Pengelli (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Pengelli
Fformat Cyfres ddrama
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 7
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Alun Ffred Jones
Amser rhedeg 30 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Ffilmiau'r Nant
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Darllediad gwreiddiol 9 Tachwedd 1994 – 13 Chwefror 2001
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Cyfres ddrama oedd Pengelli a ddarlledwyd ar S4C rhwng 1994 a 2001. Crëwyd y gyfres gan Gareth F. Williams ac Angharad Jones. Cafodd ei gynhyrchu gan Ffilmiau'r Nant a chynhyrchydd gwreiddiol y gyfres oedd Alun Ffred Jones. Roedd yr opera sebon yn dilyn bywyd gweithwyr mewn parc busnes yng ngogledd-orllewin Cymru.[1]

Roedd rhai o actorion y gyfres yn cynnwys Bryn Fôn, Morfudd Hughes, Siân James, Nerys Lloyd, Gwyn Parry, Maldwyn John, Llŷr Ifans, Gaynor Morgan Rees a Buddug Povey.

Cyhoeddwyd cyfrol am y gyfres a'i chymeriadau yn 1996.

Ail-ddarlledwyd y gyfres o'r cychwyn yn 2018.

Cymeriadau[golygu | golygu cod]

Rhestr o'r brif gymeriadau yn y gyfres:

Cymeriad Actor Cyfnod Disgrifiad
Gwenda Lloyd Morfudd Hughes Cyfres 1-7 Perchennog cwmni arlwyo 'Ar Lwy'
Carla Thomas Nerys Lloyd Cyfres 1-4 Partner busnes Gwenda
Gwyn Lloyd Bryn Fôn Cyfres 1-4 Cyn ŵr Gwenda a pherchennog cwni technoleg ym Mhengelli
Harri Griffiths Gwyn Parry Cyfres 1-7 Perchennog y garej
John Albert Jones Maldwyn John Cyfres 1-7 Mecanic yn garej
Edwin Parri Llŷr Ifans Cyfres 1-7 Cyd-berchennog y garej
Luned Watkins Gaynor Morgan Rees Cyfres 1-3 Rheolwraig safle Pengelli
Liz Howells Siân James Cyfres 1-2
Geraint Williams Rhys Richards Cyfres 1-2
Arthur Owen Eric Wyn Cyfres 1-4 Tad Gwenda
Richard Howells Grey Evans Cyfres 1-2 Tad Liz Howells
Louise Lynda Brown Cyfres 1
Iola Lloyd Gwyneth Glyn Cyfres 1-4 Merch i Gwenda a Gwyn Lloyd
Annette Thomas Buddyg Povey Cyfres 1-7 Chwaer Carla, gweithiwr yn Ar Lwy
Anwen Parri Mirain Llwyd Owen / Emma Williams Cyfres 1-7 Nyrs, gwraid i Edwin a merch i John Albert a Medwen
Anne Lloyd Valerie Wynne Williams Cyfres 1, 3 Mam Gwyn Lloyd
Medwen Jones Gwen Lazarus Cyfres 1-7 Gwraig John Albert
Peris Jones Stephen Owen Cyfres 1, 3 Brawd John Albert a chyn ŵr Annette
Barbra Morgan Valmai Jones Cyfres 1-7
Olwen Price Bethan Gwilym Cyfres 1 Cyn gariad i Harri
Mari Jones Elin Haf Cyfres 1-3 Merch i John Albert a Medwen
Rhodri Watkins Aled Rhys Davies Cyfres 3 Mab i Luned, gweithiwr yn Ar Lwy
Ben Dafydd Emyr Cyfres 4 Cariad i Gwenda a gweithiwr yn Ar Lwy
Eryl Marged Esli Cyfres 4 Mecanic dros dro yn y garej
Victor Idwal Emyr Morgan Evans Cyfres 1-4
Ceri Gwenno Hodgkins Cyfres 4

Penodau[golygu | golygu cod]

Cyfres 1 (1994-1995)[golygu | golygu cod]

