Ecoleg tirffurfiau

Oddi ar Wicipedia
Cap Mai (Nova Jersey, USA), gan ddangos y briodas rhwng tirffurfiau naturiol a rhai dinesig.

Y wyddoniaeth a'r astudiaeth o sut i wella'r berthynas rhwng y prosesau ecolegol yn yr amgylchedd ac ecosystem arbennig yw Ecoleg tirffurfiau. Gwneir hyn o fewn gwahanol fathau o dirffurfiau, datblygiadau, patrymau gofodol, ymchwil a pholisi.[1][2][3]

Mae'n faes hynod o ryngddisgyblaethol o fewn gwyddoniaeth systemau ac yn cyfanu'r bioffisegol a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae tirffurfiau, o ran gofod, yn ardaloedd daearyddol hynod o anghydryw (heterogeneous) a'r hyn sy'n nodweddiadol ohonynt yw'r amrywiaeth eang o ecosystemau, fel clytwaith, yn amrywio o systemau gymharol naturiol megis coedwigoedd a llynnoedd i amgylcheddau annaturiol a grewyd gan ddyn, gan gynnwys caeau enfawr o weiriau a threfi.[2][4][5] Pwysleisia ecoleg tirffurfiol ar ei waethaf (a mwyaf amlwg) y berthynas rhwng patrymau, prosesau a graddfa, a'r ffocws mae'n ei roi ar bynciau llosg ecoleg a'r amgylchedd. Drwy hyn, priodir dau fath o wyddoniaeth: y bioffisegol a'r cymdeithaol-economaidd. Ymhlith y pynciau ymchwil mwyaf poblogaidd y mae llif ecoleg drwy glytwaith tirffurfiau, y defnydd o dir, graddfeydd, analeiddio gwahanol batrymau o fewn y tirffurfiau a chadwraeth tirffurfiau a chynaliadwyedd.[6]

Terminoleg[golygu | golygu cod]

Bathwyd y term Almaeneg Landschaftsökologie sef tirffurfiau ecolegol –gan y daearyddwr Carl Troll yn 1939.[7] Datblygodd dermau addas ar gyfer y maes, ynghyd â sawl cysyniad cynnar am y maes, fel rhan o'i waith gyda ffotograffau o awyrennau er mwyn iddo weld y berthynas rhwng natur a thirffurfiau dinesig.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Wu, J. 2006. Cross-disciplinarity, landscape ecology, and sustainability science. Landscape Ecology 21:1-4.
  2. 2.0 2.1 Wu, J. a R. Hobbs (Eds). 2007. Key Topics in Landscape Ecology. Cambridge University Press, Cambridge.
  3. Wu, J. 2008. Landscape ecology. In: S. E. Jorgensen (ed), Encyclopedia of Ecology. Elsevier, Rhydychen.
  4. Turner, M.G., R. H. Gardner a R. V. O'Neill 2001. Landscape Ecology in Theory and Practice. Springer-Verlag, Efrog Newydd, NY, USA.
  5. Forman, R.T.T. 1995. Land Mosaics: The Ecology of Landscapes and Regions. Gwasg Prifysgol Caergrawnt.
  6. Wu & Hobbs 2002
  7. Troll, C. 1939. Luftbildplan und ökologische Bodenforschung. Zeitschrift der Gesellschaft für Erdkunde, Berlin: 241-298.