Ena Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ena Thomas
Ganwyd 5 Mehefin 1935 Edit this on Wikidata
Felindre Edit this on Wikidata
Bu farw 5 Gorffennaf 2020 Edit this on Wikidata (85 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth cogydd Edit this on Wikidata

Cogyddes o Gymraes oedd Ena Thomas (5 Mehefin 19355 Gorffennaf 2020).[1] Daeth yn enwog fel cogyddes ar y rhaglen deledu cylchgrawn Heno yn y 1990au.[2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Magwyd Ena yn Felindre yn ferch i löwr. Roedd teulu ei thad yn rhedeg gefail y pentref. Cychwynnodd ei gyrfa fel morwyn yng nghegin Ysbyty Treforys.[3] Aeth i Lundain i weithio fel cogydd a dringodd i safle cyd-bennaeth yng nghegin Ysbyty Coleg y Brifysgol gan astudio arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Polytechnig Battersea yr un pryd. Roedd rhaid iddi ddychwelyd adref cyn gorffen y cwrs, [4][5] a gweithiodd fel cogyddes mewn cartref gofal.

Am ddeng mlynedd ar hugain bu'n dysgu eraill i goginio mewn dosbarthiadau nos yng Nghaerfyrddin a Nantgaredig.[6]

Cychwynnodd fel cogyddes ar Heno yn 1993 pan oedd yn ei phumdegau hwyr a bu'n gyfrannwr cyson hyd at 2001, gyda slot rheolaidd ar nos Wener. Daeth yn ffefryn gyda'r gynulleidfa am ei hagwedd ddi-lol at goginio, a'i hoffter honedig o "joch o frandi". Fe'i dynwaredwyd ar y rhaglen deledu ddychanol Cnex.

Cyhoeddodd sawl llyfr ryseitiau yn y 1990au. Cofnododd ei hanes mewn hunangofiant, Blas ar Fywyd a ysgrifennwyd gan Catrin Beard a chyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2012.

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd gasgliad o'i hoff ryseitiau i godi arian i elusennau'r NHS yn sgîl pandemig COVID-19. Roedd y llyfr electronig Hwyluso Coginio ar gael i'w lawrlwytho ar dudalen JustGiving er mwyn i bobol wneud rhodd o'i dewis. Cododd swm o £2,200 erbyn Gorffennaf 2020.[7]

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Ena yn briod gyda Geoff ac yn byw yn Llangynnwr, Sir Gaerfyrddin. Ganwyd dau fab iddynt.

Cododd filoedd lawer o bunnoedd at achosion da dros y blynyddoedd drwy gynnal nosweithiau coginio a raffl i Eisteddfodau a Merched y Wawr.

Wedi dioddef o glefyd niwronau echddygol (motor neuron) ers blynyddoedd, roedd yn byw yng ngartref gofal Plas Y Dderwen yng Nghaerfyrddin.[7] Bu farw yn 85 mlwydd oed ar ôl salwch hir.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i hurddwyd yn Urdd Ofydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 gan ddewis yr enw barddol 'Y Gogyddes Ena'.[6] Cafodd gymrodoriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Fetropolitan Abertawe yn 2007, lle'r oedd wedi bod yn fyfyriwr yn y Coleg Technegol gynt.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  The obituary notice of Ena THOMAS. Western Mail (11 Gorffennaf 2020).
  2.  Ena Thomas. Gwasg Gomer.
  3. Cofio am Ena Thomas, 'Brenhines y gegin' rhaglen Heno , BBC Cymru Fyw, 6 Gorffennaf 2020.
  4.  Blas ar Fywyd. Gwales.
  5.  https://www.gomer.co.uk/blas-ar-fywyd.html. Gwasg Gomer.
  6. 6.0 6.1  Anrhydeddau 2002. Gorsedd Cymru. Adalwyd ar 6 Gorffennaf 2020.
  7. 7.0 7.1  Hwyluso Coginio ( Cooking Made Easy ) by Ena Thomas. JustGiving (Mai 2020). Adalwyd ar 10 Gorffennaf 2020.