Llech Idris

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Llech Idris
Math maen hir Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.862193°N 3.886264°W Edit this on Wikidata
Llech Idris

Maen hir cynhanesyddol yn ne Gwynedd yw Llech Idris. Saif mewn cae yng nghymuned Trawsfynydd yn ardal Meirionnydd.


Llech Idris yw’r maen hir mwyaf adnabyddus yn ardal Meirionnydd, yr hon a saif hyd ddau gae o Fedd Porius i gyfeiriad y de-orllewin. Nid oes unrhyw wybodaeth bendant pam fod y meini hirion wedi eu codi, ond mae’n amlwg iddynt fod yn gysylltiedig â’r hen lwybrau cynhanesyddol, gyda rhai o’r llwybrau wedi bod mewn defnydd rheolaidd hyd at y 18fed ganrif.

Mae'n garreg 3.2 meter o uchder a'i led yn 1.4 meter.[1] Saif ar bwys hen lwybr cynhanesyddol sy'n cysylltu cyffiniau Llanbedr ar arfordir Ardudwy a Dyffryn Dyfrdwy ger y Bala.[1] Mae Tomen y Mur gerllaw.

Nid oes sicrwydd at bwy y mae'r enw 'Idris' yn cyfeirio, ond ceir Cadair Idris ger Dolgellau a gysylltir ag Idris Gawr.

Y Gyfres o Feini[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Llech Idris yn perthyn i gyfres o feini hirion sy’n cychwyn yn ardal Llanbedr, (oherwydd harbwr naturiol yr afon Artro i dderbyn cynnyrch efydd o ardal Wicklow yn Iwerddon). Mae wedyn yn arwain tu cefn i Landecwyn, trwy Cwm Moch i Gwm Cain, drosodd i’r Bala ac ymlaen i Sir Drefaldwyn at darddiad yr Hafren. O gychwyn yr Hafren gellir dilyn yr afon i Wastadedd Salisbury a Dyffryn Tafwys, sef canolfannau masnachol ac economaidd pwysicaf Prydain yn yr Oes Efydd. Felly, mae’n debyg iawn mai arwyddbyst oeddent.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Ystyrir Llech Idris fel maen hir o dywodfaen caled. Mesurai 10½ troedfedd o uchder wrth 5 troedfedd o led, gyda thrwch o 12 modfedd. Gwyrai’r garreg ychydig tuag at y dwyrain. Pan oedd y fyddin yn ymarfer yn yr ardal yn y ganrif ddiwethaf, gyffelyb i Fedd Porius, ‘roedd ffens o’i amgylch gyda seren haearn bwrw ar bostyn gerllaw fel rhybudd i gadw i ffwrdd.

Chwedloniaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Graeanen Mewn Esgid

Y chwedl sy’n gysylltiedig â’r maen, yw’r cysylltiad gydag Idris Gawr. Yn ôl y stori, ‘roedd Idris yn eistedd ar ei gadair, sef mynydd Cader Idris, pan deimlodd rhywbeth pigog yn ei esgid oedd yn ei boeni’n arw. Tynnodd yr esgid a darganfod greyenyn ynddi, yn ei dymer taflodd y raeanen mor bell a medrai - sef i Gwm Cain ac yno saif fel Llech Idris!

  • Yr Arglwydd Idris

Nid yw hwn i’w gymysgu gydag Idris Gawr. ‘Roedd Idris yn arglwyddiaethu dros gymdogaeth Dolgellau a Llanelltyd yn y 7fed ganrif. Bu iddo gael ei ladd wrth ymladd yn erbyn Sacsoniaid rhywle yng nghyffiniau’r Trallwng yn 632. ‘Roedd ei dranc mor drawiadol iddo gael ei gofnodi nid yn unig yn Annales Cambriae ond hefyd yn y Croniclau Gwyddelig. Mae rhai o’r farn mai carreg i ddynodi ffin diriogaethol yr Arglwydd Idris yw Llech Idris. (Nid yw hwn i’w gymysgu gydag Idris Gawr. ‘Roedd Idris yn arglwyddiaethu dros gymdogaeth Dolgellau a Llanelltyd yn y 7fed ganrif. Bu iddo gael ei ladd wrth ymladd yn erbyn Sacsoniaid rhywle yng nghyffiniau’r Trallwng yn 632. ‘Roedd ei dranc mor drawiadol iddo gael ei gofnodi nid yn unig yn Annales Cambriae ond hefyd yn y Croniclau Gwyddelig. Mae rhai o’r farn mai carreg i ddynodi ffin diriogaethol yr Arglwydd Idris yw Llech Idris.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).
  2. Keith O’Brien (fe gyhoeddwyd y rhan fwyaf o ddeunydd y dudalen hon mewn tri lle: 1. cystadleuaeth "Henebion Plwy' Traws" yn Eisteddfod Llawrplwy a Phenstryd tua 2004; 2. "Hanes Bro Trawsfynydd" gan Merched y Wawr Trawsfynydd a Traws-Newid yn 2012, Y Lolfa (dim ISBN); 3. "Maes y Magnelau" gan Gwasg Carreg Gwalch 2018, ISBN 978-1-84527-655-3.)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]