Llan-wern

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanwern)
Llan-wern
Eglwys Sant Mair
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.572°N 2.913°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000821 Edit this on Wikidata
Cod OSST368863 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJohn Griffiths (Llafur)
AS/auJessica Morden (Llafur)
Map

Pentref, cymuned a ward etholiadol ym mwrdeistref sirol Casnewydd yw Llan-wern, hefyd Llanwern. Saif ar ffîn ddwyreiniol dinas Casnewydd.

Mae cynllun i adeiladu gorsaf drên yma ar Brif Linell De Cymru fel rhan o Fetro De Cymru.[1]

Enw[golygu | golygu cod]

Mae dwy ystyr i'r gair 'gwern': y goeden (alder) a'r tir gwlyb hwnnw lle mae'n tyfu. Cofnodwyd enw'r pentref yn gyntaf yn 1321 ("Llanwaryn").

Pobl nodedig[golygu | golygu cod]

Yn y gymuned yma roedd Llanwern House, cartref David Alfred Thomas, Arglwydd Rhondda. Fe'i dymchwelwyd yn y 1950au. Claddwyd Thomas ym mynwent yr eglwys, ac mae neuadd y pentref yn rhodd ganddo ef. Roedd gan y bardd W.H. Davies gysylltiad a'r pentref hefyd.

Diwydiant[golygu | golygu cod]

Prif nodwedd y gymuned yw hen waith dur Llan-wern, a agorwyd yn 1962; y gwaith dur integredig cyntaf yng ngwledydd Prydain. Rhoddwyd y gorau i gynhyrchu dur yma yn 2001, a'i droi yn ffatri gorffennu. Yn 2004, cyhoeddwyd bwriad i ail-ddatblygu rhan o'r safle. Mae'r safle yn ymestyn i gymuned Trefesgob.

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan John Griffiths (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Jessica Morden (Llafur).[3]

Cyfrifiad[golygu | golygu cod]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 333, a phoblogaeth y ward etholiadol yn 3,027.

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llan-wern (pob oed) (289)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-wern) (25)
  
8.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-wern) (229)
  
79.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llan-wern) (50)
  
41%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%




Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Mansfield, Mark (2024-01-18). "Council backs plans for three new railway stations". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-19.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]