Neidio i'r cynnwys

Llygredd amaethyddol

Oddi ar Wicipedia
Llygredd amaethyddol
Enghraifft o'r canlynolllygredd amgylcheddol Edit this on Wikidata
Mathllygredd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llygredd dŵr oherwydd ffermio llaeth yn ardal Wairarapa yn Seland Newydd (ffotograff o 2003)

Mae llygredd amaethyddol yn cyfeirio at sgil-gynhyrchion biotig ac anfiotig arferion ffermio sy'n arwain at halogi neu ddiraddio'r amgylchedd a'r ecosystemau cyfagos. Gall y llygredd hwn hefyd achosi anaf i bobl a'u buddiannau a gall ddod o amrywiaeth o ffynonellau, yn amrywio o lygredd dŵr o un pwynt (neu ffynhonnell) gollwng (single discharge point) i achosion mwy gwasgaredig, ar lefel tirwedd, a elwir yn llygredd o ffynhonnell nad yw'n bwynt (non-point source pollution) a llygredd aer. Unwaith y byddant yn yr amgylchedd gall y llygryddion hyn gael effeithiau uniongyrchol ar yr ecosystemau cyfagosdrwy, er enghraifft, ladd bywyd gwyllt lleol neu halogi dŵr yfed. Gall hyn hefyd greu effeithiau i lawr yr afon fel parthau marw a achosir gan ddŵr ffo amaethyddol wedi'i grynhoi mewn un man.

Mae arferion rheoli, neu anwybodaeth ohonynt, yn chwarae rhan hanfodol yn swm ac effaith y llygryddion hyn. Ymhlith y technegau rheoli ceir: rheoli anifeiliaid, plaladdwyr a gwrtaith. Gall arferion rheoli gwael gynnwys technegau bwydo gwallus, diffyg rheoli anifeiliaid, gorbori, goraredig, methiant i reoli gwrtaith, a defnydd amhriodol, gormodol o blaladdwyr.

Mae llygryddion o fyd amaeth yn effeithio'n fawr ar ansawdd dŵr ac yna aml, mae'r llygryddion hyn i'w canfod mewn llynnoedd, afonydd, gwlyptiroedd, aberoedd a dŵr daear. Mae llygryddion o ffermydd yn medru cynnwys: gwaddodion, maetholion, pathogenau, plaladdwyr, metelau, a halwynau.[1] Mae amaethyddiaeth anifeiliaid yn cael effaith aruthrol ar lygryddion sy'n mynd mewn i'r amgylchedd. Gall bacteria a phathogenau mewn tail wneud eu ffordd i mewn i nentydd a dŵr daear os nad yw pori, storio tail mewn lagynau a chwalu tail ar gaeau'n cael ei reoli'n iawn.[2] Mae llygredd aer a achosir gan amaethyddiaeth trwy newidiad y defnydd o dir ac arferion amaethyddiaeth anifeiliaid yn cael effaith aruthrol ar newid hinsawdd, ac roedd mynd i'r afael â'r pryderon hyn yn rhan ganolog o Adroddiad Arbennig yr IPCC ar Newid Hinsawdd a Thir.[3]

Ffynonellau anfiotig[golygu | golygu cod]

Plaladdwyr[golygu | golygu cod]

Cropduster spraying pesticides.
Defnyddio plaladdwr o'r awyr.

Rhoddir plaladdwyr a chwynladdwyr ar dir amaethyddol i reoli plâu sy'n amharu ar gynhyrchu cnydau. Gall halogiad pridd ddigwydd pan fydd plaladdwyr yn parhau ac yn cronni mewn priddoedd, a all newid prosesau microbaidd, cynyddu cymeriant cemegolion planhigion, ac maent yn wenwynig i organebau pridd. Mae'r graddau y mae'r plaladdwyr a'r chwynladdwyr yn parhau yn dibynnu ar gemeg unigryw'r cyfansoddyn, sy'n effeithio ar ddeinameg amsugno a'r dynged a chludiant yn yr amgylchedd pridd.[4] Gall plaladdwyr gronni hefyd mewn anifeiliaid sy'n bwyta plâu ac organebau pridd halogedig. Yn ogystal, gall plaladdwyr fod yn fwy niweidiol i bryfed buddiol, fel peillwyr, ac i elynion naturiol plâu (hy pryfed sy'n ysglyfaethu neu'n parasiteiddio plâu) nag y maent i'r plâu targed eu hunain.

