Margot Kidder

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Margot Kidder
Margot Kidder in June 2013.jpg
Ganwyd 17 Hydref 1948 Edit this on Wikidata
Yellowknife Edit this on Wikidata
Bu farw 13 Mai 2018 Edit this on Wikidata (69 oed)
Livingston Edit this on Wikidata
Man preswyl Labrador City, Livingston Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Havergal College
Galwedigaeth actor teledu, actor ffilm, actor llais Edit this on Wikidata
Priod Thomas McGuane, John Heard, Philippe de Broca Edit this on Wikidata
Partner Brian De Palma Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.margotkidder.com Edit this on Wikidata

Actores ac ymgyrchydd Canadaidd-Americanaidd oedd Margaret Ruth Kidder (17 Hydref 194813 Mai 2018), oedd yn defnyddio'r enw llwyfan Margot Kidder. Cododd i enwogrwydd ym 1978 am ei rhan fel Lois Lane yn nghyfres ffilmiau Superman, ochr yn ochr â Christopher Reeve. Dechreuodd Kidder ei gyrfa yn y 1960au, yn ymddangos mewn ffilmiau a chyfresi teledu cyllid isel Canadaidd, cyn derbyn prif rhan yn Quackser Fortune Has a Cousin in the Bronx (1970).

Ymddangosodd wedyn yn chwarae efeilliaid yn y ffilm arswyd cwlt Sisters (1973) gan Brian De Palma (1973); y ffilm 'slasher' Black Christmas (1974); a'r ddrama The Great Waldo Pepper (1975), yn chwarae yn erbyn Robert Redford. Gwnaeth ei pherfformiad fel Kathy Lutz yn y ffilm arswyd The Amityville Horror (1979) ei dwyn i sylw cynulleidfa ehangach.

Erbyn y 1980au hwyr, roedd gyrfa Kidder gyrfa yn dechrau arafu. Yn ddiweddarach, yn 1996, chwalodd ei nerfau a chafodd gyfnodau manig a ddaeth yn gyhoeddus. Erbyn y 2000au, fodd bynnag, roedd wedi gweithio yn gyson ar ffilmiau annibynnol a rhaglenni heledu, gyda rhannau gwadd ar Smallville, Brothers & Sisters, ac The L Word. Yn 2015, enillodd Wobr Daytime Emmy am ei pherfformiad ar y gyfres teledu plant R. L. Stine The Haunting Hour. Bu hefyd yn actio mewn cynyrchiadau theatrig, yn fwyaf nodedig am ymddangos ar Broadway yng nghynhyrchiad 2002 o 'The Vagina Monologues'.

Yn 2005, daeth Kidder yn ddinesydd Americanaidd. Yn ei blynyddoedd olaf, daeth Kidder yn ymgyrchydd difloesgni ar bynciau gwleidyddol, amgylcheddol, a gwrth-ryfel.[1] Bu farw ar 13 Mai 2018, yn ei chartref yn Livingston, Montana.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Kidder, yn un o bump o blant, yn Yellowknife, Tiriogaethau'r Gogledd-orllewin, merch Jocelyn Mary "Jill" (née Wilson), athrawes hanes, a Kendall Kidder, arbennigwr ffrwydron a pheiriannydd.[3][4][5] Yn ystod ei phlentyndod treuliodd Kidder amser hefyd yn Ninas Labrador, Newfoundland a Labrador.[6] Roedd ei mam yn dod o Columbia Brydeinig, Canada, a daeth ei thad o New Mexico, yr Unol Daleithiau. Yn 2015, darganfu fod ei theulu o dras Cymreig a Seisnig. Daeth i Gymru i ymchwilio cofnodion lleol am ei chyndeidiau ym Mhowys.[7]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1968 The Best Damn Fiddler from Calabogie to Kaladar Rosie Prometer
1969 Gaily, Gaily Adeline
1970 Quackser Fortune Has a Cousin in the Bronx Zazel
1973 Sisters Danielle Breton / Dominique Blanchion
1974 A Quiet Day in Belfast Brigit Slattery / Thelma Slattery Gwobr Ffilm Canadaidd am Actores Orau
1974 The Gravy Train Margue
1974 Black Christmas Barbara 'Barb' Coard Gwobr Ffilm Canadaidd am Actores Orau
1975 The Great Waldo Pepper Maude
1975 The Reincarnation of Peter Proud Marcia Curtis
1975 92 in the Shade Miranda
1978 Superman Lois Lane Gwobr Saturn am Actores Orau
1978 Shoot the Sun Down The Woman from England
1979 The Amityville Horror Kathy Lutz Enwebwyd – Gwobr Saturn am Actores Orau
1979 Mr. Mike's Mondo Video Ei hun
1980 Willie & Phil Jeannette Sutherland
1980 Superman II Lois Lane Enwebwyd – Gwobr Saturn am Actores Orau
1981 Heartaches Rita Harris Gwobr Genie am Actores Orau
1982 Some Kind of Hero Toni Donovan
1982 Miss Right Juliette
1983 Trenchcoat Mickey Raymond
1983 Superman III Lois Lane Cameo
1985 Little Treasure Margo
1986 GoBots: Battle of the Rock Lords Solitaire Voice
1986 Keeping Track Mickey Tremaine
1987 Superman IV: The Quest for Peace Lois Lane
1989 Mob Story Dolores
1990 White Room Madelaine X
1991 Delirious Woman in Washroom di-gydnabyddiaeth
1992 Aaron Sent Me Kaitlynn Prescott
1993 La Florida Vivy Lamori
1994 One Woman's Courage Stella Jenson Ffilm deledu
1994 Maverick Margret Mary di-gydnabyddiaeth
1994 WindRunner Sally 'Mom' Cima
1994 The Pornographer Irene
1994 Beanstalk Doctor Kate 'Doc' Winston
1996 Henry & Verlin Mabel
1996 Never Met Picasso Genna Magnus
1997 The Planet of Junior Brown Miss Peebs
1997 Shadow Zone: My Teacher Ate My Homework Sol
1997 Silent Cradle Cindy Wilson
1999 The Hi-Line Laura Johnson
1999 The Clown at Midnight Ellen Gibby
1999 The Annihilation of Fish Mrs. Muldroone
1999 Nightmare Man Lillian Hannibal
2000 Apocalypse III: Tribulation Eileen Canboro
2002 Angel Blade Frida
2002 Crime and Punishment Katerina Marmelodov
2004 Chicks with Sticks Edith Taymore
2004 Death 4 Told Madam Badeau Gwobrau Scream am Actores Orau, (darn "The Psychic")
2008 Universal Signs Rose Callahan
2008 Love at First Kill Beth
2008 On the Other Hand, Death Dorothy
2008 A Single Woman Storiwr
2009 Something Evil Comes Claudia Brecher
2009 Halloween II Barbara Collier
2011 Redemption: For Robbing the Dead Marlys Baptiste
2011 Three of a Kind Claire
2012 HENRi Dr. Calvin Ffilm fer
2013 Matt's Chance Mother Mable
2013 Real Gangsters Stella Kelly
2014 The Dependables Jean Dempsey
2014 The Big Fat Stone Madge
2015 No Deposit Margie Ryan
2016 The Red Maple Leaf Amanda Walker
2017 The Neighborhood Maggie

