Llygredd yn y môr
Math | llygredd, Llygredd dŵr |
---|---|
Lleoliad | cefnfor |
Mae llygredd morol yn digwydd pan fydd sylweddau a ddefnyddir neu a ledaenir gan bobl, megis gwastraff diwydiannol,amaethyddol a phreswyl, sŵn, gormodedd o garbon deuocsid neu organebau ymledol yn mynd mewn gefnfor ac yn achosi effeithiau niweidiol yno. Daw mwyafrif y gwastraff hwn (80%) o weithgarwch ar y tir,[1] naill ai drwy'r afonydd, drwy garthffosiaeth neu'r atmosffer. Golyga hyn bod silffoedd cyfandirol yn fwy agored i lygredd. Mae llygredd aer hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu trwy gludo haearn, asid carbonig, nitrogen, silicon, sylffwr, plaladdwyr neu ronynnau llwch i'r cefnfor.[2]
Daw'r llygredd yn aml o ffynonellau di-bwynt fel dŵr ffo amaethyddol, malurion a chwythir gan y gwynt, a llwch. Mae'r ffynonellau di-bwynt hyn yn bennaf oherwydd dŵr ffo sy'n llio i'r cefnforoedd trwy afonydd, ond gall malurion a llwch a chwythir gan y gwynt chwarae rhan hefyd, oherwydd gall y llygryddion hyn setlo i welyau dyfrffyrdd a chefnforoedd.[3] Mae llwybrau llygredd yn cynnwys arllwysiad uniongyrchol, dŵr ffo tir, llygredd llongau, llygredd atmosfferig ac, o bosibl, mwyngloddio twfn.
Gellir grwpio'r mathau o lygredd morol fel llygredd o falurion morol, llygredd plastig, gan gynnwys microblastigau, asideiddio cefnforol, llygredd maetholion, tocsinau a sŵn tanddwr. Mae llygredd plastig yn y cefnfor yn fath o lygredd morol gan blastigau, sy'n amrywio o ran maint o ddeunydd gwreiddiol mawr fel poteli a bagiau, i lawr i ficroblastigau a ffurfiwyd drwy ddarnio deunydd plastig. Mae malurion morol yn bennaf yn sbwriel dynol sy'n cael ei daflu ac sy'n llygru'r cefnfor. Mae llygredd plastig yn niweidiol i fywyd morol, ac i bobl.
Mae sawl ffordd o gategoreiddio ac archwilio'r llygredd a sut y daw i fewn i'r ecosystemau morol. Ceir tri phrif o fewnbwn llygredd i'r cefnfor: gollwng gwastraff yn uniongyrchol i'r cefnforoedd, dŵr ffo oherwydd glaw, a llygryddion sy'n cael eu rhyddhau o'r atmosffer.[4]
Rhyddhau uniongyrchol
[golygu | golygu cod]Mae llygryddion yn mynd i mewn i afonydd a'r môr yn uniongyrchol o garthffosiaeth drefol a gollyngiadau gwastraff diwydiannol, weithiau ar ffurf gwastraff peryglus a gwenwynig, neu ar ffurf plastigau.
Mae astudiaeth a gyhoeddwyd gan Science, Jambeck et al. (2015) yn amcangyfrif mai'r 10 allyrydd mwyaf o lygredd plastig cefnforol ledled y byd yw, o'r mwyaf i'r lleiaf, Tsieina, Indonesia, Philippines, Fietnam, Sri Lanka, Gwlad Thai, yr Aifft, Malaysia, Nigeria a Bangladesh.[5]
Dŵr ffo tir
[golygu | golygu cod]Gall dŵr ffo arwyneb ddeillio'n aml o ffermio diog, yn ogystal â dŵr ffo trefol a dŵr ffo o adeiladu ffyrdd, adeiladau, porthladdoedd, sianeli, a harbyrau, cludo pridd ac oronynnau'n llawn carbon, nitrogen, ffosfforws a mwynau. Gall y dŵr llawn maetholion yma achosi i algâu niweidiol a ffytoplanctonau ffynnu mewn ardaloedd arfordirol; a elwir yn flodau algaidd, sydd â'r potensial i greu amodau hypocsig trwy ddefnyddio'r holl ocsigen sydd ar gael. Ar arfordir de-orllewin Florida, mae blodau algaidd niweidiol wedi bodoli ers dros 100 mlynedd.[6] Mae'r blodau algaidd hyn wedi achosi i rywogaethau o bysgod, crwbanod, dolffiniaid a berdys farw ac achosi effeithiau niweidiol ar bobl sy'n nofio yn y dŵr.[6]
Llygredd llongau
[golygu | golygu cod]Gall llongau lygru dyfrffyrdd a chefnforoedd mewn sawl ffordd: gollyngiadau olew yw'r math gwaethaf. Yn ogystal â bod yn wenwynig i fywyd morol, mae hydrocarbonau aromatig polysyclig (PAHs), a geir mewn olew crai, yn anodd iawn eu glanhau, ac yn para am flynyddoedd yn yr amgylchedd gwaddod a morol.[7][8]
Mae'n debyg mai gollyngiadau olew yw'r digwyddiadau llygredd morol sy'n cael y mwyaf o sylw. Fodd bynnag, er y gall llongddrylliad tancer arwain at benawdau papur newydd helaeth, daw llawer o'r olew ym moroedd y byd o ffynonellau llai eraill, megis tanceri'n gollwng dŵr balast o danciau olew, piblinellau'n gollwng neu olew injan a waredir i lawr carthffosydd.