Trwytholchi plaladdwyr[golygu | golygu cod]

Mae trwytholchi plaladdwyr yn digwydd pan fydd plaladdwyr yn cymysgu â dŵr ac yn llifo trwy'r pridd, gan halogi dŵr daear yn y pen draw. Mae cydberthynas rhwng maint y trwytholchi a nodweddion arbennig y pridd a phlaladdwyr a faint o law sy'n disgyn. Mae trwytholchiad yn fwyaf tebygol o ddigwydd os defnyddir plaladdwr sy'n hydoddi mewn dŵr, pan fo'r pridd yn dueddol o fod yn dywodlyd o ran ansawdd; os oes dyfrio gormodol yn digwydd yn union ar ôl taenu plaladdwyr; neu os yw gallu arsugniad (adsorption) y plaladdwr i'r pridd yn isel. Gall trwytholchi ddod nid yn unig o gaeau wedi'u trin, ond hefyd o fannau cymysgu plaladdwyr, safleoedd golchi peiriannau taenu plaladdwyr, neu ardaloedd gwaredu plaladdwyr.[5]

Gwrteithiau[golygu | golygu cod]

Defnyddir gwrtaith i ddarparu ffynonellau ychwanegol o faetholion fel Nitrogen, Ffosfforws, a Photasiwm i gnydau sy'n hybu twf planhigion. Er hyn, gallant hefyd amharu ar gylchredau biodaeargemegol maetholion a mwynau naturiol a pheri afiechyd dynol ac ecolegol.

Nitrogen[golygu | golygu cod]

Mae gwrtaith nitrogen yn cyflenwi planhigion â gwahanol ffurfiau o nitrogen sydd ar gael yn fiolegol i'w amsugno gan blanhigion; sef NO 3 (nitrad) a NH 4 + (amoniwm). Mae hyn yn cynyddu'r cynnyrch cnwd (crop yield) a chynhyrchiant amaethyddol, ond gall hefyd effeithio’n negyddol ar ddŵr daear a dŵr wyneb, llygru’r atmosffer, a diraddio iechyd y pridd. Nid yw'r holl faetholion a roddir trwy wrtaith yn cael eu cymryd gan y cnydau, ac mae'r gweddill yn cronni yn y pridd neu'n cael eu colli fel dŵr ffo. Mae gwrteithiau nitrad yn llawer mwy tebygol o gael eu colli i'r pridd drwy ddŵr ffo oherwydd ei hydoddedd uchel a gwefrau tebyg rhwng y moleciwl a gronynnau clai â gwefr negyddol.[6] Mae cyfraddau taenu uchel o wrtaith sy'n cynnwys nitrogen ynghyd â hydoddedd dŵr uchel o nitrad yn arwain at fwy o ddŵr ffo yn ogystal â thrwytholchi i'r dŵr daear, gan achosi llygredd. Gall lefelau nitrad uwchlaw 10 mg/L (10 ppm) mewn dŵr daear achosi “blue baby syndrome” (methemoglobinemia) mewn babanod ac o bosibl clefyd thyroid a gwahanol fathau o ganser.[7]

Ffosfforws[golygu | golygu cod]

Y math mwyaf cyffredin o wrtaith ffosfforws a ddefnyddir mewn arferion amaethyddol yw ffosffad (PO 4 3-), ac fe'i cymhwysir mewn cyfansoddion synthetig sy'n ymgorffori PO43- neu mewn ffurfiau organig fel tail a chompost.[8] Mae ffosfforws yn faeth hanfodol ym mhob organeb oherwydd y rolau y mae'n eu chwarae mewn swyddogaethau celloedd a metabolaeth megis cynhyrchu asid niwclëig a throsglwyddiadau egni metabolaidd. Fodd bynnag, dim ond ychydig bach o ffosfforws sydd ei angen ar y rhan fwyaf o organebau, gan gynnwys cnydau amaethyddol, oherwydd eu bod wedi esblygu mewn ecosystemau â symiau cymharol isel ohono.[9] Mae poblogaethau microbaidd mewn priddoedd yn gallu trosi ffurfiau organig o ffosfforws yn ffurfiau hydawdd sydd ar gael o blanhigion fel ffosffad. Yn gyffredinol, mae gwrtaith anorganig yn osgoi'r cam hwn oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio fel ffosffad neu ffurfiau eraill sydd ar gael. Mae unrhyw ffosfforws nad yw planhigion yn ei gymryd yn cael ei amsugno i ronynnau'r pridd, sy'n ei helpu i angori yn ei le. Oherwydd hyn, mae fel arfer yn mynd i mewn i ddyfroedd wyneb pan fydd y gronynnau pridd y mae ynghlwm wrthynt yn cael eu herydu o ganlyniad i wlybaniaeth neu ddŵr ffo stormydd. Mae'r swm sy'n mynd i mewn i ddyfroedd wyneb yn gymharol isel o'i gymharu â'r swm a ddefnyddir fel gwrtaith, ond oherwydd ei fod yn gweithredu fel maeth cyfyngus (a limiting nutrient) yn y rhan fwyaf o amgylcheddau, gall hyd yn oed ychydig bach ohono darfu ar gylchredau biodaeargemegol ffosfforws naturiol yr ecosystem.[10][11]