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1969 Wojeck 1 bennod
1969 Adventures in Rainbow Country Dr. Janet Rhodes / Sportscar Driver 2 bennod
1969 McQueen Jenny
1969 Corwin Denny Penodau "Does Anybody Here Know Denny?, Pts. 1 & 2"
1970 The Mod Squad Claire Allen 1 bennod
1971 Suddenly Single Jackie Ffilm deledu
1971–1972 Nichols Ruth 5 pennod
1972 The Bounty Man Mae Ffilm deledu
1972 Banacek Linda Carsini 1 bennod
1972 Harry O Helen 1 bennod
1973 Barnaby Jones Lori Wright 1 bennod
1974 The Suicide Club Ffilm deledu
1974 Honky Tonk Lucy Cotton Ffilm deledu
1975 Baretta Terry Lake 1 bennod
1975 Wide World Mystery Gerry 1 bennod
1976 Switch Andrea Morris 1 bennod
1979 Saturday Night Live Ei hun (cyflwynwydd gwadd) 1 bennod: "Margot Kidder/The Chieftains"
1982 Bus Stop Cherie Ffilm deledu
1983 Pygmalion Eliza Doolittle Ffilm deledu
1984 Louisiana Virginia Tregan Ffilm deledu
1985 The Hitchhiker Jane Reynolds 1 bennod
1985 Picking Up the Pieces Lynette Harding Ffilm deledu
1986 The Wonderful Wizard of Oz Adroddwr (cyfres un flwyddyn)
1986 Vanishing Act Chris Kenyon Ffilm deledu
1987 Shell Game Dinah / Jennie Jerome 5 pennod
1987 Tales from the Crypt Cynthia 1 bennod
1988 Body of Evidence Carol Dwyer Ffilm deledu
1992 To Catch a Killer Rachel Grayson Ffilm deledu
1992–1993 Street Legal Charlotte Percy 2 bennod
1993 Murder, She Wrote Dr. Ellen Holden 1 bennod
1993–1995 Captain Planet and the Planeteers Gaia (llais) 5 pennod
1995 Burke's Law Joy Adams 1 bennod
1995 Bloodknot Evelyn Ffilm deledu
1996–1997 Boston Common Cookie de Varen 5 pennod
1996 Phantom 2040 Rebecca Madison 1 bennod
1997 The Hunger Mrs. Sloan
1997 Aaahh!!! Real Monsters Mistress Helga (llais) 2 bennod
1997 The Teddy Bears' Scare Mrs. Jones (llais) Ffilm deledu
1998 Touched by an Angel Rita 1 bennod
1999 La Femme Nikita Roberta Wirth 1 pennod; Enwebwyd – Gwobr Teledu OFTA am Actores Gwadd Orau mewn Cyfres Cebl[8]
2000 Amazon Morag 3 pennod
2000 Someone Is Watching Sally Beckert Ffilm deledu
2001 Law & Order: Special Victims Unit Grace Mayberry 1 bennod
2001 Mentors Queen Elizabeth I 1 bennod
2001 Earth: Final Conflict Dr. Josephine Mataros 1 bennod
2004 Smallville Bridgette Crosby 2 bennod
2004 I'll Be Seeing You Frances Grolier Ffilm deledu
2005 Robson Arms Elaine Wainwright 1 cyfres
2005 The Last Sign Endora 2 bennod
2006 The L Word Sandy Ziskin 1 bennod
2007 Brothers & Sisters Emily Craft 2 bennod
2014 R.L. Stine's The Haunting Hour Mrs. Worthington 1 bennod; Gwobr Daytime am Berfformiad Eithriadol mewn Rhaglenni Plant[9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]