Mynyddfor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mynydd Mawr
Eryri
Mynydd Mawr a Llyn Cwellyn o'r dwyrain
Llun Mynydd Mawr a Llyn Cwellyn o'r dwyrain
Uchder 698m / 2,290 troedfedd
Lleoliad Gwynedd
Gwlad Cymru

Am y parc coetir yn Sir Gaerfyrddin, gweler Parc Coetir y Mynydd Mawr. Gweler hefyd Mynydd Mawr (y Berwyn).

Mynyddfor yw prif enw un o'r mynyddoedd yng Nghwmwd Uwchgwyrfai yn Eryri, Gwynedd. Ei uchder uwchben y môr yw 698 o fedrau. Fe'i hadnabyddir hefyd yn y Gymraeg fel Mynydd Mawr, Mynydd y Grug a Mynydd yr Eliffant. Lleoliad ei gopa yw cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans SH540547. Saif Mynyddfor gerllaw Llyn Cwellyn, gyda'r Wyddfa ychydig i'r dwyrain, yr ochr arall i briffordd yr A4085. I'r gorllewin iddo mae Moel Tryfan a Dyffryn Nantlle. Y pentrefi agosaf ato yw Betws Garmon a Rhyd-Ddu. Gelwir Mynyddfor yn "Mynydd yr Eliffant" yn lleol, oherwydd tebygrwydd tybiedig i siâp Eliffant yn gorwedd. Er mai llechweddau grugiog yw'r rhan fwyaf o'r mynydd, mae creigiau Craig y Bera ar ei ochr ddeheuol a Chraig Cwmbychan ar ei ochr ogleddol.

Gellir ei ddringo trwy ddilyn llwybr sy'n cychwyn ger fferm Planwydd, ger ochr Rhyd-Ddu o Lyn Cwellyn. Mae hefyd fodd ei ddringo o lwybr sy'n dechrau gerllaw Rhyd-Ddu ei hun. Mae llwybr hwylus hefyd o bentre'r Fron. Ceir golygfeydd nodedig iawn o Ddyffryn Nantlle a'r Wyddfa o'r copa.

Daeareg[golygu | golygu cod y dudalen]

Cnewyllyn hen losgfynydd yw Mynyddfor, o natur rheioleit asidig.

Llysdyfiant[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd ei natur asidig, mathau o rug a llus sydd yn tyfu arno fwyaf.

Yr enwau eraill[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae nifer o enwau a ffurfiau ar yr enw y gellir eu dosbarthu yn fras yn ôl cronoleg tybiedig eu defnydd. "M'nyddfor" oedd enw trigolion Waunfawr ar y mynydd, sef talfyriad o "Mynyddfor". Yn gam neu'n gymwys mae hwn bellach wedi ei ddisodli ar fapiau'r Arolwg Ordnans fel Mynydd Mawr. Adwaenir y mynydd o ochr Dyffryn Nantlle fel Mynydd y Grug yn unig.

Tua diwedd y 19g. dechreuodd rhai weld (o ddilyn canfyddiad George Borrow isod, mae'n debyg) ffurf eliffant ar y mynydd ac fe'i ail fedyddwyd yn Saesneg fel Elephant Mountain ac yn Gymraeg fel Mynydd yr Eliffant neu 'Reliffant.

Mae enwau penodol ar sawl rhan o Fynyddfor, gan gynnwys Craig y Bere, Cwm Bychan, Castell Cidwm, Cwm Planwydd.

Llên a Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r canlynol wedi ei godi, gyda chaniatad, o lythyr personol[1] gan y Dr J Prys Morgan Jones (o hen deulu brodorion Y Waunfawr) at DB (awdur y bennod), ac a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ym Mwletin Llên Natur rhifyn 45-46 (Tachwedd 2011)[1]:

"...yn ymddangos fel horwth o eliffant a'i drwnc yn sipian o ddŵr Llyn Cwellyn. Yr Eliffant yw'r enw cyffredin a roddir arno, ond ar fapiau Arolwg Ordnans (SH 539 546)ceir Mynydd Mawr fel enw mwy syber a swyddogol. Serch hynny Mynyddfawr ac nid Mynydd Mawr yw'r enw parchus a roddir arno'n lleol – neu o leiaf dyna'r enw a arferid gynt gan drigolion yr ardal, mae dylanwad yr hyn a welir ar fapiau swyddogol yn gryf ar yr hyn sy'n cael ei ddweud. Pa dystiolaeth heblaw mympwy bersonol a allaf ei gynnig dros Mynyddfawr? Arferai fy nhad a anwyd ac a fagwyd yn y Waun-fawr gyfeirio at y mynydd fel Mynyddfawr (a'i ynganu M'nyddfawr, gyda'r acen ar yr -ydd-). Un arall a fagwyd yn y Waun ddechrau'r ugeinfed ganrif oedd yr athronydd a'r ysgolhaig Hywel D Lewis; yng nghanol y chwedegau bu'n traddodi Darlithoedd Gifford ar Freedom and Alienation, ac yn ei ragymadrodd mae'n sôn am ei fachgendod yn yr ardal:
"Moel Eilian had spewed up at some time from the volcanic depths of what is now the very deep Cwellyn Lake and from the vast crater in the side of the other mountain, Mynyddfawr — Elephant Mountain for us."

Yn ei hunangofiant Y Lôn Wen (1960) mae Kate Roberts yn sgrifennu:

"Ar lechwedd bryniau Moeltryfan a Moel Smatho* y gorwedd yr ardal, a thu hwnt i'r ddau fryn yma y mae Mynyddfawr (ynganer fel un gair a'r acen ar y sill olaf ond un), yr eliffant hwnnw o fynydd"[2].

[*Moel Smytho ar y mapiau – enw arall i'w drafod efallai.]

Dywed JPMJ iddo weld o leiaf dair enghraifft yn ysgrifau T. H. Parry-Williams:

"..a diffwys cwterog Mynyddfawr yn anesgor o sefydlog"[3]
"yr olwg ehangfawr a geir dros wyneb y llyn ar lechweddy Planwydd a moel y Mynyddfawr a chlogwyn Castell Cidwm yr ochr draw." [4]
"...neu Ddrws-y-coed-gwaith, fel y byddem ni'n galw'r pentref sydd rhwng troed y Garn a sodlau'r Mynyddfawr" [5]


Mae Alun Llywelyn-Williams yn ei lyfr Crwydro Arfon (1959) yntau yn sgrifennu:

"...a Chraig y Bera a'r Mynyddfawr ar y llaw arall" .

I fwydro a chymhlethu rhagor ar y mater mae George Borrow yn ei lyfr Wild Wales (1862), wrth sôn am ei daith o Gaernarfon i 'Beth Gelert', yn dweud:

a noble hill called Mount Eilio appeared before me to the north; an immense mountain called Pen Drws Coed layover against it on the south, just like a couchant elephant

ac wedyn:

"...and Pen Drws Coed. The latter, that couchant elephant with its head turned to the north-east, seems as if it wished to bar the pass with its trunk" .

Fe â JPMJ ymhellach i drafod manylder a chywirdeb daearyddol a gramadegol yr enwau swyddogol:

Mae'r cyd-destun yn dangos mai Mynyddfawr yw Pen Drws Coed yn hytrach na Mynydd Drws y Coed sydd ymhellach i'r de ar Grib Nantlle; wn i ddim a oes ffynonellau eraill yn defnyddio'r enw yma ar y mynydd, ond ni chlywais i erioed neb yn gwneud hynny. Felly ymddengys yn ddigon clir i mi mai Mynyddfawr ac nid Mynydd Mawr a ddylai fod ar y mapiau, a dichon mai rhyw orgywiro gan rywun oedd sgrifennu Mynydd Mawr. Clywir ambell un yn dadlau mai enw gwrywaidd yw mynydd ac felly na ddylid treiglo'r ansoddair ar ei ôl. Mae'r gair mynyddfawr yng [[Geiriadur Prifysgol Cymru|Ngeiriadur Prifysgol Cymru] fel ansoddair gyda'r diffiniad 'Enfawr fel mynydd'. Pan yw ansoddeiriau cyfansawdd yn cael eu ffurfio o enw +ansoddair fe dreiglir yr ail elfen yn feddal, boed yr enw yn wrywaidd neu yn fenywaidd (e.e. penboeth, coesgoch), a gellir defnyddio ansoddeiriau felly fel enwau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. JPM Jones (2011) llythyr personol
  2. Kate Roberts Y Lôn Wen
  3. 'Drws-y-Coed' yn Synfyfyrion (1937)
  4. 'Y Tri Llyn' yn O'r Pedwar Gwynt (1944)
  5. 'Aur Drws-y-Coed' yn Pensynnu (1966)