Pennod Disgrifiad
1
2 Mae Gwenda mewn tymer ffiaidd ond beth ydy'r gwir berthynas rhwng Gwyn a Gwenda?
3 Ydy Gwenda yn mynd i ddweud y gwir am ei thad wrth Iola? Mae Richard yn ffraeo gyda'i ferch ynglŷn â'i chariad, Geraint.
4 Mae Edwin yn llwyddo i gael defnyddio uned Harri. Mae Gwenda'n penderfynu mynychu gwersi Gwyn er mawr syndod i bawb.
5 Mae Gwenda'n troi at Gwyn am gymorth ac mae Gwyn yn cyfarfod Iola o'r diwedd.
6 Mae Iola wedi mynd i aros yn nhy ei nain yn erbyn ei hewyllys. Mae John Albert yn chwilio am ffordd o gael gwared o Louise.
7 Mae Arthur yn dod adref o'r ysbyty a Carla yn penderfynu dweud wrth Gwenda ei bod yn cael ei gor-weithio.
8 Mae'r heddlu yn chwilio am Geraint a'r bobl ar y stad wedi'u cyffroi. Ac mae Annette yn corddi'r dyfroedd gyda Gwenda.
9 Mae noson ieir Annette ac mae Louise yn synnu gweld Medwen yn edrych mor dda. Mae Annette a Gwenda yn cweryla.
10 Mae'n ddiwrnod priodas Annette a Peris - beth allai fynd o'i le?
11 Mae Geraint a Liz yn ffraeo; Gwyn yn cael parti a phethau'n mynd yn gymhleth i Gwenda.
12 Mae'r tyndra rhwng Geraint a Liz yn cynyddu wrth i'r ddawns ddod yn nes. Ac mae gan Gwenda gwestiwn anodd i'w ofyn i Carla.
13 Mae Geraint a Gwenda eisiau cael gafael ar Gwyn - ond am resymau gwahanol.
14 Ydy Gwyn a Gwenda'n closio at ei gilydd? A phwy sydd am gynnig llety i Edwin?
15 Mae dathliadau'r Flwyddyn Newydd wedi creu tensiwn rhwng Gwenda ac Iola. Mae Barbra, tenant newydd yn cyrraedd Pengelli.
16 Mae Iola'n mynd i'r gig er mawr siom i'w mam. Mae Carla'n cyfaddef i Annette ei bod hi'n disgwyl.
17 Mae Gwyn a Gwneda yn gorfod wynebu canlyniad goryfed Iola.
18 Diwrnod priodas Harri ac Olwen, ond nid yw Harri yn cyrraedd y swyddfa gofrestru.
19 Mae Carla'n dweud ei chyfrinach wrth John Albert.
20 Mae byd Gwyn ar fin chwalu'n tra bo John Albert yn cael sioc sy'n ei sobri.

Cyfres 2[golygu | golygu cod]

Pennod Disgrifiad
1 Mae Harri'n poeni y bydd yn rhaid iddo ddiswyddo un o'i weithwyr ac mae Gwenda'n dathlu ei phen-blwydd.
2 Mae cystadleuaeth yn tanseilio busnes Ar Lwy; mae Liz yn darganfod dyledion ei thad ac mae Edwin ar fin golli ei swydd.
3 Mae Gwenda'n dal i ddial ar Barbara a'i chyhuddo o danseilio'i busnes.
4 Mae rhagor o drafferthion ym Mhengelli ar ôl i rywun dorri i mewn i swyddfa Barbara. Mae Annette yn colli ei swydd a Gwyn yn mynnu pres gan Gwenda
5 Mae Gwenda'n poeni wrth i'w chyn wr ei bygwth ac mae'n cael ymweliad annisgwyl gan swyddog iechyd.
6 Mae John Albert yn mynd i ocsiwn geir am y tro cyntaf ond mae Harri yn trefnu cydymaith iddo ac yn drysu ei gynlluniau i gwrdd â Carla.
7 Mae Gwenda'n trefnu i bawb ddathlu genedigaeth wyres John Albert ac mae brawd Geraint yn cael ei ryddhau o'r carchar.
8 Mae John Albert yn cael cynnig gwneud mwy o arian ac mae Liz yn helpu Gwyn i ddod o hyd i'r bwrdd gafodd ei ddwyn.
9 Mae John Albert a Carla yn dod â'u carwriaeth i ben. Mae Liz a Gwyn yn llwyddo i ddod o hyd i eiddo gafodd eu dwyn oddi wrth ei fam.
10 Mae'r tensiwn yn codi rhwng Harri a John Albert ond mae John yn benderfynol o barhau â'i garwriaeth.
11 Mae Medwen yn dod i wybod am garwriaeth ei gwr a Carla ac mae hi'n ei daflu allan o'r ty.
12 Mae Medwen yn mynd i weld Carla ac mae Carla yn penderfynu derbyn swydd a gynigiwyd i Annette fel nani yng Nghaerdydd.
13 Mae tenantiaid Pengelli yn dathlu dyweddiad Liz a Geraint, ond nid yw Liz yno
14 Mae Liz yn parhau i fwynhau sylw gan Gwyn Lloyd wrth i'w pherthynas â Geraint ddirywio.
15 Mae Gwenda'n derbyn galwadau ffôn cas di-enw a wnaethpwyd o fusnesau Geraint a Liz.
16 Mae llanast bywyd John Albert yn mynd ar nerfau Edwin ond mae'n dioddef fwy pan mae gwr Janis yn dychwelyd i'w chartref.
17 Mae noson ddadorchuddio plac Ap Menai yn troi'n dipyn o achlysur wrth i Harri berswadio Edwin a John Albert i ymuno ag ef am swper.
18 Mae Arthur ac Annette yn amau doethineb penderfyniad Gwenda i werthu'r busnes.
19 Mae'r heddlu eisiau i Harri gymryd John Albert yn ôl i'w swydd er mwyn eu cynorthwyo nhw i ddal Cledwyn.
20 Mae Edwin yn yr ysbyty ar ôl yr ymosodiad; daw Liz i ddeall gwir gymeriad Gwyn Lloyd ac mae Annette yn flin hefo Gwenda.
21 Mae Cled a dau arall yn ceisio ymosod ar John Albert ac mae Gwyn Lloyd mewn trafferthion ariannol.
22 Mae pethau'n edrych yn ddu iawn i Gwyn Lloyd ac mae Harri yn cynnig ei hen swydd yn ôl i John Albert.
23 Mae trafferthion Gwyn Lloyd yn cyrraedd uchafbwynt ac mae'n ymosod ar Luned, Gwenda a Liz.
24 Mae Gwyn Lloyd yn cyrraedd pen ei dennyn a Liz yn rhannu cyfrinach gyda Gwenda.

