Briwfwyd melys

Oddi ar Wicipedia
Briwfwyd melys
Mathcynhwysyn bwyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Briwfwyd melys cartref mewn powlen. Mae'r rysáit Americanaidd hon yn cynnwys afalau, cig eidion, siwgr, rhesins, siwed, triagl, finegr, a sbeisys.
Teisen friwdda wedi ei thorri'n hanner, gan ddangos y briwfwyd melys tu mewn.

Cymysgedd o ffrwyth sych, cyrens, rhesins, siwgr, afalau, croen candi, sbeisys, a gwêr neu siwed,[1] ac weithiau gwirodydd megis brandi neu rỳm,[2] yw briwfwyd melys[3] neu friwdda melys.[4] Gellir ei gadw fel cyffaith,[2] a gan amlaf caiff ei bobi mewn crwst fel pei.[1]

Heddiw fe'i fwyteir yng Ngwledydd Prydain mewn teisenni briwdda adeg y Nadolig. Yn wreiddiol roedd yn cynnwys cig neu afu wedi malu, a daeth yn boblogaidd i ychwanegu ffrwyth sych a chynhwysion melys eraill. Mae'r cymysgedd modern mewn teisenni briwdda yn cynnwys, gan amlaf, ffrwyth sych, cnau mân ac afalau wedi malu, siwed, sbeisys, a sudd lemwn, finegr neu frandi.[5]

Yr enw Saesneg ar friwfwyd melys yw mincemeat neu sweet mincemeat. Gall mincemeat hefyd gyfeirio at friwgig. Er ei fod yn cynnwys y gair meat, yn anaml iawn mae'r cymysgedd yn cynnwys cig heddiw. Dechreuodd defnyddio gwêr eidion yn lle cig eidion yng nghanol yr 17g, ac erbyn diwedd y 19eg ganrif diflanodd cig o ryseitiau briwfwyd melys yng Ngwledydd Prydain ac yng Ngogledd America.[5] Mae ambell rysáit, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau, yn parhau i ddefnyddio cig.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) mincemeat. Oxford Dictionaries. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Mincemeat recipes. BBC. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
  3. Geiriadur yr Academi, [mincemeat].
  4.  manfriw. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
  5. 5.0 5.1 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 509.
  6. (Saesneg) mincemeat. Merriam-Webster. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: