Teisen friwdda

Oddi ar Wicipedia
Teisen friwdda
Teisen friwdda Americanaidd, sy'n cynnwys briwfwyd o afalau, cig eidion, siwgr, rhesins, siwed, triagl, finegr a sbeisys.

Pei fechan sy'n cynnwys briwfwyd melys yw teisen friwdda,[1][2] cacen friwdda,[1][2] tarten Nadolig,[1] pastai Nadolig,[1] mins-pei,[1][2] neu mins-peien.[1] Fe'u bwyteir yng Ngwledydd Prydain adeg y Nadolig. Mae'r cymysgedd modern mewn teisenni briwdda yn cynnwys, gan amlaf, ffrwyth sych, cnau mân ac afalau wedi malu, siwed, sbeisys, a sudd lemwn, finegr neu frandi.[3] Daw "mins-pei" o'r enw Saesneg mince pie,[2] sy'n cyfeirio at yr enw Saesneg am friwfwyd melys, mincemeat. Er ei fod yn cynnwys y gair meat, yn anaml iawn mae'r cymysgedd yn cynnwys cig heddiw.[3]

Mins peis cartre.

Y math cynharaf o'r deisen friwdda yn yr Oesoedd Canol oedd crwst bach a elwir yn chewette. Roedd yn cynnwys cig neu afu wedi malu, neu bysgod ar ddyddiau ympryd, a wedi ei gymysgu ag ŵy wedi ei ferwi'n galed a sinsir. Cafodd y crwst ei bobi neu ei ffrio. Daeth yn boblogaidd i ychwanegu ffrwyth sych a chynhwysion melys eraill.[3]

Erbyn yr 16g roedd y minced pie neu'r shed pie yn ddanteithfwyd Nadoligaidd. Dechreuodd defnyddio gwêr eidion yn lle cig eidion yng nghanol yr 17g, ac erbyn diwedd y 19g diflanodd cig o ryseitiau briwfwyd melys yng Ngwledydd Prydain ac yng Ngogledd America.[3]

Weithiau ceir teisenni friwdda yng Ngogledd America, ac yma mae wedi troi'n bei fawr ar gyfer nifer o bobl.[3] Mae rhai ryseitiau Americanaidd yn parhau i gynnwys cig.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Geiriadur yr Academi, [mince: mince pie].
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3  mins-pei. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Rhagfyr 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Davidson, Alan. The Oxford Companion to Food (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2006), t. 509.
  4. (Saesneg) mincemeat. Merriam-Webster. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2014.