Nerys Howell

Oddi ar Wicipedia
Nerys Howell
Ganwyd1 Awst 1956 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdiategydd, cogydd, ysgrifennwr, cyflwynydd teledu Edit this on Wikidata

Busneswraig, cyflwynydd teledu ac awdur yw Nerys Howell (ganwyd Awst 1956).

Bu Nerys Howell yn gweithio ym myd bwyd a diod ers dros ddeng mlynedd ar hugain ac ers 2005 mae'n rhedeg cwmni ei hun yn arbenigo mewn darparu cyngor a chymorth i gwmnïau bwyd a diod yng Nghymru. Dechreuodd ei diddordeb mewn bwyd pan yn ferch fach wrth dreulio wythnosau gwyliau'r ysgol ar ffermydd ei Mamgu a Thadcu yn Llangeler a Chapel Iwan. Yno gwelodd yr hadau yn tyfu yn gnydau, casglu wyau o'r cwt ieir, tynnu riwbob o'r berllan, codi tatws, bwydo'r lloi, godro, plufio, crafu tatws a helpu i goginio. Bu dylanwadau coginio ei Mam a'i dwy Famgu yn allweddol wrth iddi benderfynu ar yrfa.

Wedi astudio cwrs Rheoli Arlwyo, aeth i weithio gyda'r Awdurdod Iechyd; yna ymunodd ag Ysgol Fwyd a Diod Prue Leith yn Notting Hill. Bu'n gweithio yng Ngroeg i deulu un o wleidyddion enwog San Steffan, ac yna dychwelyd i Lundain i weithio mewn tai bwyta. Dychwelodd i Gymru yn 1996 a chychwynnodd gyflwyno eitemau bwyd a diod yn rheolaidd ar gyfer S4C, BBC Cymru a HTV. Bu hefyd yn gweithio i nifer o gyrff cyhoeddus a chwmnïau preifat ers 1999. Mae wedi teithio'r byd yn hyrwyddo bwyd a diod Cymru'r Gwir Flas yn Sydney, Paris, Hong Kong, San Fransisco, Dubai ac Efrog Newydd ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Sefydlwyd Ymgynghoriaeth Bwyd Howell yn 2005.

Cyhoeddodd y gyfrol Cymru ar Blât/Wales on a Plate efo Gwasg Carreg Gwalch yn 2011.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 9781845272340, Cymru ar Blât/Wales on a Plate". www.gwales.com. Cyrchwyd 2020-02-10.


Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Nerys Howell ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.