Canaan Banana

Oddi ar Wicipedia
Canaan Banana
Ganwyd5 Mawrth 1936 Edit this on Wikidata
Esigodini Edit this on Wikidata
Bu farw10 Tachwedd 2003 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethSimbabwe Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Kansai
  • Wesley Theological Seminary Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, academydd, offeiriad, diplomydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Simbabwe Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Simbabwe Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolZANU, Zimbabwe African National Union – Patriotic Front Edit this on Wikidata
PriodJanet Banana Edit this on Wikidata

Gwleidydd, gweinidog Methodistaidd, a diwinydd Simbabweaidd oedd y Parchedig Dr Canaan Sodindo Banana (5 Mawrth 193610 Tachwedd 2003) a fu'n Arlywydd Simbabwe o 1980 i 1987.

Bywyd cynnar ac addysg (1936–66)[golygu | golygu cod]

Ganed Canaan Sodindo Banana ar 5 Mawrth 1936 yn Esiphezini yn ardal Essexvale (bellach Esigodini), Matabeleland, yn Ne Rhodesia, un o drefedigaethau'r Goron Brydeinig. Roedd ei dad yn weithiwr o Wlad Nyasa a'i fam yn frodores Ndebele. Cafodd ei hyfforddi'n athro yn Athrofa Tegwani cyn iddo astudio yng Ngholeg Diwinyddol Epworth yn Salisbury (bellach Harare), Canolfan Ddiwydiannol Kansai yn Japan, Coleg Diwinyddol Wesley yn Washington, D.C., a Prifysgol De Affrica yn Pretoria. Priododd â Janet yn 1961 a chawsant dri mab ac un ferch. Cafodd Banana ei ordeinio'n weinidog yn yr Eglwys Fethodistaidd yn 1966.[1]

Ei weinidogaeth (1966–72)[golygu | golygu cod]

Yn y 1960 a'r 1970au, daeth Banana yn adnabyddus fel pregethwr gwrth-drefedigaethol a oedd yn arddel diwinyddiaeth rhyddhad. Cyhoeddodd gyfrol o'r enw The Gospel According To The Ghetto, sydd yn cynnwys fersiwn ei hun o Weddi'r Arglwydd. Ymunodd â Chenhadaeth Ddiwydiannol Drefol De Affrica o 1970 i 1973.[1]

Gyrfa wleidyddol a diplomyddol (1972–97)[golygu | golygu cod]

Yn 1972, Banana oedd un o sefydlwyr y Cyngor Cenedlaethol Affricanaidd, a bu'n is-lywydd y mudiad hwnnw o 1972 i 1973. Cynrychiolodd y Cyngor yn y Cenhedloedd Unedig o 1973 i 1975 ac yng Nghynhadledd Genefa yn 1976. Yn y cyfnod hwnnw, ar ddiwedd Rhyfel Gwylltir Rhodesia, cafodd Banana ei garcharu sawl tro a gwaharddwyd ei ysgrifeniadau gan y llywodraeth.[1]

Penodwyd Banana yn Arlywydd Simbabwe yn 1980. Swydd seremonïol oedd yr arlywyddiaeth, ond roedd Banana yn bwysig wrth ddod â'r Gukurahundi i ben a chymodi'r Shona a'r Ndebele. Wedi iddo adael llywodraeth Simbabwe, bu'n weithgar mewn mudiadau heddwch ar draws Affrica. Yn 1989 arweiniodd Gyngor Eglwysi'r Byd yn yr ymgyrch yn erbyn apartheid yn Ne Affrica, a gwasanaethodd yn llysgennad arbennig Sefydliad Undeb Affrica yn Rhyfel Cartref Cyntaf Liberia (1989–97).[1]

Achos llys a diwedd ei oes (1998–2003)[golygu | golygu cod]

Yn 1998, rhoddwyd Banana ar brawf wedi ei gyhuddo o 11 o ymosodiadau rhyw, gan gynnwys dau gyhuddiad o sodomiaeth. Fe'i cyhuddwyd o dreisio aelodau gwrywol yn ei staff, gan gynnwys garddwyr, cogyddion a gwarchodwyr. Yn ôl tystiolaeth a ddatgelwyd yn yr achos llys, bu Mugabe yn ymwybodol o droseddau Banana ond ni wnaeth unrhyw beth i'w atal. Fe'i cafwyd yn euog o droseddau rhyw a'i ddedfrydu i garchar am 10 mlynedd, wedi ei ohirio am 9 mlynedd. Bu dan glo am wyth mis, a'r mwyafrif o'r cyfnod hwnnw dan arestiad tŷ. Bu farw yn Ysbyty Charing Cross, Hammersmith, Llundain, o ganser yn 67 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 (Saesneg) Andrew Meldrum, "Obituary: The Rev Canaan Banana", The Guardian (12 Tachwedd 2003). Adalwyd ar 28 Chwefror 2020.