Joshua Nkomo
Joshua Nkomo | |
---|---|
Ganwyd | 19 Mehefin 1917 Semokwe |
Bu farw | 1 Gorffennaf 1999 Harare |
Dinasyddiaeth | Simbabwe |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, undebwr llafur |
Swydd | Second Vice President of Zimbabwe |
Plaid Wleidyddol | Zimbabwe African People's Union |
Priod | Johanna Mafuyana |
Chwyldroadwr a gwleidydd o Simbabwe oedd Joshua Mqabuko Nyongolo Nkomo (19 Mehefin 1917 – 1 Gorffennaf 1999).
Bywyd cynnar ac addysg (1917–51)
[golygu | golygu cod]Ganed Joshua Mqabuko Nyongolo Nkomo ar 19 Mehefin 1917 yng Ngwarchodfa Semokwe, Matabeleland, pan oedd tiriogaeth Rhodesia dan reolaeth Cwmni Prydeinig De Affrica. Athro a phregethwr lleyg i Gymdeithas Genhadol Llundain oedd ei dad,[1] a chogyddes yn gweithio i'r genhadaeth leol oedd ei fam.[2] Roedd gan Joshua chwech o frodyr a chwiorydd.[3] Er i nifer o bobl dybio yn ddiweddarach ei fod o dras Ndebele, am fod y mwyafrif o aelodau plaid ZAPU yn hanu o'r grŵp ethnig honno, un o'r Shona oedd Nkomo.[4] Aeth i'r ysgol gynradd yn Rhodesia, a gweithiodd ar fferm ei deulu yn bugeilio'r gwartheg.[3]
Aeth i Dde Affrica yn 1942 i hyfforddi'n saer coed,[3] a gweithiodd yn yrrwr lori i dalu am ei addysg yn Durban a Johannesburg, De Affrica.[1][2][4] Derbyniodd ddiploma mewn gwyddor cymdeithas o Ysgol Jan Hofmeyr, a dychwelodd i Dde Rhodesia i weithio i'r rheilffyrdd yn 1947. Nkomo oedd y dyn du cyntaf i gael ei gyflogi yn weithiwr cymdeithasol gan gwmni Rhodesia Railways.[3] Derbyniodd ei radd baglor mewn economeg a gwyddor cymdeithas, drwy gwrs gohebol o Brifysgol De Affrica, Johannesburg, yn 1951.[3][4]
Yn 1949 priododd Joshua Nkomo â Joanna Fuyane Magwegwe, a chawsant ddau fab a dwy ferch.[2]
Gyrfa wleidyddol yn Rhodesia a'r frwydr am annibyniaeth (1951–79)
[golygu | golygu cod]Yn 1951, cychwynnodd Nkomo ar ei yrfa wleidyddol pan ddaeth yn ysgrifennydd cyffredinol Undeb Gweithwyr Affricanaidd y Rheilffyrdd, yr undeb llafur i weithwyr croenddu y rheilffyrdd yn Rhodesia. Trwy ei areithiau huawdl yn yr iaith Ndebele a'r Saesneg a'i bresenoldeb awdurdodol, enillodd enw o fod yn genedlaetholwr Affricanaidd pybyr ac yn arweinydd carismatig.[3] Ymunodd â Kenneth Kaunda o Ogledd Rhodesia a Hastings Banda o Wlad Nyasa i wrthwynebu ffurfio Ffederasiwn Rhodesia a Gwlad Nyasa yn 1953.[2] Etholwyd Nkomo yn llywydd y Gyngres Genedlaethol Affricanaidd yn Ne Rhodesia yn 1957. Wedi i'r mudiad hwnnw gael ei wahardd yn 1959, ffoes Nkomo i Loegr i osgoi gael ei garcharu. Dychwelodd i Dde Rhodesia yn 1960 a sefydlodd y Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol (NDP). Gwaharddwyd yr NDP yn 1961, a sefydlodd Undeb Pobl Affricanaidd Simbabwe (ZAPU).[4]
Er iddo ddenu nifer o ddilynwyr yn nechrau'r 1960au, bu rhai cenedlaetholwyr yn amau ei allu i wrthsefyll erbyn y llywodraeth groenwen. Buont yn cyhuddo Nkomo o fod yn barod i gymodi â'r llywodraeth a heb yr hyder oedd ei angen i frwydro dros ryddid yr Affricanwyr duon. Trodd aelodau milwriaethus y mudiad, dan arweiniad Robert Mugabe a Ndabaningi Sithole, eu cefnau ar ZAPU yn 1963 i ffurfio Undeb Cenedlaethol Affricanaidd Simbabwe (ZANU). Aeth Nkomo i Danganica i geisio ddwyn perswâd ar yr Arlywydd Julius Nyerere i gefnogi llywodraeth alltud, ond methiant oedd ei gynlluniau a dychwelodd i Salisbury, prifddinas De Rhodesia, yn 1964 lle gafodd ei arestio.