Philip Ziegler

Oddi ar Wicipedia
Philip Ziegler
Ganwyd24 Rhagfyr 1929 Edit this on Wikidata
Ringwood Edit this on Wikidata
Bu farw22 Chwefror 2023 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcofiannydd, hanesydd, diplomydd Edit this on Wikidata
TadColin Louis Ziegler Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Commander of the Royal Victorian Order, Cymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, Elizabeth Longford Prize Edit this on Wikidata

Bywgraffydd ac hanesydd o Sais oedd Philip Sandeman Ziegler CVO FRSL (24 Rhagfyr 192922 Chwefror 2023) sydd yn nodedig am ei fywgraffiadau o'r Brenin Edward VIII, yr Arglwydd Mountbatten, Laurence Olivier, a'i fywgraffiadau awdurdodedig o'r prif weinidogion Harold Wilson ac Edward Heath.

Ganed ef yn Ringwood, Hampshire, yn ardal y Fforest Newydd, yn fab i Louis Ziegler, uwchgapten wedi ymddeol o'r Fyddin Brydeinig, a'i wraig Dora (Barnwell gynt). Aeth i Goleg Eton cyn astudio'r gyfraith yn Ngholeg Newydd, Rhydychen, ac enillodd radd dosbarth cyntaf. Treuliodd ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol yn y Magnelwyr Brenhinol.[1] Ymunodd â'r Swyddfa Dramor ym 1952 a chafodd ei anfon yn ddiplomydd i Laos, dirprwyaeth NATO ym Mharis, a Pretoria, De Affrica.[2] Priododd â Sarah Collins ym 1960, a chawsant un ferch ac un mab. Tra'n gweithio fel diplomydd, cyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf, bywgraffiadau o Dorothée de Dino, cariad Talleyrand (1962) a'r Prif Weinidog Henry Addington (1965). Ym 1966 fe'i penodwyd yn bennaeth ar siawnsri'r llysgenhadaeth Brydeinig yn Bogotá, Colombia. Yno cafodd Sarah ei saethu'n farw, a Philip ei anafu, gan ladron ym 1967, ac yn sgil y trueni hwnnw penderfynodd ymddiswyddo o'r gwasanaeth diplomyddol.

Wedi iddo ddychwelyd i Lundain, gweithiodd Ziegler i dad Sarah, y cyhoeddwr William Collins. Fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr golygyddol Collins ym 1972 ac yn ben-olygydd ym 1979.[1] Yn y cyfnod hwn, ysgrifennodd ddau lyfr hanes—am y Pla Du (1969) a Brwydr Omdurman (1973)—a dau gofiant, o'r Brenin Wiliam IV (1971) a'r Prif Weinidog yr Arglwydd Melbourne (1976). Trodd Ziegler yn awdur llawn-amser ym 1980, gan ganolbwyntio ar fywgraffyddiaeth: yr Arglwyddes Diana Cooper (1981), yr Arglwydd Mountbatten (1985), Edward VIII (1990), Harold Wilson (1993), Osbert Sitwell (1998), Rupert Hart-Davis (2004), Edward Heath (2010), Laurence Olivier (2013), a Siôr VI (2014). Ysgrifennodd hefyd hanesion o Brydain yn oes y Frenhines Elisabeth II (1986), Banc Barings (1988), Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd (1995), Ymddiriedolaeth Rhodes (2008), a chlwb dynion Brooks's (1991).

Yr oedd Ziegler yn weithgar yng nghylchoedd llenyddol Prydain, a fe wasanaethodd yn gadeirydd Llyfrgell Llundain o 1979 i 1985, Cymdeithas yr Awduron o 1988 i 1990, a Phwyllgor Ymgynghorol Hawl Benthyca Cyhoeddus o 1994 i 1997. Fe'i etholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddol Frenhinol ym 1975 a'r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ym 1979, a phenodwyd i Urdd Frenhinol Fictoria ym 1991.[2] Ailbriododd ym 1971, â Clare Charrington (bu farw 2017), a chawsant fab. Bu farw Philip Ziegler yn 2023 o ganser yn 93 oed.[1]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • The Duchess of Dino (Llundain: Collins, 1962).
  • Addington: A Life of Henry Addington, First Viscount Sidmouth (Llundain: Collins, 1965).
  • The Black Death (Llundain: Collins, 1969).
  • King William IV (Llundain: Collins, 1971).
  • Omdurman (Llundain: Collins, 1973).
  • Melbourne: A Biography of William Lamb, 2nd Viscount Melbourne (Llundain: Collins, 1976).
  • Crown and People (Llundain: Collins, 1978).
  • Diana Cooper (Llundain: Hamish Hamilton, 1981).
  • Mountbatten: The Official Biography (Llundain: Collins, 1985).
  • Elizabeth's Britain, 1926 to 1986 (Llundain: Country Life Books, 1986).
  • (gol.) The Diaries of Lord Louis Mountbatten, 1920–1922: Tours with the Prince of Wales (Llundain: Collins, 1987).
  • (gol.) Personal Diary of Admiral the Lord Louis Mountbatten, South-East Asia, 1943–1946 (Llundain: Collins, 1988).
  • The Sixth Great Power: Barings, 1762–1929 (Llundain: Collins, 1988).
  • (gol.) From Shore to Shore: The Tour Diaries of Earl Mountbatten of Burma, 1953–1979 (Llundain: Collins, 1989).
  • King Edward VIII: The Official Biography (Llundain: Collins, 1990).
  • (gol. gyda Desmond Seward) Brooks's: A Social History (Llundain: Constable, 1991).
  • Wilson: The Authorised Life of Lord Wilson of Rievaulx (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1993).
  • London at War 1939–1945 (Llundain: Sinclair-Stevenson, 1995).
  • Osbert Sitwell (Llundain: Chatto & Windus, 1998).
  • Britain Then and Now: The Francis Frith Collection (Llundain: Weidenfeld & Nicolson, 1999).
  • Soldiers: Fighting Men's Lives, 1901–2001 (Llundain: Chatto & Windus, 2001).
  • Rupert Hart-Davis: Man of Letters (Llundain: Chatto & Windus, 2004).
  • Legacy: Cecil Rhodes, the Rhodes Trust and Rhodes Scholarships (New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2008).
  • Edward Heath: The Authorised Biography (Llundain: HarperPress, 2010).
  • Queen Elizabeth II: A Photographic Portrait (Llundain: Thames & Hudson, 2010).
  • Olivier (Llundain: MacLehose Press, 2013).
  • Between the Wars 1919-1939 (Llundain: MacLehose Press, 2016).

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Stephen Bates, "Philip Ziegler obituary", The Guardian (17 Mawrth 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Mawrth 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) "Philip Ziegler, diplomat and historian who was unflinching in his biographies of Mountbatten and Edward VIII – obituary", The Daily Telegraph (24 Chwefror 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 20 Mawrth 2023.