Idris Gawr
Cawr a gysylltir ag ardal Cader Idris ym Meirionnydd oedd Idris Gawr neu Idris.
Yn ôl y rhestr o gewri Cymru a luniwyd gan yr hynafiaethydd Siôn Dafydd Rhys tua diwedd yr 16g, Idris oedd y pennaf o bedwar cawr oedd yn byw yn yr ardal o gwmpas Dolgellau (Ysgydion, Offrwm ac Ysbryn oedd enwau'r lleill, a cheir yr enwau ar fryniau yn y cylch heddiw).
Ceir bryngaer o'r enw Caer Idris ar Ynys Môn, ond ymddengys nad oes traddodiad ar glawr i'w chysylltu ag Idris Gawr.
Cader Idris
[golygu | golygu cod]Cysylltir Idris â'r mynydd sy'n dwyn ei enw i'r dwyrain o Ddolgellau. Byddai'n arfer mynd i gwm uchel ar y mynydd ac eistedd yno i astudio'r sêr, a dyna sut y cafodd y copa yr enw Cader Idris, yn ôl y chwedl. Dywedir hefyd y byddai unrhyw un a dreuliai'r noson ar gopa Cader Idris ar ei ben ei hun yn dod i lawr yn y bore yn wallgo neu'n fardd. Ceir 'Gwely Idris' ar y mynydd ger Llyn y Gader hefyd.
Cadair Arthur
[golygu | golygu cod]Yn y 19g, bu ehangu ar y rheilffyrdd a thrwy hynny ehangu ar y diwydiant twristaidd. Gan fod diwydiant y Brenin Arthur yn denu twristiaid, ceisiwyd honni bod yr enw Idris yn ffurf amgen Gymreig am Arthur, ac mae Arthur's Seat oedd Cader Idris yn y Saesneg. Dyma sy'n gyfrifol am yr or gyfieithu o "Gader Idris" i "Gadair Idris".[1]
Idris ap Gwyddno
[golygu | golygu cod]Brenin Cantref Meirionnydd oedd Idris ap Gwyddno. Mae'n debyg mae ei hanes ef oedd sylfaen mytholeg Idris y Cawr a'i gadair ger Dolgellau.[2]
Cerrig Esgid Idris
[golygu | golygu cod]Ar ffordd yr A487 - ger safle Llyn y Tri Greyenyn, rhwng Tafarn y Cross Foxes a Chorris mae yna nifer o gerig anferth ar ochr y lôn a symudwyd yno, yn ôl pob tebyg, wrth i'r iâ toddi ar ddiwedd Oes yr Iâ diwethaf. Yn ôl chwedloniaeth leol cerrig a daflodd Idris Gawr allan o'i esgidiau ydynt, wrth iddo deimlo'n anghyffyrddus wrth gerdded o'i gader i fynd i ymofyn diod o ddŵr o Lyn Mwyngil[3]
Telynor cyntaf Cymru
[golygu | golygu cod]Yn ôl un o ffug trioedd Iolo Morganwg, Idris ddyfeisiodd y delyn gyntaf.
Tri chysefin bardd Ynys Prydain
Idris Gawr yr hynaf ac ef a wnaeth y delyn gyntaf,
Eidiol Gleddyfrudd Yr Arch Dderwydd
a Manogan Amherawdwr, tad Beli Gawr.[4]
Er bod hynafiaeth trioedd Iolo wedi ei brofi'n dwyll bellach, mae'r stori am Idris y telynor yn dal yn rhan o chwedloniaeth bro Idris.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Cymeriadau chwedlonol Cymreig
- Cewri (mewn llên gwerin Cymraeg)
- Rhita Gawr
- Cader Idris
- Ysgol y Gader (a enwyd ar ôl Cader Idris nid "Cadair" bondigrybwyll Idris)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Syr John Rhŷs, Celtic Folklore: Welsh and Manx (Rhydychen: Clarendon Press, 1901), cyf. 1 t.203
- ↑ J. Beverley Smith a Llinos Beverley Smith, History of Merioneth Volume II (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)
- ↑ "Rhyfeddodau natur", Cymru'r Plant, cyf. VII rhif 77 Mai 1898; adalwyd 11 Ebrill 2017
- ↑ Bardd y Brenin, Iolo Morganwg a derwyddaeth Cylchgrawn LlGC Cyf. 14, rh. 4 1 Rhagfyr 1966 adalwyd 11 Ebrill 2017
- ↑ "Hen Gerddorion Dolgellau", Cymru, cyf 34 (1908); adalwyd 11 Ebrill 2017
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Siôn Dafydd Rhys, "Olion Cewri", yn Rhyddiaith Gymraeg... 1488-1609, gol. T. H. Parry-Williams (Caerdydd, 1954)
- T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-custom (1930; arg. newydd 1979)