[2] Carcharwyd Nkomo, ac arweinwyr eraill y mudiad cenedlaetholgar, gan lywodraeth Rhodesia o 1964 i 1974. Wedi iddo gael ei ryddhau, teithiodd ar draws Affrica ac i Ewrop i hyrwyddo achos ei blaid a'r nod o lywodraeth i'r mwyafrif croenddu yn Rhodesia, a ddatganodd ei hannibyniaeth oddi ar yr Ymerodraeth Brydeinig yn 1965.[4] Aeth Nkomo i Sambia (ynghynt Gogledd Rhodesia) yn alltud ac oddi yno fe arweiniodd ymgyrch herwfilwrol ZAPU yn erbyn y llywodraeth groenwen, gyda chymorth oddi ar yr Undeb Sofietaidd.[3] Wedi i'r ffin rhwng y ddwy wlad gael ei chau yn 1973, nid oedd modd i ZAPU dwyn cyrchoedd ar luoedd Rhodesia o Sambia, a lluoedd ZANU, dan arweiniad Mugabe gyda chanolfannau ym Mosambic a chymorth oddi ar Tsieina, oedd ar flaen y gad yn y rhyfel yn erbyn Rhodesia.[2] Yn 1976 ymgynghreiriodd ZAPU â ZANU, dan enw'r Ffrynt Gwladgarol.[4]
Gyrfa wleidyddol yn Simbabwe a diwedd ei oes (1980–99)
[golygu | golygu cod]Yn sgil Cytundeb Lancaster House, daeth y rhyfel i ben a sefydlwyd Gweriniaeth Simbabwe yn 1980. Bu ZANU yn drech na ZAPU yn etholiadau seneddol 1980, ac yn ennill 57 o seddi o gymharu â'r 12 a enillwyd gan blaid Nkomo.[2] Penodwyd Nkomo yn Weinidog dros Faterion Mewnol yng nghabinet y Prif Weinidog Robert Mugabe, dan yr Arlywydd Canaan Banana, ond cafodd ei ddiswyddo gan Mugabe yn 1982 a'i gyhuddo o gynllwynio yn ei erbyn. Cynyddodd yr ymgecru rhwng y ddwy blaid ar fin gwrthdaro ethnig rhwng y Shona, a oedd yn tueddu i bleidleisio dros ZANU, a'r Ndebele, a oedd yn gyffredinol yn cefnogi ZAPU. O ganlyniad, bu farw miloedd ar filoedd o Ndebele yn y lladdfeydd a elwir Gukurahundi yng nghanol y 1980au. Ffoes Nkomo o'r wlad unwaith eto, trwy Fotswana i Lundain, ac yno cyhoeddodd ei hunangofiant, Nkomo, the Story of My Life, yn 1984.[3][4] Dychwelodd i Simbabwe yn 1985 i ymgyrchu yn yr etholiadau cenedlaethol.[3]
Yn 1987, cytunodd Nkomo a Mugabe gyfuno eu pleidiau i ffurfio ZANU–PF mewn ymgais i uno grwpiau ethnig y wlad mewn llywodraeth newydd. Gwasanaethodd Nkomo yn Uwch-weinidog i'r Arlywydd Mugabe o 1988 i 1990.[2] Penodwyd Nkomo yn Is-Arlywydd Simbabwe yn 1990, ond nid oedd ganddo fawr o rym yn y swydd honno.[4] Bu'n dal y swydd honno ar y cyd â Simon Muzenda, a fu hefyd yn is-arlywydd o 1987 i 2003. Er iddo ddal swydd Is-Arlywydd Simbabwe hyd at ei farwolaeth, aeth Nkomo ar encil o fyd gwleidyddiaeth yn ystod tair blynedd olaf ei oes wedi iddo gael diagnosis o ganser y prostad yn 1996. Bu farw yn Harare ar 1 Gorffennaf 1999 o ganser y prostad yn 82 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Donald G. McNeil Jr., "Joshua Nkomo of Zimbabwe Is Dead at 62", The New York Times (2 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 18 Chwefror 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 (Saesneg) Tom Porteous, "Obituary: Joshua Nkomo Archifwyd 2020-02-19 yn y Peiriant Wayback", The Independent (2 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 19 Chwefror 2020.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 3.6 3.7 3.8 (Saesneg) Andrew Meldrum, "Obituary: Joshua Nkomo", The Guardian (2 Gorffennaf 1999). Adalwyd ar 18 Chwefror 2020.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 4.3 4.4 4.5 4.6 4.7 (Saesneg) Joshua Nkomo. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Chwefror 2020.