Edward Thomas
Gwedd
| Edward Thomas | |
|---|---|
| Ffugenw | Edward Eastaway |
| Ganwyd | 3 Mawrth 1878 Lambeth |
| Bu farw | 9 Ebrill 1917 Arras |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, beirniad llenyddol, libretydd |
| Tad | Philip Henry Thomas |
| Priod | Helen Thomas |
| Plant | Myfanwy Thomas |
Bardd, traethodydd a nofelydd o Sais o dras Gymreig oedd Philip Edward Thomas (3 Mawrth 1878 – 9 Ebrill 1917, Arras, France).
Fe'i ganwyd yn Lambeth, Llundain i deulu Cymreig. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen.
Caiff ei adnabod yn bennaf fel bardd rhyfel, er mai prin yw ei gerddi sy'n ymdrin yn benodol â'i brofiad o ryfel, a bod ei yrfa fel bardd wedi dilyn ei gryn lwyddiant fel awdur a beirniad llenyddol.
Yn 1915, ymrestrodd â'r Fyddin er mwyn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i lladdwyd ar faes y gad ym Mrwydr Arras yn 1917, yn fuan wedi iddo gyrraedd Ffrainc.
Roedd yn briod â Helen Thomas, awdur As It Was (1926), sy'n trafod eu carwriaeth a'u priodas. Mae'n adnabyddus am ei gerddi am y Rhyfel Byd Cyntaf.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Six Poems (1916; fel "Edward Eastaway")
- Poems (1917)
Nofelau
[golygu | golygu cod]- The Happy-Go-Lucky Morgans (1913)
Eraill
[golygu | golygu cod]- The Woodland Life (1897
- The Heart of England (1906)
- The South Country (1909)
- The Icknield Way (1913)
Cofiant
[golygu | golygu cod]- Matthew Hollis: Now all Roads lead to France: The Last Years of Edward Thomas, Faber & Faber, London 2011, ISBN 978-0-571-24598-7.