Yn 2022 newidiwyd un o gyfreithiau Llywodraeth Lloegr, fel ag i ganiatau gollwng carffosiaeth dynol allan o bibellau ac yn syth i'r afonydd neu'r môr. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/welsh-tory-mps-who-voted-21965456
Gall gollwng gweddillion cargo o longau lygru porthladdoedd, dyfrffyrdd a chefnforoedd. Mewn llawer o achosion mae cychod yn gollwng gwastraff anghyfreithlon yn fwriadol er bod rheoliadau tramor a domestig yn gwahardd gweithredoedd o'r fath. Mae diffyg safonau cenedlaethol yn gymhelliant i rai llongau mordeithio adael gwastraff mewn mannau lle mae'r cosbau'n annigonol.[9] Amcangyfrifwyd bod llongau eraill yn colli dros 10,000 o gynwysyddion ar y môr bob blwyddyn (yn ystod stormydd fel arfer).[10] Mae llongau hefyd yn creu llygredd sŵn sy'n tarfu ar fywyd gwyllt naturiol, a gall dŵr o danciau balast ledaenu algâu niweidiol a rhywogaethau ymledol eraill.[11]
Llygredd atmosfferig
[golygu | golygu cod]Llwybr arall i lygredd yw trwy'r atmosffer. Mae'r cefnforoedd wedi'i effeithio ers cryn amser, gan symudiad cemegau o'r atmosffer (ee ffynhonnell maetholion; dylanwad pH).[12] Mae llwch a malurion sy'n cael eu chwythu gan y gwynt, gan gynnwys bagiau plastig, yn cael eu chwythu tua'r môr o safleoedd tirlenwi ac ardaloedd eraill. Chwythir llwch o'r Sahara o amgylch cyrion deheuol y gefnen isdrofannol gan symud i'r Caribî a Fflorida yn ystod y tymor cynnes. Gellir priodoli llwch hefyd i gludiant byd-eang o anialwch Gobi a Taklamakan ar draws Corea, Japan, a'r Môr Tawel Gogleddol i'r Ynysoedd Hawai.[13]
Mae newid hinsawdd yn codi tymheredd y cefnforoedd ac yn codi lefelau carbon deuocsid yn yr atmosffer. Mae'r lefelau cynyddol hyn o garbon deuocsid yn asideiddio'r cefnforoedd,[14] gan newid ecosystemau dyfrol. Mae ecosystemau cefnfor iach hefyd yn bwysig ar gyfer lliniaru newid hinsawdd.
Mwyngloddio môr dwfn
[golygu | golygu cod]Mae mwyngloddio môr dwfn yn niweidio'r amgylchedd, ond gan ei fod yn faes eitha newydd, ychydig a wyddom am ei effaith ar yr amgylchedd. Ymhlith y metelau gwenwynig posibl mae: copr, sinc, cadmiwm, plwm ac elfennau prin fel lanthanwm ac yttriwm.[15] Yn dilyn rhyddhau tocsinau gwelir cynnydd mewn sŵn, golau, gwaddodion ac elfennau sydd â'r potensial i effeithio ar yr ecosystemau.[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Charles Sheppard, gol. (2019). World seas : an Environmental Evaluation. III, Ecological Issues and Environmental Impacts (arg. Second). London. ISBN 978-0128052044. OCLC 1052566532.
