Joseph Loth

Oddi ar Wicipedia
Joseph Loth
Ganwyd27 Rhagfyr 1847 Edit this on Wikidata
Ar Gemene Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1934 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Galwedigaethgeiriadurwr, ieithydd, athro cadeiriol, hanesydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PlantArthur William Loth Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur de la Légion d'honneur‎, Gwobr Langlois Edit this on Wikidata

Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Lydawr oedd Joseph Loth (27 Rhagfyr 18471 Ebrill 1934). Roedd yn frodor o Guémené-sur-Scorff, Llydaw. Roedd yn ddisgybl i d'Arbois de Jubainville.

Ar ôl cyfnod fel darlithydd ym Mhrifysgol Rennes bu'n athro yn y Collège de France, Paris hyd ei ymddeoliad yn 1930. Cyfranodd nifer o erthyglau a llyfrau ar yr ieithoedd Celtaidd a llenyddiaeth Geltaidd, yn arbennig llenyddiaeth Lydaweg a llenyddiaeth Gymraeg. Bu'n olygydd y cylchgrawn Revue Celtique.

Fe'i cofir yn bennaf yng Nghymru am ei gyfieithiad o'r Mabinogion i'r Ffrangeg (1889), sy'n glasur i'w gymharu â chyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest i'r Saesneg, a'i astudiaeth o fydryddiaeth Cymraeg Canol La Métrique Galloise (1900-1902).

Llyfryddiaeth ddethol[golygu | golygu cod]

  • Vocabulaire Vieux-breton (1884)
  • L'Emigration Bretonne en Armorique (1885)
  • Les Mabinogion (1889)
  • Les Mots Latins dans les Langues Brittoniques (1892)
  • La Métrique Galloise (1900-02)