Neidio i'r cynnwys

Radio YesCymru

Oddi ar Wicipedia
Radio YesCymru
Enghraifft o'r canlynolpodcast Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Dechrau/SefydluAwst 2018 Edit this on Wikidata
Radio YesCymru, Eisteddfod Caerdydd 2018, Siôn Jobbins yn siarad â Gareth Bonello
Radio YesCymru, darlledu yn ystod Eisteddfod 2018. Siôn Jobbins yn holi Catrin Dafydd

Gwasanaeth radio ar-lein yw Radio YesCymru. Bu ei darllediadau cyntaf yn ystod Eisteddfod Caerdydd 2018. Sefydlwyd hi gan aelodau mudiad YesCymru er mwyn hybu annibynaieth i Gymru a thrafodaeth ar annibyniaeth a chenedlaetholdeb Gymreig.

Darlledir rhaglenni ar-lein ac nid ar donfeddi radio. Nid yw'n radio fasnachol.

Sefydlwyd Radio Yes Cymru gan Siôn Jobbins ac aelodau a chefnogwyr eraill o fudiad Yes Cymru gan gynnwys Hedd Gwynfor, Bethan Williams (cydlynydd) a Siôn Lewis (bu'n gyfrifol am greu jingls i'r rhaglenni) a Lowri 'Fron' Jones (trefnydd technegol) bu hefyd yn un o gefnogwyr a chriw technegol Radio Beca. O 2019 daeth Gaynor Jones, oedd â phrofiad fel ymchwilydd radio a theledu, yn rhan o'r tîm.

Radio Yes Cymru yn Eisteddfod Caerdydd 2018

[golygu | golygu cod]

Darlledu

[golygu | golygu cod]

Yn ystod Eisteddfod Caerdydd darlledwyd y rhaglenni o swyddfa cwmni Indycube yn Sgwâr Mount Steward oedd o fewn gerddediad 3 munud o Faes yr Eisteddfod [1]. Darlledwy y rhaglenni drwy wefan cymru.fm. Gallwyd gwrando unai ar cymru.fm neu Radio Beca neu ar wefan Yes Cymru.

Darlledwyd y rhaglenni rhwng 5.00 - 7.00pm nosweithiau Mercher, Iau a Gwener, 8-10 Awst. Roedd yn bosib gwrando ar bodlediadau o'r rhaglenni hefyd.

Defnyddiwyd offer darlledu Radio Beca gan fynd drwy system ddarlledu ar-lein, cymru.fm. Darlledwyd y rhaglenni cyntaf yn y Gymraeg, ond nodwyd y bwriad i ddarlledu yn y Saesneg hefyd wedi hynny [2]

Cynnwys

[golygu | golygu cod]

Roedd cynnwys rhaglenni Eisteddfod Caerdydd yn amrywiaeth o sgyrsiau a cherddoriaeth Gymraeg. Y gwesteion ar gyfer y rhaglenni oedd. Cyflwynwyd y rhaglenni gan Siôn Jobbins:

Radio YesCymru fel podlediad

[golygu | golygu cod]

Yn sgîl datblygiadau ym maes darlledu, symudwyd oddi ar ceisio darlledu'n fyw ac yn 2023 dechreuwyd recordio sgyrsiau ar Zoom a'u llwytho i dudalen Youtube YesCymru yn ogystal fel ffrwd podlediad ar anchor.fm sydd ers 2023 yn rhan o Spotify.

Mae'r podlediadau yn cynnwys sgyrsiau â gwesteuon amrywiol am y mudiad cenedlaethol ac annibyniaeth yn ei chyfanrwydd. Ymysg y siaradwyr bu Yr Athro Richard Wyn Jones, Liz Saville-Roberts A.S. Plaid Cymru, a Joseff Gnagbo.

Dolenni

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]