Halogion organig[golygu | golygu cod]

Mae tail a biosolidau'n cynnwys llawer o faetholion a fwyteir gan anifeiliaid a phobl ar ffurf bwyd. Mae'r arfer o ddychwelyd cynhyrchion gwastraff o'r fath i dir amaethyddol yn gyfle i ailgylchu maetholion pridd. Yr her yw bod tail a biosolidau'n cynnwys nid yn unig maetholion fel carbon, nitrogen a ffosfforws, ond gallant hefyd gynnwys halogion, gan gynnwys cynhyrchion fferyllol a gofal personol (pharmaceuticals and personal care products neu PPCPs). Mae amrywiaeth eang a nifer helaeth o PPCPs yn cael eu bwyta gan fodau dynol ac anifeiliaid, ac mae gan bob un gemeg unigryw. Fel y cyfryw, nid yw pob un wedi cael ei asesu am eu heffeithiau ar bridd, dŵr ac ansawdd aer. Mae Asiantaeth Diogelu'r Amgylchedd yr Unol Daleithiau (EPA) wedi arolygu carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff ar draws yr Unol Daleithiau i asesu lefelau'r amrywiol PPCPs sy'n bresennol.[12]

Metelau[golygu | golygu cod]

Prif fewnbynnau metelau trwm (ee plwm, cadmiwm, arsenig, arian byw) i systemau amaethyddol yw gwrtaith, gwastraff organig fel tail, a gwastraff sgil-gynhyrchion diwydiannol. Mae gwrteithiau anorganig yn llwybr pwysig i fetelau trwm fynd i mewn i briddoedd.[13] Gall rhai technegau ffermio, megis dyfrhau, arwain at groniad o seleniwm (Se) sy'n digwydd yn naturiol yn y pridd, a all arwain at gronfeydd dŵr i lawr yr afon sy'n cynnwys crynodiadau o seleniwm, sy'n wenwynig i fywyd gwyllt, da byw a bodau dynol. Gelwir y broses hon yn "Effaith Kesterson," a enwyd ar ôl Cronfa Ddŵr Kesterson yn Nyffryn San Joaquin (California, UDA), a ddatganwyd yn domen gwastraff gwenwynig ym 1987.[14] Gall metelau trwm sy'n bresennol yn yr amgylchedd gael eu cymryd gan blanhigion, a all achosi risgiau iechyd i bobl.[15] Mae rhai metelau'n hanfodol i dwf planhigion, ond gall gormod gael effeithiau andwyol ar iechyd planhigion.

Rheoli tir[golygu | golygu cod]

Soil erosion
Erydiad pridd: yma, mae pridd wedi'i olchi o gae wedi’i aredig drwy’r giât hon ac i mewn i gwrs dŵr y tu hwnt.

Mae amaethyddiaeth yn cyfrannu'n fawr at erydiad pridd a dyddodiad gwaddod trwy reolaeth rhy ddwys neu reolaeth tir aneffeithlon. Amcangyfrifir bod diraddio tir amaethyddol yn arwain at ddirywiad di-droi'n-ôl mewn ffrwythlondeb ar tua 6 miliwn ha o dir ffrwythlon bob blwyddyn.[16] Mae croniad gwaddodion mewn dŵr ffo yn effeithio ar ansawdd dŵr mewn amrywiol ffyrdd.  Gall gwaddodiad rwytro llif y dŵr mewn ffosydd, nentydd, afonydd a sianeli mordwyo. Gall hefyd gyfyngu ar faint o olau sy'n treiddio i'r dŵr, sy'n effeithio ar fiota dyfrol. Gall y cymylu hwn ymyrru ar arferion bwydo pysgod, gan effeithio ar ddeinameg y boblogaeth. Mae gwaddodiad hefyd yn effeithio ar gludo a chronni llygryddion, gan gynnwys ffosfforws a phlaladdwyr amrywiol.[17]

