W. H. Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o W.H. Davies)
W. H. Davies
Ganwyd3 Gorffennaf 1871 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1940 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerloyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Autobiography of a Super-Tramp Edit this on Wikidata

Llenor Cymreig a ysgrifenai yn yr iaith Saesneg, a chrwydryn oedd W. H. Davies (William Henry Davies) (3 Gorffennaf 187126 Medi 1940). Mae'n fwyaf nodedig am ei gyfrol The Autobiography of a Super-Tramp (1908), un o tua 50 o lyfrau a sgwennodd. Dathlodd ef ei ben-blwydd ar 20 Ebrill, ond 3 Gorffennaf sydd ar ei dystysgrif geni.

Roedd yn ffrind i'r beirdd Edward Thomas, Rupert Brooke a Siegfried Sassoon.

Magwraeth[golygu | golygu cod]

Roedd yn fab i Francis Boase Davies, mowldiwr haearn, Casnewydd-ar-Wysg, a'i wraig Mary Ann.[1] Cafodd ei eni yn 6 Heol Portland ym Mhillgwenlli, Casnewydd. Fe'i addysgwyd yn yr ysgol elfennol, lle magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth.

Cofeb Davies ar wal y tŷ lle'i ganed: "The Church House Inn", ym Mhillgwenlli, Casnewydd.

Priododd Helen Matilda Payne yn 1923, a hithau'n 23 oed, yn y swyddfa gofrestru yn East Grinstead, Sussex. Nododd un o'r tystion fod Davies mewn panic llwyr. Disgrifiwyd ef ar y tystysgrif priodas fel 'awdur'.[2] Nyrs oedd Helena gyfarfu Davies yn yr ysbyty; beichiogodd, ond collodd y plentyn ychydig cyn i'r ddau briodi.[2]

Teithio[golygu | golygu cod]

Wedi gorffen ei brentisiaeth fel cerfiwr a goreurwr, teithiodd yn helaeth drwy U.D.A. a Chanada. Ym Mawrth 1899, collodd ei goes wedi i'w droed dde gael ei mathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.

Ysgrifennu[golygu | golygu cod]

Dychwelodd o America i Gymru a lle treuliodd ei amser yn barddoni. Ar ôl llawer o anawsterau a siomedigaethau, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, The Soul's Destroyer and Other Poems (Mawrth 1905). Erbyn 1911 roedd yn fardd a llenor cydnabyddedig, yn awdur wyth o lyfrau, ac yn cael blwydd-dâl o restr sifil y Llywodraeth am ei drafferth. Yn 1929, fel gwobr am ei wasanaeth i lenyddiaeth, rhoddwyd iddo radd Doethur er anrhydedd iddo, gan Brifysgol Cymru. Bu farw yn Nailsworth, Swydd Gaerloyw, 26 Medi 1940. Caiff ei waith ei ddosbarthu i'r categori 'Gweithiau Siorsiaidd', ond mae arddull a thema'r cerddi yn dra gahanol.[3]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Leisure gan W. H. Davies
Barddoniaeth
  • The Soul's Destroyer (1905)
  • New Poems (1907
  • Nature Poems (1908)
  • Farewell to Poesy (1910)
  • Songs of Joy (1911)
  • Foliage (1913)
  • Raptures (1918)
  • Secrets (1924)
  • The Collected Poems of W. H. Davies (1928)
  • The Loneliest Mountain (1939)
Hunangofiant
Taithlyfr
Cofiant

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 20 Ebrill 2017.
  2. 2.0 2.1 Stonesifer, R. J. (1963), W. H. Davies – A Critical Biography, London: Jonathan Cape, ISBN B0000CLPA3 (y bywgraffiad cyntaf o Davies).
  3. Normand, L. (2003), W. H. Davies, Bridgend: Poetry Wales Press Ltd.
  4. Trawsysgifiad or llyfr Supertramp a chasgliad o ganeuon