Refferendwm annibyniaeth Cymru

Oddi ar Wicipedia

Mae refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o’r Deyrnas Unedig (DU) wedi’i gynnig gan gefnogwyr sydd o blaid annibyniaeth, gan gynnwys grŵp ymgyrchu annibyniaeth YesCymru, pleidiau gwleidyddol Plaid Cymru a Phlaid Werdd Cymru a grwpiau ac unigolion eraill.

Gorymdaith annibyniaeth i Gymru yng Nghaerdydd, 11 Mai 2019.

Mae'r rhain yn dilyn galwadau tebyg am ail refferendwm annibyniaeth i'r Alban. Mae Plaid Cymru wedi addo cynnal refferendwm petaen nhw’n ennill mwyafrif o seddi yn y Senedd .

Cynigion refferendwm[golygu | golygu cod]

Ym mis Mawrth 2017, yn dilyn galwadau am ail refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod angen dadl genedlaethol ar annibyniaeth i Gymru. [1] Ym mis Gorffennaf 2020, cyflwynodd y Blaid gynnig i drafod refferendwm ar annibyniaeth i Gymru, ond fe’i gwrthodwyd o 43 pleidlais i 9. [2]

Ar 24 Hydref 2020, pleidleisiodd aelodau Plaid Werdd Cymru yng nghynhadledd eu plaid y byddai’r blaid yn cefnogi annibyniaeth i Gymru pe bai refferendwm yn cael ei chynnal. [3] Ym mis Gorffennaf 2020, cyflwynodd Plaid Cymru gynnig i weinidogion y Senedd ynglŷn â gofyn am ganiatâd San Steffan am yr hawl y Senedd i ddeddfu ar gyfer refferendwm annibyniaeth i Gymru. Gwrthododd aelodau’r Senedd y cynnig hwn o 43 pleidlais i 9. [4] Dyma’r tro cyntaf erioed i annibyniaeth Cymru gael ei drafod yn ffurfiol yn y Senedd. [5] [6]

Ar 11 Rhagfyr 2020, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price pe bai ei blaid yn ennill mwyafrif yn etholiad Senedd 2021, byddai refferendwm annibyniaeth yn cael ei gynnal yn ei dymor cyntaf yn y swydd. [7] Yng nghynhadledd arbennig Plaid Cymru ar annibyniaeth, a gynhaliwyd ar 13 Chwefror 2021, cymeradwyodd aelodau'r blaid yn ffurfiol addewid Price i gynnal refferendwm yn ystod neu cyn 2026. [8]

Ym mis Mehefin 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddiddymu Deddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 Llywodraeth Cymru, sy’n gwahardd staff asiantaeth rhag cael eu defnyddio os bydd gweithwyr y sector cyhoeddus yn mynd ar streic. [9] Galwodd Price hyn yn "ymgipiad pŵer" ("power grab") ac yn "dorribwynt bosibl datganoli" ("devolution's breaking point"). Galwodd Price am gynnal refferendwm er mwyn amddiffyn pwerau'r Senedd. [10] Dywedodd Price mewn cyfweliad radio ym mis Mehefin 2022, “Os bydd y Goruchaf Lys yn penderfynu o blaid, bydd gennym ni yng Nghymru lwybr i fynd yn uniongyrchol at bobl Cymru er mwyn cael mandad ar gyfer sicrhau ein hawl ein hunain i hunanbenderfyniad fel cenedl." [11] Dywed llywodraeth y DU fod "perthnasau ddiwydiannol" yn fater cadw ("reserved matter") ac felly yn gyfrifoldeb llywodraeth y DU. Dywedodd llywodraeth Cymru y byddai'n "gwrthsefyll" unrhyw ymdrech i danseilio deddfwriaeth sy'n cael ei phasio gan y Senedd. [12]

Cyflwynwyd deiseb i lywodraeth a senedd y DU yn gofyn am refferendwm ar annibyniaeth i Gymru a gasglodd dros 8,000 o lofnodion. [13]

Canfu arolwg barn YouGov ym mis Ionawr 2021 fod 31% o bobl Cymru yn cefnogi cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn y pum mlynedd nesaf gyda 47% yn gwrthwynebu. [14]

Llwybr i refferendwm[golygu | golygu cod]

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi datgan "Os bydd plaid sy'n sefyll dros hynny mewn etholiad yn ennill mwyafrif o bleidleisiau yng Nghymru, yna, wrth gwrs, dylai'r refferendwm hwnnw ddigwydd." [15]

Mae Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth wedi dweud nad oes gwahaniaeth mawr rhwng y sefyllfa yng Nghymru a’r Alban pan ddaw’n fater o’r hawl i gynnal annibyniaeth heb i San Steffan drosglwyddo pwerau i wneud hynny. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ni all pwerau deddfwriaethol y Senedd, yn yr un modd â Senedd yr Alban, basio deddfwriaeth sy’n effeithio ar gyfansoddiad y Deyrnas Unedig a Senedd Llundain. [16]

