Plast
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | mudiad ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1911 ![]() |
Gwladwriaeth | Wcráin ![]() |
Gwefan | https://www.plast.org.ua ![]() |
![]() |
Mudiad ieuenctid Wcreinaidd sydd yn gysylltiedig â'r mudiad sgowtio yw Plast (Wcreineg: Пласт), yn llawn Sefydliad Sgowtio Cenedlaethol Plast Wcráin (Пласт Національна Скаутська Організація України Plast Natsionalna Skautska Orhanizatsiia Ukrayiny). Sefydlwyd gan Oleksander Tysovsky yn Lviv ym 1911 ar sail egwyddorion Syr Robert Baden-Powell, sefydlydd y Sgowtiaid. Yn ogystal â dysgu dulliau a sgiliau'r sgowtiaid a datblygu arweinyddiaeth, ei nod yw annog gwladgarwch i blant a phobl ifainc yn Wcráin ac ymhlith yr Wcreiniaid ar wasgar.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Sefydlwyd Plast yn y Gymnasiwm Academaidd yn Lviv, Awstria-Hwngari, gan Oleksander Tysovsky ym 1911. Mabwysiadwyd yr enw Plast, cyfeiriad at y plastuny, sgowtiaid milwrol a ddefnyddiwyd gan Gosaciaid Zaporizhzhia i ddilyn symudiadau'r gelyn yn y corstiroedd. Ymledodd y mudiad Plast ar draws Gorllewin Wcráin, ac ymaelodai nifer o sgowtiaid Plast hefyd â Lleng Reifflwyr y Sich Wcreinaidd, uned o Fyddin Awstria-Hwngari a fu'n ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Tyfodd y mudiad yn sylweddol, yn bennaf yn Galisia (Halychyna), yn sgil cyhoeddi'r llawlyfr cyntaf am sgowtio yn yr Wcreineg, Zhyttia v Plasti (1921), dan olygyddiaeth Tysovsky. Oherwydd ei ethos gwladgarol, gwaharddwyd Plast gan yr awdurdodau yng Ngweriniaeth Gwlad Pwyl mewn ymgais i ostegu cenedlaetholdeb Wcreinaidd yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Cafodd yr arweinwyr eu harestio ac eiddo'r mudiad eu hatafael, gan droi Plast yn gudd-gymdeithas ym 1930.[1]
Wedi dechrau'r Ail Ryfel Byd ym 1939, gyrrwyd Plast yn alltud a byddai'n goroesi fel mudiad ymhlith yr Wcreiniaid ar wasgar, er enghraifft yn Unol Daleithiau America, Canada, ac Awstralia. Gwaharddwyd y mudiad yn ystod cyfnod yr Undeb Sofietaidd.[2] Yn sgil annibyniaeth Wcráin ym 1991, adfywiwyd gweithgareddau Plast yn y wlad, a lleolir ei pencadlys bellach yn Kyiv.
Arwyddlun[golygu | golygu cod y dudalen]
Tryfer wedi ei phlethu â fflŵr-dy-lis yw arwyddlun Plast, sydd yn cyfuno arfbais Wcráin (tryzub, sêl Volodymyr Fawr) a symbol rhyngwladol y mudiad sgowtio. Siôr yw nawddsant y mudiad. Mae aelodau Plast yn cyfarch ei gilydd gyda'r arwyddair skob, acronym sydd yn golygu syl'no (yn gryf), krasno (yn hardd), oberezhno (yn ofalus), a bystro (yn gyflym), a chysylltir y rheiny â symbolau deilen y dderwen, swp o ffrwyth gwifwrnwydd y gors, madarchen, a mellten.[1]
Aelodau enwog[golygu | golygu cod y dudalen]
- Stepan Bandera (1909–1959), chwyldoradwr dros Wcráin annibynnol
- Viktor Yushchenko (ganed 1954), cyn Arlywyddd Wcráin (anrhydeddus)
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Dolenni allannol[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwefan Plast
- 'Ukrainian Scouts | Generation UA' Rhaglen ddogfen ar UATV ar Youtube
- Ffilm ar Jambori Canmlwyddiant Plast Fideo ar Youtube gan Пласт - український скаутинг
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), t. 447.
- ↑ "Ukraine's Plast Scouting Tradition Revives". UATV English. 14 Ebrill 2019.