Owen Wynne Jones (Glasynys)
Owen Wynne Jones | |
---|---|
Owen Wynne Jones (Delwedd o Gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) | |
Ffugenw | Glasynys |
Ganwyd | 4 Mawrth 1828 Caernarfon |
Bu farw | 4 Ebrill 1870 Tywyn |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl |
Bardd ac awdur oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870). Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan, plwyf Llanwnda, ger Caernarfon yn un o bum plentyn. Dechreuodd ei yrfa fel chwarelwr yn 10 oed ond yn ddiweddarach daeth yn athro ysgol yng Nghlynnog, Llanfachreth a Beddgelert. Ar ôl hynny cafodd ei urddo'n ddiacon a gwasanaethodd fel curad yn Llangristiolus a Llanfaethlu ym Môn gan orffen ei yrfa yn y De yn gurad Pontlotyn, Morgannwg. Bu farw yn Nhywyn, Meirionnydd.[1]
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd nifer o lyfrau poblogaidd, yn cynnwys sawl casgliad o gerddi. Ceir ei waith orau yn ei ryddiaith sy'n cofnodi chwedlau llên gwerin ac arferion cefn gwlad Cymru; cyhoeddodd y rhain dan y ffugenw Salmon Llwyd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Fy Oriau Hamddenol (1854)
- Lleucu Llwyd (1858)
- Yr Wyddfa (1877)
- Dafydd Llwyd (1857)
- Dafydd Gruffydd, pa beth wyt ti yn ei feddwl o'r Ddwy Fil a'r dydd hwnnw? (1894)
- Straeon Glasynys (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1943), golygwyd gan Saunders Lewis.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ papuraunewydd.llyfrgell.cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru;[dolen farw] adalwyd 4 Ebrill 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Y Bywgraffiadur Arlein
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: