Neidio i'r cynnwys

Noëlle Ffrench Davies

Oddi ar Wicipedia
Noëlle Ffrench Davies
GanwydNoëlle Ffrench Edit this on Wikidata
25 Rhagfyr 1899 Edit this on Wikidata
Mun Talbóid Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1983 Edit this on Wikidata
Mun Talbóid Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweithredydd gwleidyddol, ysgrifennwr, darlithydd, bardd Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata
PriodDavid James Davies Edit this on Wikidata

Roedd Noëlle Ffrench, yn hwyrach, wedi priodi, Noëlle Ffrench Davies (25 Rhagfyr 1889 - 14 Chwefror 1983) yn Wyddeles o fardd, economegydd, llenor, addysgydd ac ymgyrchydd gwleidyddol.[1] Magwyd hi ar Ddiwrnod Nadolig, gan esbonio eu henw, ar fferm gyfoethog Bushy Park ger Mount Talbot, Swydd Roscommon,[2] Iwerddon gan ymsefydlodd yng Nghymru yn 1925 a chwarae ran bwysig yn natblygiad dadleuon economaidd cenedlaetholdeb Cymreig. Roedd yn briod â'r economegydd, a'r dealluswr gwleidyddol Gymreig, David James Davies (D.J. Davies, er mai "Dai" y byddai hi'n ei alw) a wnaeth lawer i dorri cwys asgell chwith i bolisiau ac ymgyrchu Plaid Cymru yn yr 1930-50au. Ymgeisiodd hefyd i sefydlu Ysgol Uwchradd Werin (ar ffurf un N.F.S. Grundtvig yn Nenmarc) yn yr Iwerddon a Chymru a dylanwadwyd yn fawr ganddi gan y Daniad.[3]

Mewn erthygl ar wefan the Irish Women's Writing (1880-1920) Network, disgrifia'r awdur, Dr Deidre Flynn, Noëlle fel a ganlyn; "... this ‘Irish university woman’ who became atypical through her transnationalism. Her pioneering work on the theory and practice of education is the direct result of personal experiences as an ecumenical, nationalist, Protestant, woman teacher challenged by the hegemony of denominational schooling in the Irish Free State."[4]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Ganed Noëlle i gefndir ffermio cyfoethog yn Swydd Roscommon, roedd ei thâd yn hannu o Swydd Galway a siaradai Gwyddeleg ond roedd yn Unoliaethwr tra bod ei mam yn Gatholig a mwy chenedlaethol Wyddelig ei golwg. Gallai fod wedi dewis bywyd hamddenol on roedd ganddi uchelgais: i ddysgu am system Ysgol Uwchradd Werin Denmarc ac i sefydlu un debyg yn Iwerddon.[5] Astudiodd a phrswyliodd yn yr Ysgol Ffrangeg yn Bré (Bray), Swydd Wicklow o 1914 i 1918, yna mynychodd Goleg y Drindod, Dulyn, gan raddio gyda gradd gyntaf ddwywaith yn y Clasuron ac Ieithoedd Modern yn 1922. Roedd yn adnabod Michael Collins yr arweinydd gweriniaethol enwog.[2]

Ysgol y Werin

[golygu | golygu cod]

Ym mis Ionawr 1924, ddechreuodd swydd fel darlithydd yng Ngholeg Rhyngwladol y Bobl yn Elsinore yn Nenmarc. Yno y bu iddi gwrdd â D.J. Davies, Cymro o Rydaman bu'n löwr, yna dyn busnes yn yr Unol Daleithiau, yna'n llongwr gyda Llynges yr Unol Daleithiau cyn dychwelyd i Gymru yn 1918 gan weithio dan ddaear yn Llandybïe lle cafodd ddamwain. Dros ei gyfnod yn gwella, addysgodd ei hun a sefydlu'r Blaid Lafur yn Rhydaman cyn teithio yn 1924 i astudio yn y Coleg Ryngwladol yn Nenmarc. Dychwelodd hi a Dai (fel galwodd hi DJ Davies) i Ddulyn yn 1924 gyda'r bwriad o sefydlu Ysgol Werin yno. Yn anffodus bu i'r Eglwys Gatholig greu rhwystrau a ni lwyddwyd yn y fenter.[4] Yn 1931 cyhoeddodd lyfr ar ei harwr, N. F. S. Grundtvig (1783-1872), Education for Life.[1]

Ym Mai 1925, gyda'n amlwg nad oedd dyfodol i'r fenter addysgol, symudodd Noëlle a DJ Davies i Gymru. Bu hi'n gweithiodd yno dros y deng mlynedd ar hugain nesaf fel addysgwr, darlithydd, ac awdur. Roedd rhai o’i phrosiectau niferus yn cynnwys cydweithio â’i gŵr, i lunio polisi economaidd ar gyfer y Blaid Genedlaethol Gymru (a enwyd yn Blaid Cymru yn hwyrach) a oedd newydd ei sefydlu. Cafodd amser hefyd i deithio i Ffrainc, Gwlad Belg a'r Almaen. Yn yr 1930au ceisiodd Noëlle a DJ unwaith eto i sefydlu Ysgol y Werin, y tro yma ym mhentref Gilwern (ym Mlaenau Gwent bellach) ond methiant bu hwnnw hefyd.