Mae Lewis yn nodi serch hynny bod llwybr posib ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth heb gyfraniad San Steffan. Fodd bynnag, o dan Adran 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae gan Lywodraeth Cymru’r pŵer i gynnal arolwg (refferendwm) “er mwyn canfod barn y rhai a holwyd ynghylch ynglŷn ag os neu sut y dylai swyddogaethau Gweinidogion Cymru gael eu defnyddio" Mae Adran 60 o Ddeddf 2006 hefyd yn datgan y gall Llywodraeth Cymru wneud beth bynnag sy’n briodol “er mwyn cyflawni...hyrwyddo neu wella lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru”. Pe bai llywodraeth Cymru yn ystyried annibyniaeth i fod o fudd i les economaidd Cymru, fe allai o bosib ofyn barn pobl Cymru mewn refferendwm ar annibyniaeth. Nid oes unrhyw adran yn Neddf yr Alban 1998 sy’n cyfateb i adrannau 60 neu 64 a oedd ar waith ar adeg pan oedd y setliad datganoli yng Nghymru yn wahanol i’r hyn ydyw yn awr. Mae Lewis yn nodi efallai na fydd llys barn yn derbyn adran 60 mewn ystyr eang a allai fod yn berthnasol i refferendwm annibyniaeth. [16]

Gwrthwynebiad[golygu | golygu cod]

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dangos gwrthwynebiad i refferendwm posib ar annibyniaeth i Gymru. [17]

Arolwg barn[golygu | golygu cod]

Mae sawl arolwg barn cyhoeddus wedi bod ar sut y byddai pobl Cymru yn pleidleisio mewn refferendwm annibyniaeth i Gymru. Mae cefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru wedi bod yn cynyddu'n gyson ond mae'n parhau i fod yn farn leiafrifol ar hyn o bryd. [18] Mae cefnogaeth dros annibyniaeth wedi cynyddu o 14% yn 2014 i’w gefnogaeth uchaf o 46% ym mis Ebrill 2021 wrth eithrio rhai sydd "ddim yn gwybod". [19] [20]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Craig, Ian (13 March 2017). "'Wales needs to debate independence' – says Plaid Cymru leader Leanne Wood after Scotland referendum call". South Wales Argus. Cyrchwyd 24 March 2018.
  2. "Plaid independence referendum call rejected by Senedd members". BBC News. 15 July 2020.
  3. "Wales Green Party vote to back Welsh independence at conference". Nation.Cymru. 24 October 2020. Cyrchwyd 24 October 2020.
  4. "StackPath". Institute for Government. Cyrchwyd 13 June 2022.
  5. "Plaid independence referendum call rejected by Senedd members". BBC News (yn Saesneg). 2020-07-15. Cyrchwyd 2022-06-13.
  6. "Live Blog: The Senedd debates independence for the first time". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-07-15. Cyrchwyd 2022-06-13.
  7. Hayward, Will (11 December 2020). "Plaid pledges independence referendum if they win Senedd election". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 December 2020.
  8. "Plaid Cymru formally adopt independence referendum pledge at special conference". Nation.Cymru (yn Saesneg). 13 February 2021. Cyrchwyd 14 February 2021.
  9. "UK Government confirm they will scrap Welsh law as part of trade union crackdown". 27 June 2022.
  10. Wilks, Rebecca (29 June 2022). "Plaid Cymru call for Welsh indyref after Westminster 'power grab'". The National (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 July 2022.
  11. "Scottish indyref push could lead to Welsh vote, says Plaid's Adam Price". BBC News (yn Saesneg). 2022-06-29. Cyrchwyd 2022-07-12.
  12. "Rail strike: UK ministers to scrap Senedd ban on agency staff". BBC News (yn Saesneg). 2022-06-27. Cyrchwyd 2022-07-22.
  13. "Petition calling on Westminster to grant Welsh independence referendum signed by thousands". Nation.Cymru (yn Saesneg). 2020-10-09. Cyrchwyd 2022-07-12.
  14. "YouGov / Sunday Times Survey Results" (PDF).
  15. Hughes, George (30 June 2022). "Plaid Cymru leader Adam Price has called for an independence referendum". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 July 2022.
  16. 16.0 16.1 "Oes hawl gan Gymru gynnal refferendwm am annibyniaeth?". BBC Cymru Fyw. 2022-12-05. Cyrchwyd 2022-12-05.
  17. "Welsh independence referendum would bring "chaos and division" - Lib Dems". The National Wales (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-07-08. Cyrchwyd 2022-07-12.
  18. "StackPath". www.instituteforgovernment.org.uk. Cyrchwyd 2022-07-12.
  19. Henry, Graham (2014-04-19). "Wales says no to Scottish independence: our exclusive YouGov poll". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-05-16.
  20. "Savanta ComRes Wales Voting Intention – 29 April 2021" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2021-12-04. Cyrchwyd 2023-01-09.