Cyfres 3[golygu | golygu cod]

Pennod Disgrifiad
1
2 Mae Pengelli ar werth a Harri'n derbyn cynnig na all ei wrthod. Mae John Albert yn ceisio dyfalu pwy yw cariad Edwin.
3 All John Albert ddim credu ei glustiau wrth glywed mai Anwen ei ferch yw cariad Edwin.
4 Mae Harri'n mynnu bod John Albert yn gadael y tŷ ond mae Medwen yn ei gymryd yn ôl.
5 Syrpreis i Barbara yn ystod ei pharti pen-blwydd. Ond a fydd hi'n fodlon gyda'r dathliadau?
6 Mae Annette yn gosod trap i Rhodri ac mae Harri'n cael cynnig bod yn gynghordydd.
7 Daw Carla yn ôl i gorddi'r dyfroedd ac mae ganddi rywbeth i'w ddweud wrth bawb.
8 Mae Luned yn gadael Pengelli a'r criw yn trefnu parti ffarwel i'w gofio.
9 Mae breuddwydion Carla yn cael eu chwalu ac mae hen ffrind yn dod yn ôl i Bengelli.
10 Mae Gwyn Lloyd yn dechrau ar ei hen driciau tra bo cynlluniau Edwin ac Anwen i briodi yn corddi'r dyfroedd.
11 Daw Gwyn Lloyd wyneb yn wyneb â Gwenda. Mae priodas Anwen ac Edwin yn dangos pawb ar eu gorau - ar wahân i John Albert.
12 Ar drothwy'r diwrnod mawr mae'r paratoadau ar gyfer priodas Anwen ac Edwin yn dechrau mynd yn ormod i bawb.
13 Mae Anwen ac Ediwn yn priodi ond beth yw hanes John Albert?

Cyfres 4[golygu | golygu cod]

Pennod Disgrifiad
1 Mae Anwen ac Edwin yn dechrau bywyd priodasol drwy greu cartref newydd.
2 Mae Gwyn Lloyd yn bihafio'n ofnadwy ac mae Carla'n mynnu ffarwelio â phawb. Ond a fydd hi'n gadael am Awstralia?
3 Mae tynged Gwyn Lloyd yn bwrw ei gysod dros Bengelli.
4 Tra bo Gwenda yn dathlu, daw ymwelydd dieithr i 'Ar Lwy'. Mae'n rhaid i Edwin ac Anwen ddod i benderfyniad.
5 Mae Anwen yn cychwyn ar ei chwrs nyrsio ac mae Annette yn gofyn i Gwenda am fenthyciad ariannol.
6 Mae Iola'n dweud wrth ei mam am funudau olaf Gwyn Lloyd. Mae Edwin yn prynnu car tra mae trafferthion ariannol Harri yn gwaethygu.
7 Mae criw Pengelli yn mynd am drip i Landudno i ddathlu'r ffaith bod Gwenda wedi ennill arian y loteri.
8 Mae oblygiadau'r trip i Landudno yn dal i hofran dros griw Pengelli ond mae storm go iawn ar fin taro'r garej.
9 Mae Gwenda'n darganfod bod Iola'n colli ysgol. Mae John Albert yn cwympo yn y garej ac yn bwrw ei ben.
10 Mae Edwin yn teimlo'r straen o weithio yn y garej ar ei ben ei hun, ond daw mecanig i'w helpu o'r enw Eryl.
11 Mae fideo o Carla yn cyrraedd o Awstralia ac mae Annette yn derbyn newyddion diddorol bod gan Ben blentyn
12 Mae Annette yn trefnu noson allan yn y dafarn lle mae gwraig Ben yn rhoi gwersi dawnsio llinell!
13 Beth fydd oblygiadau'r noson dawnsio llinell a pha ddiolch gaiff John Albert am roi lift i hen wr i'r orsaf?
14 Mae Barbara yn derbyn newyddion da; mae'r neidr yn creu trafferth ac mae Annette yn cyrraedd pen ei thennyn.
15 Mae Gwenda'n penderfynu gwerthu 'Ar Lwy' ac mae Barbara yn derbyn mwy o newyddion da.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]