Ness Edwards

Oddi ar Wicipedia
Ness Edwards
Ganwyd5 Ebrill 1897 Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 1968 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata

Roedd Onesimus (Ness) Edwards (5 Ebrill 18973 Mai 1968) yn Undebwr Llafur ac yn Aelod Seneddol Llafur Caerffili o 1939 i 1968[1][2]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Edwards yn Abertyleri yn fab i Onesimus Edwards, glöwr, ac Ellenor (née Thomas) ei wraig. Mae cyfrifiad 1911 yn dangos bod y ddau riant yn siaradwyr Cymraeg ond eu bod wedi magu eu plant i siarad Saesneg yn unig.[3]

Ym 1925 priododd Elina Victoria Williams merch Richard Williams, beili llys, bu iddynt dau fab a thair merch. Un o'i ferched yw Llinos (Llin) Golding cyn AS Llafur Newcastle-under-Lyme a bellach y Farwnes Golding.

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Yn 13 mlwydd oed cyflogwyd Edwards i weithio ym mhwll glo Vivian Abertyleri cyn symud i weithio i lofa rhif 4 Arrael Griffin yn y Chwe Chloch[4].

Yn 16eg oed ymunodd a'r Blaid Lafur Annibynnol ac yn 18oed cafodd ei ethol yn gadeirydd ei gangen leol o Gyfrinfa'r Glowyr. Bu'n gweithio fel glöwr cyffredin hyd 1917, pan darddodd y Rhyfel Byd Cyntaf ar ei yrfa.

Gwrthwynebydd cydwybodol[golygu | golygu cod]

Oherwydd ei fagwraeth fel Bedyddiwr a dylanwad yr ILP, pan gychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Edwards a'r No Conscription Fellowship mudiad a oedd yn gwrthwynebu'r cysyniad o orfodaeth filwrol cyn ei gyflwyno ac yn rhoi cefnogaeth i wrthwynebwyr cydwybodol ar ôl ei gyflwyno. O dderbyn papurau cofrestru, gwrthododd Edwards ymuno a'r fyddin fel ymwrthodwr llwyr, h.y. un oedd yn gwrthod ymrestru ac yn gwrthod gwneud unrhyw beth arall i gefnogi achos y rhyfel megis gweithio er mwyn rhyddhau dyn arall i fynd i'r rhyfel neu weithio mewn rôl anfilwrol o fewn y fyddin megis cynorthwydd meddygol.

Cafodd ei orfodi i gofrestru a'i danfon i Barics Aberhonddu lle cafodd ei guro, ac wedi gwrthod gwisgo gwisg filwrol ei ymlid o amgylch y barics yn noethlymun gan filwyr efo bidogau (bayonets) ar eu gynnau. Wedi hynny cafodd ei ddedfrydu i garchar gan wario cyfnod dan glo yn Dartmoor a Wormwood Scrubs.[5]

Wedi ei ryddhau o'r carchar parhaodd a'i brotest yn erbyn y rhyfel gan gael ei ddirywio £2 gyda £1/1/0 o gostau am darfu ar yr heddwch trwy ganu Y Faner Goch mewn cyfarfod recriwtio.[6]

Undebwr Llafur[golygu | golygu cod]

Wedi'r Rhyfel enillodd Edwards ysgoloriaeth i'r Coleg Llafur Canolog, lle fu'n cyd efrydydd ag Aneurin Bevan a Jim Griffiths. Wedi dwy flynedd yn y coleg dychwelodd adref i Abertyleri gan fethu canfod gwaith yn ôl yn y pyllau oherwydd ei fod wedi ei flaclistio gan y perchnogion. Bu'n ddi-waith am ddwy flynedd cyn cael cynnig swydd yn ôl ym mhwll Arrael Griffin gan gael ei ethol yn aelod o bwyllgor y gyfrinfa leol a chael ei ethol yn gadeirydd am ei ail dymor ym 1925.

Ym 1927 cafodd swydd fel ysgrifennydd cyflogedig cyfrinfa Penalltau ac ym 1932 fe'i cyflogwyd fel asiant glowyr Dwyrain Morgannwg. Ym 1932 fe'i etholwyd yn gynrychiolydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar bwyllgor gwaith Ffederasiwn Glowyr Prydain.

Wrth i Hitler goresgyn Sudetenland, rhan o Tsiecoslofacia oedd a chanran uchel o Almaenwyr yn byw ynddi, bu Ness Edwards yn gyfrifol am gynorthwyo nifer o lowyr, nad oeddynt o dras Almaenaidd i ffoi rhag gormes y Natsïaid yn y rhanbarth. Ar ddiwedd y Rhyfel bu Edwards yn cynrychioli glowyr Prydain mewn gwasanaeth coffa i drigolion pentref glofaol Lidice, lle ddienyddwyd yr holl drigolion gan y Natsïaid.

