, risêt. Mae'r acen ar y llefariad olaf yn dangos nad yw'r pwyslais ar y goben fel sy'n arferol yn y Gymraeg.[1]

Cynnwys Rysáit mewn Llyfr Coginio[golygu | golygu cod]

Mae rysáit o lyfr coginio fel arfer yn cynnwys o leiaf y wybodaeth ganlynol:

  • Enw'r Pryd
  1. cynhwysion a meintiau sydd eu hangen, gan gynnwys dewisiadau amgen posibl, fel cynhwysion anodd eu cael
  2. nifer y dognau y gellid eu gwasanaethu gyda'r meintiau manwl
  3. yr offer a'r offer arall sydd eu hangen i wneud y ddysgl
  4. yr amser paratoi a fydd yn gofyn am baratoi, weithiau wedi'i nodi fesul cam (er enghraifft, paratoi, coginio, emplatado, ac ati)
  5. cyfrifiad trefnus a manwl o bob un o'r camau paratoi
  6. disgrifiad o'r cyflwyniad terfynol, gan gynnwys sut olwg ddylai fod ar edrychiad, gwead, arogl a blas
  • 'Gwybodaeth arall a gesglir fel arfer yw:
  1. asesiad o anhawster paratoi'r ddysgl, a fynegir yn aml fel gradd profiad y cogydd
  2. amrywiadau lleol o'r ddysgl, efallai gydag enwau eraill, cynhwysion eraill, amrywiadau bach yn y ffordd y caiff ei baratoi neu ei gyflwyno, ac ati.
  3. tarddiad neu hanes y ddysgl
  4. lluniau neu ffotograffau o'r ddysgl orffenedig neu rai o'r cynhwysion
  5. cyfarwyddiadau ar sut i ddiogelu'r ddysgl, y posibilrwydd o'i rewi, sut i'w ailddefnyddio, ei hailgynhesu, ac ati.
  6. gwybodaeth faethol, fel calorïau, protein cymharol, braster a chynnwys siwgr, p'un a ellir ei nodi ar gyfer rhai cyfyngiadau dietegol ai peidio, ac ati.

Hanes[golygu | golygu cod]

Mae'r ryseitiau ysgrifenedig cynharaf y gwyddys amdanynt yn dyddio i 1730 CC ac fe'u cofnodwyd ar dabledi cuneiform a ddarganfuwyd ym Mesopotamia.[2]

Mae'r ryseitiau cyhoeddedig cyntaf yn dyddio o'r oes Babilonaidd. Tair tabled o tua 1600 CC yn cynnwys cyfres o ryseitiau.[3] Mae'r tabledi hyn yn cael eu cadw ym Mhrifysgol Iâl.

Mae'r ail waith o ryseitiau sydd wedi'u hadfer yn seiliedig ar goginio'r cogydd Rhufeinig Marcus Gavius Apicius, tua dechrau'r oes.

Roedd hen ryseitiau, er enghraifft o oes y Rhufeiniaid neu'r Oesoedd Canol, yn aml yn cynnwys llawer llai o wybodaeth, ac yn aml dim ond rhestr o gynhwysion oeddent i gynnal y cof. Gair cyntaf y ryseitiau hyn fel arfer oedd y gair Lladin "Recipe ... ("cymerwch") ac oddi yno y daeth y gair moder recipe i'r Saesneg o'r Ffrangeg.[4] ac i 'rysáit' yn deillio o hyn.

Apicius, De re culinaria, casgliad cynnar o rysetiau (yn Lladin)

Gyda dyfodiad y wasg argraffu yn yr 16g a'r 17g, ysgrifennwyd nifer o lyfrau ar sut i reoli cartrefi a pharatoi bwyd. Yn yr Iseldiroedd[5] a Lloegr[6] tyfodd cystadleuaeth rhwng y teuluoedd bonheddig ynghylch pwy allai baratoi'r wledd fwyaf moethus. Erbyn y 1660au, roedd coginio wedi symud ymlaen i ffurf ar gelf ac roedd galw mawr am gogyddion da. Cyhoeddodd llawer ohonynt eu llyfrau eu hunain yn manylu ar eu ryseitiau mewn cystadleuaeth â'u cystadleuwyr.[7] Many of these books have been translated and are available online.[8]

Llyfrau rysáit Cymraeg a rysetiau Cymreig[golygu | golygu cod]