- ↑ Duce, Robert, Galloway, J. and Liss, P. (2009). "The Impacts of Atmospheric Deposition to the Ocean on Marine Ecosystems and Climate WMO Bulletin Vol 58 (1)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-07. Cyrchwyd September 22, 2020.
- ↑ "What is the biggest source of pollution in the ocean?". National Ocean Service (US). Silver Spring, MD: National Oceanic and Atmospheric Administration. Cyrchwyd 2022-09-21.
- ↑ Patin, S.A. "Anthropogenic impact in the sea and marine pollution". offshore-environment.com. Cyrchwyd 1 February 2018.
- ↑ Jambeck, J. R.; Geyer, R.; Wilcox, C.; Siegler, T. R.; Perryman, M.; Andrady, A.; Narayan, R.; Law, K. L. (12 February 2015). "Plastic waste inputs from land into the ocean". Science 347 (6223): 768–771. Bibcode 2015Sci...347..768J. doi:10.1126/science.1260352. PMID 25678662.
- ↑ 6.0 6.1 Weis, Judith S.; Butler, Carol A. (2009). "Pollution". In Weis, Judith S.; Butler, Carol A. (gol.). Salt Marshes. A Natural and Unnatural History. Rutgers University Press. tt. 117–149. ISBN 978-0813545486. JSTOR j.ctt5hj4c2.10.
- ↑ Panetta, L.E. (Chair) (2003). America's living oceans: charting a course for sea change (PDF). Pew Oceans Commission. t. 64.
- ↑ Van Landuyt, Josefien; Kundu, Kankana; Van Haelst, Sven; Neyts, Marijke; Parmentier, Koen; De Rijcke, Maarten; Boon, Nico (2022-10-18). "80 years later: Marine sediments still influenced by an old war ship". Frontiers in Marine Science 9: 1017136. doi:10.3389/fmars.2022.1017136. ISSN 2296-7745. https://www.frontiersin.org/articles/10.3389/fmars.2022.1017136/full.
- ↑ Schulkin, Andrew (2002). "Safe harbors: Crafting an international solution to cruise ship pollution". Georgetown International Environmental Law Review 15 (1): 105–132. https://www.proquest.com/openview/408bf9d53e951415fbc9bbef80bfce9c/1.
- ↑ Podsadam, Janice (19 June 2001). "Lost Sea Cargo: Beach Bounty or Junk?". National Geographic News. Cyrchwyd 8 April 2008.
- ↑ Meinesz, A. (2003) Deep Sea Invasion: The Impact of Invasive Species PBS: NOVA. Retrieved 26 November 2009
- ↑ "The Impacts of Atmospheric Deposition to the Ocean on Marine Ecosystems and Climate". public.wmo.int (yn Saesneg). 2015-11-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-12-07. Cyrchwyd 2022-08-11.
- ↑ Duce, RA; Unni, CK; Ray, BJ; Prospero, JM; Merrill, JT (26 September 1980). "Long-Range Atmospheric Transport of Soil Dust from Asia to the Tropical North Pacific: Temporal Variability". Science 209 (4464): 1522–1524. Bibcode 1980Sci...209.1522D. doi:10.1126/science.209.4464.1522. PMID 17745962. https://archive.org/details/sim_science_1980-09-26_209_4464/page/1522.
- ↑ Doney, S. C. (2006) "The Dangers of Ocean Acidification" Scientific American, March 2006
- ↑ Hauton, Chris; Brown, Alastair; Thatje, Sven; Mestre, Nélia C.; Bebianno, Maria J.; Martins, Inês; Bettencourt, Raul; Canals, Miquel et al. (2017-11-16). "Identifying Toxic Impacts of Metals Potentially Released during Deep-Sea Mining—A Synthesis of the Challenges to Quantifying Risk". Frontiers in Marine Science 4: 368. doi:10.3389/fmars.2017.00368. ISSN 2296-7745.
- ↑ Lopes, Carina L.; Bastos, Luísa; Caetano, Miguel; Martins, Irene; Santos, Miguel M.; Iglesias, Isabel (2019-02-10). "Development of physical modelling tools in support of risk scenarios: A new framework focused on deep-sea mining" (yn en). Science of the Total Environment 650 (Pt 2): 2294–2306. Bibcode 2019ScTEn.650.2294L. doi:10.1016/j.scitotenv.2018.09.351. ISSN 0048-9697. PMID 30292122. https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S004896971833852X.