W. H. Davies

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
W. H. Davies

Llenor Cymreig yn yr iaith Saesneg a chrwydryn oedd W. H. Davies (William Henry Davies) (3 Gorffennaf 187126 Medi, 1940). Mae'n fwyaf nodedig am ei gyfrol The Autobiography of a Super-Tramp (1908), un o tua 50 o lyfrau a sgwennodd. Dathlodd ef ei ben-blwydd ar 20 Ebrill, ond 3 Gorffennaf sydd ar ei dystysgrif geni.

Roedd yn ffrind i'r beirdd Edward Thomas, Rupert Brooke a Siegfried Sassoon.

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn fab i Francis Boase Davies, mowldiwr haearn, Casnewydd-ar-Wysg, a'i wraig Mary Ann.[1] Cafodd ei eni yn 6 Heol Portland ym Mhillgwenlli, Casnewydd. Fe'i addysgwyd yn yr ysgol elfennol, lle magodd ddiddordeb mewn barddoniaeth.

Priododd Helen Payne yn 1923.

Teithio[golygu | golygu cod y dudalen]

Wedi gorffen ei brentisiaeth fel cerfiwr a goreurwr, teithiodd yn helaeth drwy U.D.A. a Chanada. Ym Mawrth 1899, collodd ei goes wedi i'w droed dde gael ei mathru gan olwyn trên tra'n ceisio neidio ar drên yn Renfrew, Ontario.

Ysgrifennu[golygu | golygu cod y dudalen]

Dychwelodd i America i Loegr a lle treuliodd ei amser yn barddoni. Ar ôl llawer o anawsterau a siomedigaethau, cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, The Soul's Destroyer and Other Poems (Mawrth 1905). Erbyn 1911 roedd yn fardd a llenor cydnabyddedig, yn awdur wyth o lyfrau, ac yn cael blwydd-dâl o restr sifil y Llywodraeth am ei drafferth. Yn 1929, fel gwobr am ei wasanaeth i lenyddiaeth, rhoddwyd iddo radd Doethur er anrhydedd iddo, gan Brifysgol Cymru. Bu farw yn Nailsworth, Swydd Gaerloyw, 26 Medi 1940.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Barddoniaeth
  • The Soul's Destroyer (1905)
  • New Poems (1907
  • Nature Poems (1908)
  • Farewell to Poesy (1910)
  • Songs of Joy (1911)
  • Foliage (1913)
  • Raptures (1918)
  • Secrets (1924)
  • The Collected Poems of W. H. Davies (1928)
  • The Loneliest Mountain (1939)
Hunangofiant
Taithlyfr
Cofiant

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-DAVI-HEN-1871.html Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Gnenedlaethol Cymru; adalwyd 20 Ebrill 2017.