Aelod Seneddol[golygu | golygu cod]

Ym 1929 etholwyd Edwards i Gyngor Trefol Gelligaer, ar farwolaeth Morgan Jones AS Caerffili ym 1939 dewiswyd ef fel yr ymgeisydd Llafur yn yr isetholiad canlynol gan gadw'r sedd i'w blaid gyda mwyafrif mawr a gan dal y sedd hyd ei farwolaeth.

Ym 1942 daeth yn ysgrifennydd grŵp glowyr y Senedd gan gyfrannu'n aml i ddadleuon yn ymwneud a'r diwydiant megis defnyddio'r "Bevin Boys" yn y pyllau, recriwtio glowyr a'r angen i wladoli'r pyllau. Pan ddaeth Llafur i rym ym 1945 penodwyd Edwards yn Ysgrifennydd Seneddol i'r Gweinidog dros Gwaith a Gwasanaeth Cyhoeddus, gan orfod ymwneud a'r dasg anodd o gael yr holl gyn-filwyr yn ôl i'r gweithle. Ym 1947 fe 'i dyrchafwyd i'r Cyfrin Gyngor. Yn Llywodraeth Lafur 1950 i 1951 bu'n gwasanaethu fel y Postfeistr Cyffredinol (Y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am y gwasanaethau post, y gwasanaeth ffôn a darlledu), ac wedi cwymp y Llywodraeth Lafur bu'n Bostfeistr Cyffredinol cysgodol. Fel llefarydd yr wrthblaid ar ddarlledu bu'n hynod feirniadol o'r syniad o gyflwyno teledu masnachol annibynnol i Wledydd Prydain.

Ymddiswyddodd o'r meinciau blaen ym 1960 o herwydd anghytundeb efo'r arweinydd, Hugh Gaitskell ar bolisi amddiffyn a'r ffordd roedd y blaid yn symud oddi wrth ei egwyddorion craidd o dan yr arweinyddiaeth.

Roedd Edwards yn siarad yn gryf yn erbyn yr Ymgyrch Senedd i Gymru a'r alwad am ddatganoli i Gymru ac roedd yn llugoer tuag at yr iaith Gymraeg. Cafodd ei feirniadu'n hallt am wneud araith Saesneg o lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Caerffili 1950

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw o fethiant gorlenwad y galon yn Ysbyty Glowyr, Caerffili yn 70 mlwydd oed.

Troednodyn: Yr enw Onesimus[golygu | golygu cod]

Mae Onesimus yn enw Beiblaidd, sy'n golygu "defnyddiol" mae'n enw anghyfarwydd bellach ond yr oedd yn weddol boblogaidd yn y 1830au pan anwyd Onesimus Edwards, taid Ness Edwards, tua 1834, yng nghanol yr ymgyrch yn erbyn caethwasianaeth yn y DU. Roedd yr Onesimus Beiblaidd yn gaethwas a ffôdd rhag caethwasanaeth i Philemon. Yn Epistol Paul i Philemon, yn y Testament Newydd, mae'r Apostol Paul yn erfyn ar ei ran. Daeth Onesimus yn swynogl i wrthwynebwyr caethwasanaeth y 1830au, sy'n awgrymu (heb brofi) bod hen daid Ness Edwards - William Edwards, ganwyd tua 1801 hefyd yn coleddu barn radicalaidd ei gyfnod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur EDWARDS , NESS ( 1897 - 1968 ) [1] adalwyd 11 Ionawr 2016
  2. Ben Curtis, ‘Edwards, Onesimus [Ness] (1897–1968)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, May 2011 adalwyd 11 Ionawr 2016
  3. Archif Genedlaethol y DU, Cyfrifiad Cymru & Lloegr 1911 RG14/31837; Rhif 273 Top House Grosvenor Rd Abertillery
  4. Mr Ness Edwards Times [London, England] 4 May 1968: 7. The Times Digital Archive. Web. 10 Ion. 2016. [2]
  5. Kenneth O. Morgan; Gwasg Prifysgol Cymru 2014; T162: Revolution to Devolution EAN: 9781783160877
  6. "RedFlag! - Pioneer". s.t. 1918-06-22. Cyrchwyd 2016-01-11.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Morgan Jones
Aelod Seneddol Caerffili
19391968
Olynydd:
Fred Evans