Ym 1931, roedden nhw wedi symud i blasty mawr o'r enw Pantybeiliau, sydd wedi'i leoli'n hyfryd rhwng Brynmawr a anrheithiwyd gan y Dirwasgiad Mawr a phentref Gilwern yng nghwm Wysg. Yno, gyda Dr Ceinwen Thomas fel eu cynorthwyydd, roedden nhw’n bwriadu sefydlu Ysgol Uwchradd y Werin Gymreig ar gyfer dynion a merched ifanc di-waith ar fodel Denmarc. Roedd y cwricwlwm yn cynnwys hanes a llenyddiaeth y byd yn ogystal â bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru, yn gysylltiedig â theithiau cerdded gwledig, chwaraeon a chrefftau o wahanol fathau. Roedd cymorth diweithdra parhaus y llywodraeth i'r myfyrwyr yn hanfodol i hyfywedd ariannol y prosiect. Bu cryn ddathlu pan gadarnhawyd hynny yn 1934 a chymeradwywyd tymor cyntaf yr ysgol fel llwyddiant addawol. Gwaetha’r modd, buan iawn y dilëwyd cefnogaeth y Weinyddiaeth Lafur i fyfyrwyr a bu’n rhaid i DJ a Noëlle roi’r gorau i’w prosiect uchelgeisiol Ysgol Uwchradd Werin Cymru ym 1935. Mae’n rhaid ei fod wedi bod yn siom bersonol aruthrol iddynt. Yn sicr fe ysbeiliwyd Cymru o ymadawiad cyffrous o’n system addysg hir a ddominyddwyd gan Loegr a’r ymerodraeth.[6]

Amlochrog

[golygu | golygu cod]

Gallai Noëlle siarad ac ysgrifennu mewn o leiaf bum iaith ac roedd ei hysgrifau cyhoeddedig yn cwmpasu ystod eang o bynciau gan gynnwys addysg, hanes, materion ar ôl y rhyfel a materion gwleidyddol ac economaidd Cymreig. Roedd hi hefyd yn fardd. Er iddi ysgrifennu'n helaeth, dim ond un casgliad llawn o'i cherddi, Middle Country (1936), a gyhoeddwyd ganddi erioed.[5]

Roedd ei chenedlaetholdeb Gwyddelig yn treiddio i’w hysgrifau gwleidyddol ei hun ar hyd themâu eang rhyddid cenhedloedd bychain yn erbyn hegemoni ymerodrol, trefn ryngwladol, arwyr cenedlaethol ac asio dulliau gwleidyddol, llenyddol a moesegol - cyhoedodd lyfrau Grundtvig of Denmark (1944) a (1945), a Connolly of Ireland (1946) Ysgrifennodd farddoniaeth ramantus a ‘gwladaidd’ o oedran ifanc. Ymddangosodd llawer o'i gweithiau heb eu cyhoeddi, gan gynnwys beirniadaeth lenyddol, mewn cylchgronau ar draws Prydain Fawr ac Iwerddon yn cynnwys Voices in the Wind (Llundain), a Focus: A Monthly Review (Dulyn). Ymddangosodd ei chasgliad cyntaf yng nghanol y 1930au gyda mwy o weithiau'n cael eu cyhoeddi'n ddiweddarach gan y Blaid Cymru fel rhan o'i hymwneud â'r ysgol newydd o ysgrifennu Eingl-Gymreig. Fe wnaeth dychwelyd i Iwerddon ar ôl marwolaeth Dai ddwysáu ei gweithgarwch llenyddol. Nid yw hi wedi'i chynnwys yn y blodeugerddi safonol o awduron benywaidd Gwyddelig.

Roedd ei meddwl treiddgar a gafael ar economeg yn gyfraniad gwerthfawr iawn wrth iddi hi a'i gŵr, Dai, yn bennaeth ymchwil Plaid Cymru, baratoi papurau polisi. Dywed Syd Morgan amanni, "Trwy eu hymchwil yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, dan arweiniad Saunders Lewis, lluniasant [Noëlle a Dai] bolisïau economaidd y Blaid gan ehangu ei hathroniaeth yn ogystal. Mae canmoliaeth Lewis i'r ddau ohonynt mewn llythyr yn 1931 yn ddisgrifiad addas o Noëlle: 'You are creating a new and richer nationalism in Wales, a new Welsh mind, which is not narrowly literary and one-sided, but is fully humanistic and in close touch with reality.' Arwydd o barch Lewis tuag ati yw'r ffaith iddo gael ei enwebu ganddi - ynghyd â'r Athro T. H. Parry-Williams - yn ei ymgais am sedd Prifysgol Cymru mewn etholiad seneddol yn 1931."[1]

Dychwelyd i'r Iwerddon

[golygu | golygu cod]

