Llygredd maetholion

Oddi ar Wicipedia
Llygredd maetholion
Mathmaterion amgylcheddol, Llygredd dŵr Edit this on Wikidata

Mae llygredd maetholion yn fath o lygredd dŵr, yn cyfeirio at halogiad gan ormodedd o faetholion. Mae'n un o brif achosion ewtroffeiddio dyfroedd wyneb (llynnoedd, afonydd a dyfroedd arfordirol), lle mae gormodedd o faetholion, fel arfer nitrogen neu ffosfforws, yn ysgogi twf algaidd.[1] Ymhlith y prif ffynonellau o lygredd maetholion mae: dŵr ffo arwyneb o ffermydd, gollyngiadau o danciau carthion a bwydydd anifeiliaid, ac allyriadau o hylosgi. Oherwydd fod gan garthion lefel uchel iawn o faetholion mae carthion amrwd yn cyfrannu'n fawr at ewtroffeiddio diwylliannol. Cyfeirir at ryddhau neu ddymio carthion amrwd i gorff o ddŵr fel 'gollwng carthion', ac mae'n dal i ddigwydd ledled y byd, yn bennaf gan nad oes yn rhaid i'r ffermwr dalu.

Ychydig iawn o lygredd maetholion sydd ei angen i niweidio cynefinoedd fel afonydd a phyllau dŵr. Mae'r ychydig hwn yn ddigon i wneud niwed i blanhigion sensitif ac anifeiliaid sy’n cartrefu yn y mannau hyn.

Mae cyfansoddion nitrogen adweithiol gormodol yn yr amgylchedd yn gysylltiedig â llawer o bryderon amgylcheddol dwys, gan gynnwys ewtroffeiddio dyfroedd wyneb, blodau algaidd niweidiol, hypocsia, glaw asid, dirlawnder nitrogen mewn coedwigoedd, a newid hinsawdd . [2]

Ers ffyniant amaethyddol y 1910au ac eto yn y 1940au, o ganlyniad i'r galw mawr am fwyd, mae cynhyrchu amaethyddol yn dibynnu'n fawr ar ddefnyddio gwrtaith.[3] Mae gwrtaith yn sylwedd naturiol neu wedi'i addasu'n gemegol sy'n llawn o faetholion, ac sy'n helpu pridd i ddod yn fwy ffrwythlon. Ceir llawer iawn o ffosfforws a nitrogen mewn gwrtaith, sy'n arwain at ormodedd o faetholion yn mynd i mewn i'r pridd. Nitrogen, ffosfforws a photasiwm yw'r prif faetholion "y 3 Mawr" mewn gwrtaith masnachol, mae pob un o'r maetholion sylfaenol hyn yn chwarae rhan allweddol yn nhwf y planhigion.[4] Pan na chaiff nitrogen a ffosfforws eu defnyddio'n llawn gan y planhigion sy'n tyfu, gallant gael eu colli o gaeau'r fferm a chael effaith negyddol ar ansawdd aer a dŵr i lawr yr afon.[5] O ganlyniad, gall y maetholion hyn ddod i mewn i ecosystemau dyfrol ac maent yn cyfrannu at gynnydd mewn ewtroffeiddio.[6] Pan fydd ffermwr yn chwalu gwrtaith, boed yn organig neu wedi'i wneud yn synthetig, bydd rhywfaint ohono'n cael ei olchi ymaith fel dŵr ffo.[7]

Ffynonellau'r maetholion[golygu | golygu cod]

Mae'r prif ffynhonnell llygredd maetholion mewn un ardal arbennig yn dibynnu ar y defnydd o'r tir.

  • Amaethyddiaeth: cynhyrchu anifeiliaid neu gnydau
  • Trefol/maestrefol: dŵr ffo stormydd o ffyrdd a meysydd parcio; defnydd gormodol o wrtaith ar lawntiau; gweithfeydd trin carthion trefol; allyriadau cerbydau modur
  • Diwydiannol: allyriadau llygredd aer (ee gweithfeydd pŵer trydan), gollyngiadau dŵr gwastraff o wahanol ddiwydiannau.[8]

Gall llygredd maetholion ddo o rai ffynonellau llygredd aer, yn annibynnol ar y defnydd tir lleol, oherwydd bod llygryddion aer yn cael eu cludo o ffynonellau pell i ffwrdd.[9]

Er mwyn canfod y ffordd orau o atal ewtroffeiddio rhag digwydd, rhaid nodi ffynonellau penodol sy'n cyfrannu at lwytho maetholion. Ceir dwy ffynhonnell gyffredin o faetholion a deunydd organig: ffynonellau pwynt a ffynonellau dibwynt.