Ceir sawl llyfr rysetiau Cymraeg a Chymreig eu hysgrifennu ac yna, gydag amser, cyhoeddi. Ymhlith y casgiad o ryseitiau cynharaf o Gymru (er yn Saesneg) yw llyfr ryseitiau Merryell Williams (1629-1703), Ystâd Ystumcolwyn, Sir Drefaldwyn.[9] Ceir rysáit yn Gymraeg gan Ystâd Gogerddan, ger Aberystwyth, yn berchen i deulu’r Pryse a Loveden. Dim ond un llyfr rysait sydd wedi goroesi ymysg y casgliad, ynghyd â rhai eitemau rhydd megis bwydlen Cymraeg o 1796 pan oedd y stad yn nwylo Pryse Pryse (gynt Loveden). Mae’n cynnwys Brithyll ffrio, math o’r pysgodin berw yn Saesneg enw Turbot, oen coes berw gyda y llwin ffrio, pwding crynu, cig eidion rhost…pastai afal ffrwythau).[10]

Diffinier ‘traddodiadol’ Cymreig fel bwyd cafodd ei goginio mewn bwthyn Cymreig neu gegin tŷ fferm yn defnyddio pot neu lechen bobi ar dân agored neu, yn hwyrach, ar ffwrn haearn bwrw. Byddai’r ryseitiau yn dueddol o gael eu pasio lawr drwy’r teulu ar lafar am genedlaethau, yn aml heb eu cofnodi yn ysgrifenedig, hyd nes i Mati Thomas eu cynnwys yn ei thraethawd a enillodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Treorci 1928. Ceir tystiolaeth o offer coginio traddodiadol ymhlith y miloedd o restrau eiddo sydd wedi goroesi yn yr ewyllysiau Cymru cyn 1858, y rhan fwyaf ohonynt ar gael yn electronig drwy wefan y Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[10]

Un o'r llyfrau ryseitiau traddodiadol Gymreig mwyaf poblogaidd a dylanwadol oedd Amser Bwyd: detholiad o gyfarwyddiadau Cymreig gan S. Minwel Tibbott. Mae'n ddetholiad o gyfarwyddiadau'n ymwneud â bwydydd a diodydd traddodiadol Cymru a oedd mewn bri ar ddechrau'r 20g. Cyhoeddwyd y llyfr ryseitiau gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yn 1977, yn 2013 roedd y gyfrol allan o brint.[11] Roedd Minwel Tibbott yn aelod o staff blaenllaw yn Amgueddfa Werin Cymru.

Llyfrau Rysáit Diweddar yn Gymraeg[golygu | golygu cod]

Ceir sawl cyfrol ryseitiau hardd, lliwgar yn Gymraeg gan gogyddio Cymraeg. Daeth rhain yn boblogaidd yn sgîl cyfresi coginio ei hunain ar S4C neu eu bod yn cyfrannu eitem goginio a ddaeth yn boblogaidd ar raglen megis Heno ar y Sianel. Mae'r ryseitiau yn amrywiol iawn ac heb eu cyfyngu i fwydydd traddodiadol Cymreig.

Ymhlith y cogyddion diweddar Cymraeg poblogaidd ar y teledu sydd hefyd wedi cyhoeddi llyfrau rysáit mae:

Bryn Williams, Dudley Newbury, Elliw Gwawr, Chris Roberts, Ceri Lloyd, Ena Thomas, Nerys Howell, Beca Lyne-Pirkis a mwy.[12]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Geiriadur Prifysgol Cymru;
  2. Winchester, Ashley. "The world's oldest-known recipes decoded". www.bbc.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-17.
  3. Jean Bottéro, Textes culinaires Mésopotamiens, 1995. ISBN 0-931464-92-7; commentary at Society of Biblical Literature Archifwyd 2017-10-28 yn y Peiriant Wayback.
  4. Colquhoun, Kate (2008) [2007]. Taste: The Story of Britain through its Cooking. Bloomsbury. t. 25. ISBN 978-0-747-59306-5.
  5. Sieben, Ria Jansen (1588). Een notable boecxtken van cokeryen.
  6. anon (1588). The good Huswifes handmaid for Cookerie.
  7. May, Robert (1685). The accomplifht Cook.
  8. Judy Gerjuoy. "Medieval Cookbooks". Cyrchwyd 2007-06-15.
  9. https://blog.llyfrgell.cymru/beth-am-ddilyn-y-rysait-yma-or-18fed-ganrif/
  10. 10.0 10.1 {[cite web|url=https://blog.llyfrgell.cymru/lobsgows-a-llymru/%7Ctitle=Lobsgows[dolen marw] a Llymru: Bwyd a ryseitiau Cymreig| website=Llyfrgell Genedlaethol Cymru|access-date=15 Rhagfyr 2021}}
  11. Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
  12. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-12-06. Cyrchwyd 2021-12-06.