Marco Carynnyk
Marco Carynnyk | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1944 ![]() Berlin ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Canada ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Bardd, hanesydd, golygydd, a chyfieithydd Wcreinaidd a anwyd yn yr Almaen yw Marco Carynnyk (Wcreineg: Марко Царинник; ganwyd 1944) sydd wedi treulio'i fywyd yn Unol Daleithiau America a Chanada. Mae'n medru Wcreineg, Saesneg, Almaeneg, Rwseg, a Phwyleg.[1]
Cafodd ei eni ym Merlin ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Treuliodd cyfnod mewn gwersyll i bobl a oedd wedi'u dadleoli'n fewnol yn Augsburg, Awstria, cyn i'w deulu symud i Philadelphia yn yr Unol Daleithiau. Symudodd i Toronto, Canada, ar ddiwedd y 1960au. Fe'i cysylltir â charfan o feirdd modernaidd Wcreineg yn Efrog Newydd, a chyhoeddodd sawl cerdd mewn cyfnodolion yn y 1970au a dechrau'r 1980au.
Mae Carynnyk wedi cyhoeddi nifer o weithiau academaidd ar bynciau'r Holodomor, yr Holocost, pogromau, ac hanes yr Wcreiniaid a'r Iddewon yn Nwyrain Ewrop. Mae hefyd wedi ysgrifennu am ffilm ac wedi cyfieithu ysgrifeniadau'r gwneuthurwr ffilmiau Sofietaidd Alexander Dovzhenko.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ (Saesneg) "Fellow Mr. Marco Carynnyk Archifwyd 2019-04-03 yn y Peiriant Wayback.", United States Holocaust Memorial Museum. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) "Marco Carynnyk", Intstitut für Zeitgeschichte. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.
- Beirdd Wcreinaidd yr 20fed ganrif
- Beirdd Wcreinaidd yn yr iaith Wcreineg
- Cyfieithwyr Wcreinaidd
- Genedigaethau 1944
- Golygyddion Wcreinaidd
- Hanesyddion Wcreinaidd yr 20fed ganrif
- Hanesyddion Wcreinaidd yn yr iaith Saesneg
- Llenorion Americanaidd yn yr iaith Wcreineg
- Llenorion Canadaidd yn yr iaith Wcreineg
- Pobl o Ferlin
- Pobl o Philadelphia
- Pobl o Toronto