Llyn y Tri Greyenyn

Oddi ar Wicipedia
Llyn y Tri Greyenyn
Mathllyn
Daearyddiaeth
Ardal warchodolParc Cenedlaethol Eryri
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52°42'20"N, 3°50'48"W
Map

Llyn bychan a oedd gynt ym mhlwyf Tal-y-llyn ym Meirionnydd, Gwynedd, nid nepell o Gadair Idris, oedd Llyn y Tri Greyenyn. Fe'i lleolid ym mlaen Cwm Rhwyddfor (neu Gwm Rhwyddor) ar Fwlch Llyn Bach rhwng Minffordd a'r Cross Foxes; Llyn y Tri Greyenyn yw'r 'llyn bach' yn enw'r bwlch. Roedd y ffordd ar un adeg yn mynd heibio ochr y llyn. Yn ddiweddarach fe wellwyd y ffordd drwy lenwi'r rhan fwyaf o'r llyn ac erbyn heddiw mae'r A487 yn mynd trwy'r safle. Mae maes parcio bychan ar leoliad rhan o'r llyn hefyd (ar ochr ogledd-orllewinol y ffordd). Mae rhywfaint o olion yr hen lyn i'w gweld ar yr ochr dde-ddwyreiniol. Gan fod y maes parcio yn lle hwylus ar gyfer gwylio awyrennau milwrol ar 'Ddolen Mach', datblygodd yr enw diweddar 'Mach Loop Car Park'.[1]

Enwau a Thraddodiadau[golygu | golygu cod]

Daw un o'r cyfeiriadau cynharaf at y llyn o tua 1700 pan anfonodd Edward Lhuyd holiadur at bob plwyf yng Nghymru i holi am nodweddion daearyddol, enwau lleoedd, traddodiadau ac ati (y Parochialia). Mae'r ymateb o Dal-y-llyn yn cynnwys y canlynol:

Lhyn pen Morva als [alias] Lhyn y tri Grayenyn ym mlaen K. Rhwydhor ar dervun pl. Dol Gelhey.[2]

Mae enw'r llyn yn gysylltiedig â chwedl am Idris Gawr. Dywedid i Idris sylwi ryw dro ar dri greyenyn (tri darn o raean) yn ei esgid. Tynnodd ei esgid a'u taflu i ffwrdd. Ond ac yntau'n gawr mor enfawr, roedd y tri greyenyn hwythau o faint meini anferth. Glaniodd y tri greyenyn ger safle'r llyn a hynny sy'n esbonio'r enw. Mae o leiaf un o'r cerrig hyn i'w gweld heddiw ar ochr yr A487.

Ceir fersiwn ar y stori hon gan Thomas Pennant yn ail gyfrol ei waith A Tour of Wales (1781):

On the left, is the rugged height of Cader Idris, pass near a small lake called, Llyn y tri Graienyn, or of the three grains; which are three vast rocks, the ruins of the neighbouring mountain, which sometime or other had fallen into the water. These, say the peasants, were the three grains which had fallen into the shoe of the great Idris, which he threw out here, as soon as he felt them hurting his foot.[3]

Ceir stori ynghylch sut y llenwyd y llyn gan Lewis Morris mewn cerdd sy'n disgrifio ei daith o Geredigion yn 1750 i ymweld â William Vaughan o Nannau. Dywed fod y llyn – os gwir y chwedl – wedi ei greu gan 'widdon' (cawres neu wrach) a bisodd ei lond:

Galw ym Minffordd yn frau
i olchi trwm feddyliau
yfodd y tafarnwr y gorau
rhoes y gwaetha i ninnau
oddiyno dan graig ddibyn
trwy fwlch y tri graienyn
a rhyfedd Iawn (os gwir hyn)
lle pisodd gwiddon lonaid llyn[4]

Ar gyrion map degwm Dolgellau (1842), nodir yr enw 'Llyn Tri Graienyn'.[5] Ond mae mapiau diweddarach yr Arolwg Ordnans yn nodi 'Llyn Bach'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Wyn Williams, 'Police warning: Vehicles at Mach Loop and Snowdonia will be towed[dolen marw]', Cambrian News, 23 Gorffennaf 2020; gwelwyd 17 Awst 2020.
  2. R. H. Morris (gol.), Parochialia being a summary of answers to 'Parochial queries in order to a geographical dictionary, etc., of Wales', Archaeologia Cambrensis supplement (1909), t. 6.
  3. Thomas Pennant, The Journey to Snowdon. London, 1781, t. 96.
  4. Huw Owen (gol.), The Additional Letters of the Morrises of Anglesey (1735-1786), Y Cymmrodor, cyf. XLIX, rhan I (1947), t. 196.
  5. Map Degwm Plwyf Dolgellau, Mapiau Degwm Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.