Gyda marwolaeth Dai yn 1956 dychwelodd Noëlle i'r Iwerddon gan fyw yn nhref Greystones, Swydd Wicklow. Yn ôl yn Nulyn, daliodd ati i roi ei hegwyddorion ar waith fel aelod sefydlu o'r Gynghrair Geltaidd (1961), Mudiad Gwrth-Apartheid Iwerddon (1964) a mudiadau dinesig blaengar eraill. Roedd Noëlle o hyd yn awyddus i hyrwyddo addysg genedlaethol, ac yn 1957 bu'n weithgar gyda Daon-scoil na hEireann ac ariannodd ysgoloriaethau yn y 1960au a'r 1970au i alluogi aelodau ifainc o Blaid Cymru i fynychu cyrsiau haf yng nghenhedloedd bychain Ewrop[1] Roedd ei chwaer, Rosamund, wedi cymryd rheolaeth o'r ffarm wedi marwolaeth eu tâd ond, gyda marwolaeth Rosamund yn 1965 symudodd Noëlle i Bushypark yn yr 1970au lle bu iddi farw ar 14 Chwefror 1983.[2]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddiadau yn eu henw ei hun

[golygu | golygu cod]
  • Education for Life, A Danish Pioneer (1936)
  • Middle Country cerddi Noëlle Ffrench Davies (1936)
  • Grundtvig of Denmark (1944) cyhoeddiad Plaid Cymru
  • Connolly of Ireland: Patriot & Socialist (1946)
  • Pencader Poems (gol. detholiad o gerddi ar gyfer Plaid Cymru) (1952)[3]
  • DJD: Some Memories of Our Life Together - hunangofiant nas cyhoeddwyd, ceir copi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Defnyddia hi'r term Ffrangeg, mémoire, gyda'r acen ddyrchafedig i ddangos eu gallu yn yr iaith hwnnw.

Cyhoeddiadau ar y cyd â D.J. Davies

[golygu | golygu cod]

Cydnabu DJ Davies mewn llythyr at Saunders Lewis ym Mehefin 1931 (llawysgrif NLW Ref.99/36.) bod Noëlle yn gallu darlithio ar Economeg a bron unrhyw bwnc arall, os oes angen, ac roeddynt ill dau [Dai a Noëlle] yn astudio gyda'n gilydd.[4] Gellid tybio bod nifer o'r cyhoeddiadau isod, er yn enw D.J. wedi i raddau helaeth iawn fod yn gyd-awduriad gyda Noëlle.

  • The Economics of Welsh Self-Government (1931)
  • The Economy of South Wales Before 1800 (1933)
  • Deddf Uno 1536 (nd) Ambrose Bebb (gol.)
  • Monmouthshire: The Case for Wales (1938) (gol. Dafydd Jenkins)
  • Wales, Land of Our Children? (1941)
  • Diwydiant a Masnach (1945),
  • Memorandum: Welsh Coal Industry (nd) (gyda HP Richards)
  • The Welsh Coal Industry (1948) (gyda HP Richards)
  • Towards An Economic Democracy (1949)

Archif

[golygu | golygu cod]

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys llawer iawn o bapurau a dogfennau a ysgrifennwyd gan Noelle rhwng 1926 a 1979 ac mae pedwar ar bymtheg o focsys o ddeunydd ar gael i'w gweld yn y llyfrgell. Ysgrifennai hi yn Saesneg, Cymraeg a Gwyddeleg. Rhoddwyd y deunydd mewn tri grŵp: Yr Athro A. O. H. Jarman, Caerdydd, ym mis Tachwedd 1983; gan Helga Mullins o Bushy Park ym mis Mawrth 1987; a chan Dr Ceinwen Thomas, Caerdydd.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Morgan, Syd (2021-03-22). "Noëlle Ffrench Davies". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 25 Gorffennaf 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Dr Noelle Davies of Bushypark House". Tudalen Facebook The Landed Estates of County Roscommon. 22 Awst 2018. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2024.
  3. 3.0 3.1 Allchin, A.M. (1992), N.F.S. Grundtvig and Nationalism in Wales, https://tidsskrift.dk/grs/article/view/16074, adalwyd 26 Gorffennaf 2024
  4. 4.0 4.1 4.2 Flynn, Dr Deirdre (14 Awst 2018). "NOÊLLE FFRENCH DAVIES: A TRANSNATIONAL IRISH POLYMATH". Irish Women's Writing (1880-1920) Network.
  5. 5.0 5.1 Flynn, Dr Deirdre (3 Mehefin 2021). "From Bushy Mill to Elisnore: Noëlle Ffrench Davies". Irish Women's Writing (1880-1920) Network.
  6. Davies, D. Hywel (3 Mawrth 2017). "DJ and Noëlle: Shaping the Blaid". Gwefan Hanes Plaid Cymru History -trawsgrifiad Saesneg o ddarlith Gymraeg a draddodwyd yng Nghynhadledd Wanwyn.
Baner Republic of IrelandEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Wyddel neu Wyddeles. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.