Peter Arnett

Oddi ar Wicipedia
Peter Arnett
Ganwyd13 Tachwedd 1934 Edit this on Wikidata
Aparima, Seland Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Seland Newydd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Waitaki Boys' High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, cyflwynydd newyddion, gohebydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auOfficer of the New Zealand Order of Merit, Gwobr Newyddiaduraeth Cenedlaethol Ischia, Pulitzer Prize for International Reporting, Gwobr Weintal ar gyfer Adrodd Diplomyddol Edit this on Wikidata

Newyddiadurwr Americanaidd a aned yn Seland Newydd yw Peter Gregg Arnett, ONZM (ganwyd 13 Tachwedd 1934) sy'n enwog fel gohebydd rhyfel. Gweithiodd Arnett dros gylchgrawn National Geographic ac yn hwyrach am nifer o sianeli teledu, yn bennaf CNN.

Gweithiodd fel gohebydd i'r Associated Press yn Fietnam yn y 1960au, gan adrodd ar yr argyfwng Bwdhaidd ac yn hwyrach Rhyfel Fietnam. Cafodd ei fwrw ar y trwyn yng Ngorffennaf 1963 mewn ffrae rhwng heddlu cudd Ngô Đình Nhu a charfan o newyddiadurwyr, gan gynnwys David Halberstam. Enillodd Wobr Pulitzer ym 1966 am ei adroddiadau o Fietnam. Yn Chwefror 1968 cyhoeddodd ei stori enwocaf o Bến Tre: "'It became necessary to destroy the town to save it,' a United States major said today. He was talking about the decision by allied commanders to bomb and shell the town regardless of civilian casualties, to rout the Vietcong."[1] Dadleuol yw geirwiredd yr hyn a ddyfynnodd.[2] Arhosodd yn Fietnam am weddill y rhyfel, ac ef oedd un o'r newyddiadurwyr olaf o'r Gorllewin yn Saigon hyd ei chwymp ym 1975.

Gweithiodd Arnett yn Affganistan yn ystod y rhyfel Sofietaidd ac yn Baghdad yn ystod Rhyfel y Gwlff, lle cafodd gyfweliad â Saddam Hussein.[3] Ym 1997 cynhalodd gyfweliad ag Osama bin Laden.[4] Ym 1998 roedd ganddo ran mewn adroddiad ar Operation Tailwind ar gyfer CNN a chylchgrawn Time, o'r enw The Valley of Death, a honnodd i Fyddin yr Unol Daleithiau ddefnyddio sarin yn erbyn milwyr ei hun yn Laos ym 1970. Cafodd manylion y stori eu gwrth-ddweud gan y Pentagon, a chynhalodd CNN ymchwiliad ei hun gan benderfynu fod y newyddiaduraeth yn wallus a thynnu'r stori yn ôl. Cafodd Arnett ei geryddu gan CNN, ac yn hwyrach ei ddiswyddo.[5]

Aeth Arnett i Irac yn 2003 ar gyfer NBC a National Geographic i adrodd ar y goresgyniad Americanaidd. Rhoddodd gyfweliad i sianel deledu a redir gan lywodraeth Irac, gan roi ei farnau ar rôl newyddiadurwyr mewn rhyfel, ac am hyn cafodd ei ddiswyddo gan NBC, MSNBC, a National Geographic.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Major Describes Move". New York Times. February 8, 1968.
  2. Keyes, Ralph (2006). The Quote Verifier: Who Said What, Where, and When. St. Martin's Griffin. ISBN 978-0-312-34004-9.
  3. Peter Arnett (January 16, 2001 11 a.m. EST). "Peter Arnett: A look back at Operation Desert Storm". CNN News. Cyrchwyd 2007-09-12. Check date values in: |date= (help)
  4. Peter Arnett (December 5, 2001 Posted: 2:50 PM EST (1950 GMT)). "Peter Arnett: Osama bin Laden and returning to Afghanistan". CNN News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-24. Cyrchwyd 2007-09-12. Check date values in: |date= (help)
  5. Barry Grey (22 April 1999). "Fired CNN journalist on dismissal of Arnett: "They will do anything to stem the flow of information"". pub. Cyrchwyd 2007-09-12.
  6. "National Geographic Fires Peter Arnett". National Geographic News. March 31, 2003. Cyrchwyd 2007-09-12.