Ffynonellau biotig[golygu | golygu cod]

Nwyon tŷ gwydr o dail[golygu | golygu cod]

Rhagwelodd Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig (FAO) bod 18% o nwyon tŷ gwydr anthropogenig yn dod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o dda byw. Awgrymodd yr adroddiad hwn hefyd bod yr allyriadau o dda byw yn fwy na chyfanswm y sector trafnidiaeth gyfan. Er bod da byw ar hyn o bryd yn chwarae rhan mewn cynhyrchu allyriadau nwyon tŷ gwydr, dadleuwyd bod yr amcangyfrifon yn gamliwio. Er bod yr FAO wedi defnyddio asesiad cylch bywyd o amaethyddiaeth anifeiliaid (hy pob agwedd gan gynnwys allyriadau o dyfu cnydau ar gyfer porthiant, cludo i ladd, ac ati), ni wnaethant gymhwyso'r un asesiad ar gyfer y sector cludo.[18]

Mae ffynonellau eraill yn honni bod amcangyfrifon yr FAO yn rhy isel, gan nodi y gallai’r diwydiant da byw byd-eang fod yn gyfrifol am hyd at 51% o nwyon tŷ gwydr atmosfferig a ollyngir yn hytrach nag 18%.[19] Dywed beirniaid fod y gwahaniaeth mewn amcangyfrifon yn deillio o ddefnydd yr FAO o ddata sydd wedi dyddio. Serch hynny, os yw adroddiad yr FAO o 18% yn gywir, mae hynny'n dal i wneud da byw y llygrwr-nwy tŷ gwydr ail-fwyaf.

Bioblaladdwyr[golygu | golygu cod]

Mae bioblaladdwyr yn blaladdwyr sy'n deillio o ddeunyddiau naturiol (anifeiliaid, planhigion, micro-organebau, rhai mwynau). Fel dewis amgen i blaladdwyr traddodiadol, gall biopladdwyr leihau llygredd amaethyddol cyffredinol oherwydd eu bod yn ddiogel i'w trin, fel arfer nid ydynt yn effeithio'n gryf ar infertebratau neu fertebratau buddiol, ac mae ganddynt einioes byr. Fodd bynnag, mae rhai pryderon y gallai bioblaladdwyr gael effeithiau negyddol ar boblogaethau o rywogaethau nad ydynt yn darged.[20] (gw. Datrysiadau sy'n seiliedig ar natur).

Rhywogaethau a gyflwynwyd[golygu | golygu cod]

Mae globaleiddio amaethyddiaeth ar gynnydd, ac wedi arwain at gludo plâu, chwyn a chlefydau yn ddamweiniol i lefydd newydd. Os byddant yn sefydlu yno, maent yn dod yn rhywogaeth ymledol ac fe allant effeithio ar boblogaethau o rywogaethau brodorol[21] a bygwth cynhyrchiant amaethyddol. Yng Nghymru, dau o'r rhain yw Llysiau'r cythraul (Fallopia japonica) a ddaeth o Japan a'r Rhododendron.


Er enghraifft, mae cludo cacwn a fagwyd yn Ewrop ac a gludwyd i’r Unol Daleithiau a/neu Ganada i’w defnyddio fel peillwyr masnachol wedi arwain at gyflwyno parasit o’r Hen Fyd i’r Byd Newydd.[22] Mae’n bosibl i hyn chwarae rhan yn y dirywiad diweddar mewn cacwn brodorol yng Ngogledd America (gw. Niferoedd pryfed yn lleihau). Gall rhywogaethau a gyflwynir yn amaethyddol hefyd groesi gyda rhywogaethau brodorol gan arwain at ddirywiad mewn bioamrywiaeth enetig[21] a bygwth cynhyrchiant amaethyddol.

Gall aflonyddu ar gynefinoedd sy'n gysylltiedig ag arferion ffermio eu hunain hefyd hwyluso sefydlu'r organebau hyn a gyflwynwyd. Gall peiriannau, da byw a phorthiant wedi'u halogi, a hadau cnwd neu borfa wedi'i halogi hefyd arwain at ledaeniad chwyn.