Nitrogen[golygu | golygu cod]

Mae defnyddio gwrtaith synthetig, llosgi tanwydd ffosil, a magu anifeiliaid amaethyddol, yn enwedig drwy fwydo anifeiliaid dwys (CAFO), wedi ychwanegu llawer iawn o nitrogen adweithiol i'r biosffer.[10] Yn fyd-eang, mae balansau nitrogen wedi'u dosbarthu'n eithaf aneffeithlon gyda rhai gwledydd â gwargedion ac eraill â diffygion. Ar gyfer y rhan fwyaf o wledydd ledled y byd, mae'r cyfaddawd rhwng cau bylchau mewn cynnyrch a lliniaru llygredd nitrogen yn fach neu ddim yn bodoli.[11]

Ffosfforws[golygu | golygu cod]

Mae llygredd ffosfforws yn cael ei achosi gan or-ddefnydd o wrtaith a thail anifeiliaid, yn enwedig pan gaiff ei waethygu gan erydiad pridd. Yn yr Undeb Ewropeaidd, amcangyfrifir y gellir colli mwy na 100,000 tunnell o ffosfforws i gyrff dŵr a llynnoedd oherwydd erydiad gan ddŵr.[12] Mae ffosfforws hefyd yn cael ei ollwng gan weithfeydd trin carthion trefol a rhai diwydiannau.[13]

Effeithiau[golygu | golygu cod]

Effeithiau amgylcheddol ac economaidd[golygu | golygu cod]

Gall gormodedd o faetholion wedi’u crynhoi arwain at:

  • Twf gormodol o algâu (blodau algaidd niweidiol);[14] a cholli bioamrywiaeth;[15]
  • Newidiadau cyfansoddiad rhywogaethau (tacsa dominyddol);
  • Newidiadau gwe bwyd, llai o oleuni;
  • Carbon organig gormodol (ewtroffeiddio); diffygion ocsigen toddedig (hypocsia amgylcheddol); cynhyrchu tocsin;[9]

Gall llygredd maetholion gael effaith economaidd oherwydd costau cynyddol trin dŵr, colledion pysgota masnachol a physgod cregyn, a cholledion pysgota hamdden.[16]

Effeithiau ar iechyd[golygu | golygu cod]

Mae'r effaith ar iechyd dynol yn cynnwys gormodedd o nitrad mewn dŵr yfed (syndrom babi glas) a sgil-gynhyrchion diheintio mewn dŵr yfed. Gall nofio mewn dŵr y mae blŵm algaidd niweidiol yn effeithio arno achosi brech ar y croen a phroblemau anadlu.[17]

Enghreifftiau (gwledydd)[golygu | golygu cod]

Cymru[golygu | golygu cod]

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am amgylchedd Cymru, a chaiff ei ariannu a'i reoleiddio gan Lywodraeth Cymru.

