Mary Warnock

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mary Warnock
Ganwyd Helen Mary Wilson Edit this on Wikidata
14 Ebrill 1924 Edit this on Wikidata
Caerwynt Edit this on Wikidata
Bu farw 20 Mawrth 2019, 19 Mawrth 2019 Edit this on Wikidata (94 oed)
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Alma mater
Galwedigaeth athronydd, ysgrifennwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Tad Archibald Edward Wilson Edit this on Wikidata
Mam Ethel Mary Schuster Edit this on Wikidata
Priod Geoffrey Warnock, Geoffrey Warnock Edit this on Wikidata
Plant Kathleen Warnock, Felix Geoffrey Warnock, James Marcus Alexander Warnock, Stephana Warnock, Grizell Maria Warnock Edit this on Wikidata
Gwobr/au Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, Medal Albert, Cymrawd yr Academi Brydeinig, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol, Urdd Cymdeithion Anrhydedd Edit this on Wikidata

Athronydd o Loegr oedd Mary Warnock, y Farwnes Warnock (14 Ebrill 192420 Mawrth 2019)[1] sy'n nodedig am ei gwaith ym moeseg, y meddwl, ac addysg, yn ogystal â dirfodaeth.

Mae'n fwyaf adnabyddus am adroddiad pwyllgor ymchwil (a fu'n aredig y tir ar gyfer y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990) a gadeiriodd. Gwasanaethodd fel Meistres Coleg Girton, Caergrawnt o 1984 i 1991.

Addysg a choleg[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Helen Mary Wilson yng Nghaerwynt ar 14 Ebrill 1924, yr ieuengaf o saith o blant. Roedd ei mam Ethel yn ferch i'r bancwr a'r ariannwr llwyddiannus Felix Schuster. Bu farw ei thad, Archibald Wilson, cyn ei geni ac ni phriododd ei mam eilwaith. [2][3][4][5][6]

Mynychodd sawl ysgol gan gynnwys St Swithun's School, Prior's Field cyn astudio'r clasuron yn Neuadd yr Arglwyddes Margaret, Rhydychen.[7][8] Cafodd ei hastudiaethau eu rhewi yn ystod y rhyfel; ymunodd â byddin Lloegr ac fe'i rhoddwyd i addysgu am ddwy flynedd yn Ysgol y Merched Sherborne yn Dorset. Dychwelodd i Rydychen a graddiodd yn 1948.

O 1949–66, roedd Warnock yn gymrawd ac yn diwtor mewn athroniaeth yng Ngholeg St Hugh's, Rhydychen lle cyfarfu â'i darpar ŵr Geoffrey Warnock, a oedd yno'n gymrawd o Goleg Magdalen. O 1966 i 1972, roedd yn Brifathrawes yn Ysgol Uwchradd Rhydychen i Ferched, gan roi'r gorau i'r swydd pan benodwyd ei gŵr yn brifathro Coleg Hertford, Rhydychen.

Gwaith dros achosion da[golygu | golygu cod y dudalen]

Oherwydd ei chefndir fel addysgwr, penodwyd Warnock ym 1974 i gadeirio ymchwiliad y DU ar addysg arbennig. Daeth ei hadroddiad, a gyhoeddwyd ym 1978, â newid sylfaenol yn y maes, trwy roi pwyslais ar addysgu plant ag anableddau dysgu yn y prif ffrwd a chyflwyno system o "ddatgan" plant er mwyn iddynt gael hawl i gymorth addysgol arbennig.

Roedd Warnock yn aelod o'r Awdurdod Darlledu Annibynnol o 1972–83. Yn 1980, cafodd ei hystyried yn Gadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr y BBC.

Yn 2008, achosodd Warnock, a fu'n eiriolwr ymroddedig i ewthanasia, cryn ddadl oherwydd ei barn y dylai pobl â Gorddryswch (dementia) gael yr hawl i ddewis marw os oeddent yn teimlo eu bod yn "faich i'w teulu neu'r wladwriaeth".[9][10]

Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n aelod o'r Academi Brydeinig am rai blynyddoedd. [11][12][13]

Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (1983), Medal Albert (1998), Cymrawd yr Academi Brydeinig (2000), Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol (2011), Urdd Cymdeithion Anrhydedd (2017)[14][15] .


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. (Saesneg) Jane O'Grady, "Lady Warnock obituary", The Guardian (21 Mawrth 2019). Adalwyd ar 25 Mawrth 2019.
  2. Rhyw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 227: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 227: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 227: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  3. Dyddiad geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 227: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). ffeil awdurdod y BnF; enwyd fel: Mary Warnock; dynodwr BnF: 12193785b. The Peerage; dynodwr The Peerage (person): p19196.htm#i191955; enwyd fel: Helen Mary Wilson, Baroness Warnock.
  4. Dyddiad marw: https://www.theguardian.com/books/2019/mar/21/lady-warnock-obituary. ffeil awdurdod y BnF; enwyd fel: Mary Warnock; dynodwr BnF: 12193785b.
  5. Tad: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 227: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  6. Mam: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 227: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  7. Brown, Andrew (19 Gorffennaf 2003). "The practical philosopher". The Guardian. Cyrchwyd 11 Hydref 2011.
  8. "The House I Grew up In featuring Mary Warnock". The House I Grew Up In. 2008-09-17. BBC. BBC Radio 4. http://www.bbc.co.uk/radio4/thehouseigrewupin/pip/0ayop/.
  9. Beckford, Martin (19 Medi 2008). "Baroness Warnock: Dementia sufferers may have a 'duty to die'". Telegraph. Cyrchwyd 3 Chwefror 2009.
  10. "Dementia patients' 'right-to-die'". BBC News. Cyrchwyd 3 Medi 2009.
  11. Alma mater: http://www.wikiwand.com/en/Mary_Warnock,_Baroness_Warnock; dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  12. Aelodaeth: https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon; dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  13. Anrhydeddau: https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon; dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019. http://www.wikiwand.com/en/Mary_Warnock,_Baroness_Warnock; dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  14. https://www.thebritishacademy.ac.uk/fellows/mary-warnock-FBA-hon; dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.
  15. http://www.wikiwand.com/en/Mary_Warnock,_Baroness_Warnock; dyddiad cyrchiad: 31 Mawrth 2019.