Organebau a addaswyd yn enetig (GMO)[golygu | golygu cod]

Top: Lesser cornstalk borer larvae extensively damaged the leaves of this unprotected peanut plant. (Image Number K8664-2)-Photo by Herb Pilcher. Bottom: After only a few bites of peanut leaves of this genetically engineered plant (containing the genes of the Bacillus thuringiensis (Bt) bacteria), this lesser cornstalk borer larva crawled off the leaf and died. (Image Number K8664-1)-Photo by Herb Pilcher.
(Uchaf) Dail cnau daear (peanut) nad ydynt yn drawsgenig yn dangos difrod helaeth gan larfa tyllwr ŷd Ewropeaidd. (Gwaelod) Mae dail cnau daear wedi'u peiriannu'n enetig i gynhyrchu tocsinau Bt yn cael eu hamddiffyn rhag niwed i lysysyddion.

Fodd bynnag, gall cnydau GMO arwain at halogiad genetig o rywogaethau planhigion brodorol trwy groesrywio (hybridization). Gallai hyn arwain at fwy o chwyn yn y planhigyn neu at ddifodiant y rhywogaeth frodorol. Yn ogystal, gall y planhigyn trawsenynnol ei hun ddod yn chwyn os yw'r addasiad yn gwella ei ffitrwydd mewn ambell amgylchedd.

Gall defnyddio planhigion cnydau GMO sydd wedi'u peiriannu ar gyfer ymwrthedd i chwynladdwyr hefyd gynyddu'n anuniongyrchol faint o lygredd amaethyddol sy'n gysylltiedig â defnyddio chwynladdwr. Er enghraifft, mae'r defnydd cynyddol o chwynladdwr mewn caeau ŷd sy'n gwrthsefyll chwynladdwr yng nghanol gorllewin yr Unol Daleithiau yn lleihau planhigion llaethlys sy'n angenrheidiol i'r larfa glöyn y llaethlys.

Rheoli anifeiliaid[golygu | golygu cod]

Rheoli tail[golygu | golygu cod]

Un o'r prif gyfranwyr at lygredd aer, pridd a dŵr yw gwastraff anifeiliaid. Yn ôl adroddiad 2005 gan yr USDA, mae mwy na 335 miliwn o dunelli o wastraff "mater sych" yn cael ei gynhyrchu'n flynyddol ar ffermydd yn yr Unol Daleithiau.[23] Mae dulliau bwydo anifeiliaid yn cynhyrchu tua 100 gwaith yn fwy o dail na swm y carthion dynol a brosesir mewn gweithfeydd dŵr gwastraff trefol yr Unol Daleithiau bob blwyddyn. Mae llygredd tarddiad gwasgaredig o wrtaith amaethyddol yn fwy anodd i'w olrhain, ei fonitro a'i reoli. Ceir crynodiadau nitrad uchel mewn dŵr daear a gallant gyrraedd 50 mg/litr (terfyn Cyfarwyddeb yr UE).

Mae'r EPA yn awgrymu bod un fferm laeth gyda 2,500 o wartheg yn cynhyrchu cymaint o wastraff â dinas gyda thua 411,000 o drigolion.[24]  