Maent yn gweithio gyda gyda thirfeddianwyr a ffermwyr a cheisiant ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i wella ansawdd y dŵr. Ceisiant hefyd wella ecoleg ac ansawdd y dyfroedd yn yr afonydd trefol ee carffosiaeth a safleoedd adeiladu. Mae ganddyn nhw bwerau rheoleiddio a gweithiant yn agos gyda Dŵr Cymru a chwmniau dŵr canolbarth Cymru. Yn y Canolbarth mae CNC yn defnyddio dulliau gwella ecoleg ac ansawdd afonydd a dyfroedd arfordirol drwy Brosiect Adfer Afon Gwy Uchaf a'r gwaith ar Fyrddau Cynllun Rheoli Maetholion Gwy, Wysg a Theifi. Yn y Gogledd-Ddwyrain maent yn gweithio gyda phartneriaid megis Bwrdd Rheoli Maetholion Dyfrdwy a Fforwm Clwyd a phartneriaethau dalgylch Dyfrdwy. https://naturalresources.wales/about-us/what-we-do/strategies-and-plans/how-we-will-work-to-minimise-pollution-in-our-communities/?lang=cy Gweithia Llywodraeth Cymru gyda'r sector amaethyddiaeth i ganfod atebion i leihau maetholion gormodol yn y pridd ac afonydd.[18]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Walters, Arlene, gol. (2016). Nutrient Pollution From Agricultural Production: Overview, Management and a Study of Chesapeake Bay. Hauppauge, NY: Nova Science Publishers. ISBN 978-1-63485-188-6.
  2. "Reactive Nitrogen in the United States: An Analysis of Inputs, Flows, Consequences, and Management Options, A Report of the Science Advisory Board" (PDF). Washington, DC: US Environmental Protection Agency (EPA). EPA-SAB-11-013. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar February 19, 2013.
  3. Seo Seongwon; Aramaki Toshiya; Hwang Yongwoo; Hanaki Keisuke (2004-01-01). "Environmental Impact of Solid Waste Treatment Methods in Korea". Journal of Environmental Engineering 130 (1): 81–89. doi:10.1061/(ASCE)0733-9372(2004)130:1(81). https://archive.org/details/sim_journal-of-environmental-engineering_2004-01_130_1/page/n86.
  4. "Fertilizer 101: The Big Three―Nitrogen, Phosphorus and Potassium". Arlington, VA: The Fertilizer Institute. 2014-05-07.
  5. "The Sources and Solutions: Agriculture". Nutrient Pollution. EPA. 2021-11-04.
  6. Huang, Jing; Xu, Chang-chun; Ridoutt, Bradley; Wang, Xue-chun; Ren, Pin-an (August 2017). "Nitrogen and phosphorus losses and eutrophication potential associated with fertilizer application to cropland in China". Journal of Cleaner Production 159: 171–179. doi:10.1016/j.jclepro.2017.05.008.
  7. Carpenter, S. R.; Caraco, N. F.; Correll, D. L.; Howarth, R. W.; Sharpley, A. N.; Smith, V. H. (August 1998). "Nonpoint Pollution of Surface Waters with Phosphorus and Nitrogen". Ecological Applications 8 (3): 559. doi:10.2307/2641247. JSTOR 2641247. https://archive.org/details/sim_ecological-applications_1998-08_8_3/page/n4.
  8. "Sources and Solutions". Nutrient Pollution. EPA. 2021-08-31.
  9. 9.0 9.1 "The Effects: Environment". Nutrient Pollution. EPA. 2021-03-01.
  10. Galloway, J.N.; Dentener, F.J. (September 2004). "Nitrogen Cycles: Past, Present, and Future". Biogeochemistry 70 (2): 153–226. arXiv:1. doi:10.1007/s10533-004-0370-0.
  11. Wuepper, David; Le Clech, Solen; Zilberman, David; Mueller, Nathaniel; Finger, Robert (November 2020). "Countries influence the trade-off between crop yields and nitrogen pollution". Nature Food 1 (11): 713–719. doi:10.1038/s43016-020-00185-6. ISSN 2662-1355. https://www.nature.com/articles/s43016-020-00185-6.
  12. Panagos, Panos; Köningner, Julia; Ballabio, Cristiano; Liakos, Leonidas; Muntwyler, Anna; Borrelli, Pasquale; Lugato, Emanuele (2022-09-13). "Improving the phosphorus budget of European agricultural soils" (yn en). Science of the Total Environment 853: 158706. Bibcode 2022ScTEn.853o8706P. doi:10.1016/j.scitotenv.2022.158706. PMID 36099959.
  13. "Phosphorus and Water". USGS Water Science School. Reston, VA: U.S. Geological Survey (USGS). 2018-03-13.
  14. "Harmful Algal Blooms". Nutrient Pollution. EPA. 2020-11-30.
  15. "National Nutrient Strategy". EPA. 2021-08-18.
  16. "The Effects: Economy". Nutrient Pollution. EPA. 2022-04-19.
  17. "The Effects: Human Health". Nutrient Pollution. EPA. 2022-04-19.
  18. Llywodraeth Cymru; adalwyd 10 Mai 2023.