Lewis Davies Jones

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lewis Davies Jones
Ganwyd 3 Tachwedd 1851 Edit this on Wikidata
Llangywer Edit this on Wikidata
Bu farw 4 Awst 1928 Edit this on Wikidata (76 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth athro Edit this on Wikidata

Llenor ac eisteddfodwr oedd Lewis Davies Jones, neu Llew Tegid (3 Tachwedd 18514 Awst 1928). Roedd yn athro ym Mangor wrth ei alwedigaeth a chododd arian mawr er mwyn sefydlu Prifysgol Bangor.

Magwraeth a theulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed Llew Tegid yn y Ffridd Gymen ger y Bala ac aeth i Ysgol Frutanaidd y Bala yn 1862, cyn treulio tymor yno fel disgybl-athro. Roedd ganddo dri brawd: un yn daid i'r digrifwr Mici Plwm, y Parch Penllyn Jones ac Owen Cadwaladr Jones. Yn 1881 priododd Elisabeth, merch John Thomas, Plas Madog, y Parc ger y Bala. Roedd yn gyfnither i Thomas Edward Ellis, gwleidydd radicalaidd ac un o feddylwyr politicaidd mwyaf gwreiddiol a blaenllaw ei ddydd. Cawsant ddau fab a thair merch.

Addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Rhwng 1872 a 1873 mynychodd Coleg y Normal, Bangor, sef coleg i hyfforddi athrawon. Bu'n athro yn Ysgol y Cefnfaes, Bethesda, Gwynedd cyn ei benodi yn athro yn Ysgol y Garth, Bangor ym Mehefin 1875, lle treuliodd 27 mlynedd. Fe'i cofir yn bennaf fel arweinydd eisteddfod ac am eiriau llawer o alawon gwerin.

Prifysgol Bangor[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1902 gadawodd yr ysgol er mwyn ymgyrchu i godi arian tuag at adeiladu adeiladau newydd Prifysgol ym Mangor (Y Coleg ar y Bryn); erbyn 1916 roedd wedi codi cannoedd o bunnoedd.

Bu farw ym Mangor ar 4 Awst 1928 ac fe'i claddwyd ym Mynwent Glan Adda, Bangor.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]