Pate
Plât o wahanol bates, gyda garnais. | |
Math | past taenadwy, saig |
---|---|
Deunydd | Briwgig, liver as food |
Yn cynnwys | Briwgig, liver as food |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Past a wneir o gig neu bysgod wedi ei falu'n fân, yn aml gyda chynhwysion eraill, yw pate[1] (Ffrangeg: pâté) sydd yn tarddu o goginiaeth Ffrainc. Gwahaniaethir rhwng pâté en terrine, sef gymysgedd wedi ei amlapio mewn braster, megis siwed, a'i goginio mewn llestr hir a dwfn er mwyn ei weini'n oer ar ffurf torth y gellir ei sleisio; a pâté en croûte, a ddodir mewn crwst er mwyn ei weini naill ai yn oer neu'n boeth, yn debyg i bei neu bastai. Yng Ngwledydd Prydain, mae pate fel arfer yn cyfeirio at pâté en terrine.[2]
Gellir cymysgu'r past o gig mâl—cig moch, dofednod, cwningen, cig eidion, neu bysgod—â llysiau, perlysiau, sbeisys, a gwin neu frandi. Gweinir yn aml fel cwrs cyntaf, gyda bara.
Yn Ffrainc, ceir sawl math rhanbarthol ac achlysurol o bate, er enghraifft Pâté de Pâques a fwyteir adeg y Pasg, a pâté de foie gras a wneir o afu gŵydd neu hwyaden.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ pate. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) Pâté. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Tachwedd 2022.