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Agricultural Nonpoint Source Fact Sheet". United States Environmental Protection Agency. EPA. 2015-02-20. Cyrchwyd 22 April 2015.
  2. "Investigating the Environmental Effects of Agriculture Practices on Natural Resources". USGS. January 2007, pubs.usgs.gov/fs/2007/3001/pdf/508FS2007_3001.pdf. Accessed 2 April 2018.
  3. IPCC (2019). Shukla, P.R.; Skea, J.; Calvo Buendia, E.; Masson-Delmotte, V. (gol.). IPCC Special Report on Climate Change, Desertification, Land Degradation, Sustainable Land Management, Food Security, and Greenhouse gas fluxes in Terrestrial Ecosystems (PDF). In press. https://www.ipcc.ch/report/srccl/.
  4. "Environmental Databases: Ecotoxicity Database". Pesticides: Science and Policy. Washington, D.C.: U.S. Environmental Protection Agency (EPA). 2006-06-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-04.
  5. "Environmental Fate of Pesticides". Pesticide Wise. Victoria, BC: British Columbia Ministry of Agriculture. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-25.
  6. "A quick look at the nitrogen cycle and nitrogen fertilizer sources – Part 1". MSU Extension (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-10.
  7. Ward, Mary H.; Jones, Rena R.; Brender, Jean D.; de Kok, Theo M.; Weyer, Peter J.; Nolan, Bernard T.; Villanueva, Cristina M.; van Breda, Simone G. (July 2018). "Drinking Water Nitrate and Human Health: An Updated Review". International Journal of Environmental Research and Public Health 15 (7): 1557. doi:10.3390/ijerph15071557. ISSN 1661-7827. PMC 6068531. PMID 30041450. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6068531.
  8. "Understanding phosphorus fertilizers". extension.umn.edu (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-09.
  9. Hart, Murray; Quin, Bert; Nguyen, M (2004-11-01). "Phosphorus Runoff from Agricultural Land and Direct Fertilizer Effects". Journal of Environmental Quality 33 (6): 1954–72. doi:10.2134/jeq2004.1954. PMID 15537918. https://www.researchgate.net/publication/51369130.
  10. "Managing Phosphorus for Agriculture and the Environment (Pennsylvania Nutrient Management Program)". Pennsylvania Nutrient Management Program (Penn State Extension) (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-07. Cyrchwyd 2020-04-09.
  11. US EPA, OW (2013-11-27). "Indicators: Phosphorus". US EPA (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-19.
  12. "Sewage Sludge Surveys". Biosolids. EPA. 2016-08-17.
  13. Srivastava, Vaibhav; Sarkar, Abhijit; Singh, Sonu; Singh, Pooja; de Araujo, Ademir S. F.; Singh, Rajeev P. (2017). "Agroecological Responses of Heavy Metal Pollution with Special Emphasis on Soil Health and Plant Performances" (yn en). Frontiers in Environmental Science 5. doi:10.3389/fenvs.2017.00064. ISSN 2296-665X.
  14. Presser, Theresa S. (1994-05-01). "The Kesterson effect" (yn en). Environmental Management 18 (3): 437–454. Bibcode 1994EnMan..18..437P. doi:10.1007/BF02393872. ISSN 1432-1009. https://zenodo.org/record/1232546.
  15. Alves, Leticia; Reis, Andre; Gratão, Priscila (2016-07-18). "Heavy metals in agricultural soils: From plants to our daily life". Científica 44 (3): 346. doi:10.15361/1984-5529.2016v44n3p346-361. https://www.researchgate.net/publication/305627542.
  16. Dudal, R. (1981). "An evaluation of conservation needs". In Morgan, R. P. C. (gol.). Soil Conservation, Problems and Prospects. Chichester, U.K.: Wiley. tt. 3–12.
  17. Abrantes, Nelson; Pereira, Ruth; Gonçalves, Fernando (2010-01-30). "Occurrence of Pesticides in Water, Sediments, and Fish Tissues in a Lake Surrounded by Agricultural Lands: Concerning Risks to Humans and Ecological Receptors". Water, Air, & Soil Pollution (Springer Science and Business Media LLC) 212 (1–4): 77–88. Bibcode 2010WASP..212...77A. doi:10.1007/s11270-010-0323-2. ISSN 0049-6979.
  18. Pitesky, Maurice E; Stackhouse, Kimberly R; Mitloehner, Frank M (2009). "Clearing the Air: Livestock's Contribution to Climate Change". Advances in Agronomy. 103. tt. 1–40. doi:10.1016/S0065-2113(09)03001-6. ISBN 978-0-12-374819-5.
  19. Dopelt, Keren; Radon, Pnina; Davidovitch, Nadav (April 16, 2019). "Environmental Effects of the Livestock Industry: The Relationship between Knowledge, Attitudes, and Behavior among Students in Israel". International Journal of Environmental Research and Public Health 16 (8): 1359. doi:10.3390/ijerph16081359. PMC 6518108. PMID 31014019. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6518108.
  20. Montesinos, Emilio (2003). "Development, registration and commercialization of microbial pesticides for plant protection". International Microbiology 6 (4): 245–52. doi:10.1007/s10123-003-0144-x. PMID 12955583. http://revistes.iec.cat/index.php/IM/article/view/9432.
  21. 21.0 21.1 Mooney, H. A; Cleland, E. E (2001). "The evolutionary impact of invasive species". Proceedings of the National Academy of Sciences 98 (10): 5446–51. Bibcode 2001PNAS...98.5446M. doi:10.1073/pnas.091093398. PMC 33232. PMID 11344292. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=33232.
  22. "Bombus franklini (Franklin's Bumble Bee)". Iucnredlist.org. 2008-01-01. Cyrchwyd 2013-07-24.
  23. USDA Agricultural Research Service. "FY-2005 Annual Report Manure and Byproduct Utilization", 31 May 2006
  24. Risk Management Evaluation for Concentrated Animal Feeding Operations (Adroddiad). Cincinnati, OH: EPA. May 2004. p. 7. EPA 600/R-04/042. https://nepis.epa.gov/Exe/ZyPURL.cgi?Dockey=901V0100.txt.