Llenyddiaeth Lydaweg

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Gellir rhannu llenyddiaeth Lydaweg yn dri chyfnod sy'n adlewyrchu hanes yr iaith Lydaweg: yr Hen Oes, yr Oes Ganol, a'r Oes Fodern.

Llenyddiaeth Hen Lydaweg[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond ychydig o olion o'r Hen Lydaweg, sef y cyfnod o'r 7g i'r 11g, sydd yn goroesi, bron i gyd yn enwau a glosau ar eiriau Lladin mewn dogfennau.

Llenyddiaeth Llydaweg Canol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnai cyfnod y Llydaweg Canol yn yr 11g. Y testun llenyddol cynharaf yn yr iaith Lydaweg ydy Dialog etre Arzur roe d'an Bretouned ha Guinglaff ("Ymddiddan rhwng Arthur, brenin y Brythoniaid a Gwinglaff") sy'n dyddio o'r 15g. Mae'r mwyafrif o destunau Llydaweg Canol, hyd at yr 17g, yn ymdrin â phynciau chrefyddol. Ymhlith y rhain mae nifer o ddramâu miragl sydd yn seiliedig ar hanesion yr Efengyl a bucheddau'r saint. Mae un ddrama firagl, Buhez Santez Nonn ("Buchedd y Santes Non"), yn seiiliedig ar destun Lladin o Fuchedd Dewi. Enghraifft o farddoniaeth grefyddol y cyfnod ydy Mellezour an Maru ("Drych Angau"), cerdd hir o 1519 sydd yn ymwneud â'r Farn Ddiwethaf. Y rhyddiaith gyntaf o bwys yn Llydaweg ydy Buhez Sante Cathell ("Buchedd y Santes Gatrin"; 1519), cyfieithiad o ffynhonnell Ladin yn bennaf.

Llenyddiaeth Llydaweg Modern[golygu | golygu cod y dudalen]

Dywed i'r Llydaweg Modern gychwyn yng nghanol yr 17g, er i lenyddiaeth yn yr iaith barhau i ymdrin â ffurfiau a phynciau tebyg i weithiau cyfnod y Llydaweg Canol. Parhaodd traddodiad y ddrama firagl yn brif ffurf llenyddiaeth Lydaweg hyd at y 18g.

Adfywiad y 19g[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffynnai diddordeb yn yr iaith Lydaweg yn nechrau'r 19g, yn bennaf mewn ymateb i'r ymdrechion gan lywodraeth Ffrainc i ddifa ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol y wlad. Cyfieithwyd y Beibl i'r Llydaweg yn 1827 gan Jean François Legonidec. Carreg filltir bwysig yn adfywiad yr iaith lenyddol oedd hyn, er na chafodd bathiadau Legonidec a'i ymdrech i buro'r iaith rhag benthyceiriau Ffrangeg fawr o ddylanwad. Yn 1839 cyhoeddwyd y casgliad Barzaz Breiz ("Barddoniaeth Llydaw") gan Hersart de Villemarqué. Fe honnai taw detholiad o ganeuon hen iawn y werin Lydewig ydoedd, ond yn wir fe adolygai sawl un ac roedd nifer fawr ohonynt o darddiad diweddar. Serch hynny, sbardunwyd nifer o awduron eraill megis Anatole Le Braz i gasglu, cofnodi a chyhoeddi llên lafar y Llydawyr: rhigymau, straeon gwerin, diarhebion, damhegion, a dychmygion ar eiriau. Un o feirdd mwyaf poblogaidd y cyfnod oedd Prosper Proux, awdur Canaouennou gret gant eur C’hernewod ("Cerddi gan Ddyn o Gernyw"; 1838).

Yr 20g[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlwyd sawl cyfnodolyn yn yr 20g i gyhoeddi gwaith newydd, gan gynnwys Gwalarn (yn ddiweddarach Al Liamm). Un o nofelau gwychaf yr iaith ydy Itron Varia Garmez (1941) gan Youenn Drezen. Ymhlith llenorion pwysig eraill yr 20g mae'r bardd crefydol Jean Pierre Colloc'h a'r bardd natur Roperzh Er Mason.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]